Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Teyrnged i Edmund Owen

17 Hydref 2017 | gan Wyn James

  • Cymeriad a hoffai’r encilion oedd Edmund Owen, ond gwnaeth gyfraniad hynod bwysig i’r bywyd Cristnogol Cymraeg mewn sawl cyfeiriad. Roedd gwedd gyhoeddus i’w gyfraniad, wrth reswm, fel gweinidog ac awdur, ond roedd llawer agwedd ar ei gyfraniad a oedd allan o olwg y cyhoedd. Fe’i penodwyd yn aelod o staff Mudiad Efengylaidd Cymru yn 1974, ac wedi imi ymuno â’r staff yn 1977 buom yn cydweithio’n agos nes imi adael y Mudiad yn 1994; yn wir, buom yn rhannu’r un swyddfa ym Mryntirion yn ystod y cyfnod hwnnw. Fe fûm felly yn dyst beunyddiol dros flynyddoedd lawer i’w gonsýrn mawr dros achos yr efengyl, ei gymwynasgarwch parod, ei ddiwylliant eang, ei ddiwydrwydd mawr, ei ffraethineb cynnil, ei bwyll, ei wreiddioldeb, ei ddoniau llenyddol a’i dduwioldeb dwfn.

Gofynnwyd imi sôn ychydig am ei gyfraniad llenyddol a llunio llyfryddiaeth o’i gyhoeddiadau (sydd ar gael ar wefan MEC neu drwy gysylltu gyda’r swyddfa). Hyd y gwelaf, mae’r cyfraniad hwnnw’n syrthio’n fras i dair rhan:

Golygydd

Gweithredai yn olygydd ar gyfer cyhoeddiadau Cymraeg y Mudiad Efengylaidd. Brenda Lewis oedd yn bennaf cyfrifol am olygu cyhoeddiadau Saesneg y Mudiad, ond gwnaeth Edmund hefyd waith golygyddol ar sawl cyhoeddiad Saesneg, a pharhaodd i wneud gwaith golygyddol ar gyfrolau Cymraeg a Saesneg wedi iddo ‘ymddeol’ yn swyddogol yn 1996. Roedd elfennau gweinyddol i’w waith yn olygydd – cysylltu ag awduron, dylunwyr a gweisg argraffu, paratoi deunydd cyhoeddusrwydd, ac yn y blaen – ond treuliodd lawer o’i amser yn darllen llawysgrifau a phroflenni, yn mireinio’r mynegiant ac yn cywiro gwallau, ac roedd ganddo ddawn arbennig i’r cyfeiriad hwnnw: clust dda ar gyfer gwella arddull a llygad graff i weld gwallau.
Rhannai ef a minnau’r gwaith golygyddol, ond yn ystod ein cyfnod ni’n dau o gydweithio, mae’n siŵr iddo ddarllen popeth a gyhoeddwyd yn y Gymraeg gan Wasg Efengylaidd Cymru o leiaf unwaith yn ystod y broses o olygu’r testun neu ddarllen y proflenni. Ef oedd Ysgrifennydd Bwrdd Golygyddol Y Cylchgrawn Efengylaidd rhwng 1975 a 1980, ac felly gweithredai i raddau helaeth fel ei olygydd yn ystod y cyfnod hwnnw; ond darllenai broflenni’r Cylchgrawn mewn cyfnodau diweddarach hefyd. Ef oedd golygydd cyffredinol y gyfres o ddarlleniadau Beiblaidd dyddiol, Bara’r Bywyd, y dechreuodd Gwasg Efengylaidd Cymru ei chyhoeddi yn 1980, ac ysgrifennodd dair cyfrol yn y gyfres honno, ar Lyfr Josua, Efengyl Ioan, ac Epistolau Ioan a’r Datguddiad. Gwnaeth gyfraniad golygyddol amhrisiadwy hefyd yn achos cyfrolau pwysig megis
Y Beibl i Blant mewn 365 o Storïau (1991) – y llyfr Cymraeg a werthodd orau yn y cyfnod cyn y Nadolig yn 1991. Ond ei orchestwaith oedd ei waith golygyddol ar yr argraffiad diwygiedig o’r cyfieithiad Cymraeg ‘traddodiadol’ o’r Testament Newydd, a gyhoeddwyd yn 1991. Treuliodd oriau lawer yn cydlynu sylwadau’r paneli o arbenigwyr ar y Gymraeg a’r Groeg a gynigiai welliannau i’r cyfieithiad. Ef a baratôdd y testun terfynol ar gyfer ei gyhoeddi, a dosbarthwyd y cyfieithiad diwygiedig hwnnw i filoedd lawer o blant ac eraill gan y Gedeoniaid – er enghraifft, dosbarthwyd tua 40,000 ohonynt i ysgolion yn ystod y deng mlynedd rhwng 1991 a 2001.

Cyfieithydd

Cyfieithai Edmund bob math o ddeunyddiau, o adroddiadau a chofnodion pwyllgorau i emynau a charolau, ac o’r Gymraeg i’r Saesneg yn ogystal ac i’r Gymraeg, fel y gwelwn yn achos ei gyfieithiadau mydryddol rhagorol o emynau mawr David Charles a Phedr Fardd yn Christian Hymns (1977). Roedd Edmund yn gyfieithydd tan gamp, fel y dengys ei addasiadau nodedig o dair o nofelau C. S. Lewis yn y gyfres Chronicles of Narnia. Un o nodweddion ysgrifennu C. S. Lewis yw ei arddull glir, ac mae’r addasiadau Cymraeg yn adlewyrchu’r gwreiddiol yn hynny o beth. Cymreigiodd Edmund y llyfrau yn drwyadl wrth eu haddasu. Er enghraifft, mae enw’r wlad hud wedi ei newid o ‘Narnia’ i ‘Wernyfed’. Yna, yn achos y plant sy’n ymweld â’r wlad hud, trowyd enwau tri ohonynt, Peter, Susan a Lucy, yn Rhodri, Meinir a Luned (enwau plant ei gyfaill agos, y Parch. Sulwyn Jones); ond sylwer bod enw dafad ddu’r teulu wedi ei newid o ‘Edmund’ i ‘Edward’ – enghraifft fach o’r hiwmor tawel a oedd mor nodweddiadol o Edmund Owen. Ond heblaw am newid enwau, llwyddodd Edmund i Gymreigio’r llyfrau drwyddynt draw o ran arddull a mynegiant. Addasiadau yn hytrach na chyfieithiadau llythrennol yw’r fersiynau Cymraeg, heb ymdrech i gyfieithu pob iod a thipyn, a bu hynny’n fodd nid yn unig i Gymreigio’r arddull ond hefyd i gyflymu ac ystwytho rhediad y stori ar adegau. Rhwng popeth, mae addasiadau Edmund Owen o lyfrau C. S. Lewis cystal pob dim â’r gwreiddiol – bron na ddywedwn eu bod yn rhagori ar brydiau. Ac yn ogystal â bod yn storïau cyffrous, mae yn y cyfrolau hyn, i’r sawl a chanddynt lygad i weld, haenau sy’n rhoi golwg alegorïaidd gofiadwy ar lawer agwedd ar y ffydd a’r bywyd Cristnogol. Dyma, felly, wledd o ddarllen difyr sy’n agor y drws i wleddoedd ysbrydol yn ogystal.

Bardd a Llenor

Yn ogystal â’i allu fel golygydd a chyfieithydd, roedd gan Edmund y ddawn i ysgrifennu gweithiau gwreiddiol. Perthynai i’w waith ffresni a graenusrwydd, gwybodaeth eang a dwyster defosiynol. Yr enghraifft amlycaf o hynny yw’r gyfres hir o ysgrifau, ‘Arhoswch Funud’, yn Y Cylchgrawn Efengylaidd, y casglwyd 61 ohonynt i’r gyfrol, Blodau Hardd Williams ac Ysgrifau Eraill (2014). Trodd ei law hefyd at ysgrifennu am hanes yr eglwys, a lluniai farddoniaeth yn ogystal. Detholwyd tair o’i gerddi, er enghraifft, i O Gylch y Gair: Cyfrol o Gerddi Cristnogol, gol. John Emyr (1987). Un o’i gerddi mwyaf trawiadol, yn fy marn i, yw ‘Angof’, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1973. Mae’n gerdd sy’n adleisio ‘Englynion y Beddau’, cyfres o gerddi byrion o’r Oesoedd Canol sy’n coffáu arwyr. Mae’r rhan fwyaf o’r rheini’n dair llinell o ran hyd, a nifer ohonynt yn agor â’r geiriau ‘Piau y bedd …’ Yn y gerdd ‘Angof’, cyfeiria Edmund at dri arweinydd mawr Diwygiad Methodistaidd y ddeunawfed ganrif, Williams Pantycelyn, Howel Harris a Daniel Rowland, gan ofidio mai enwau yn unig ydynt bellach i’r rhan fwyaf. Roedd hynny yn 1973, a dagrau pethau yw bod yr ymwybyddiaeth o’n treftadaeth Gristnogol Gymraeg gyfoethog wedi dirywio gymaint dros y deugain mlynedd diwethaf fel mai prin bod hyd yn oed eu henwau’n gyfarwydd i lawer o bobl Cymru erbyn heddiw. Ond erys ergyd y gerdd yr un fath, a phriodol yw gorffen y sylwadau hyn trwy ei dyfynnu’n llawn, nid yn unig am ei bod yn sôn yn ei phennill cyntaf am Williams Pantycelyn, a ninnau’n cofio eleni 300 mlwyddiant ei eni, ond hefyd am ei bod yn mynegi’n groyw ac yn loyw yr hiraeth am lwyddiant yr efengyl Gristnogol yn ein gwlad a oedd yn gymaint o fyrdwn gan Edmund Owen ac sy’n allwedd i ddeall ei holl waith a’i ymroddiad.

Angof

Piau’r bedd yn Llanymddyfri?
Rhyw William Williams, gŵr Mary.
—‘Dewch bobol, mae’n dechrau oeri.’

Piau’r goflech yn Nhalgarth?
Rhyw Howel, rhyw Harris ddiarth.
—‘Gwae fi fyw i weld y gwarth!’

A’r golofn ger y capel?
Curad o’r enw Daniel.
—‘O Dduw, na ddeuai’r awel!’

Enwau yn unig ydynt
I’r llu cyffredin ar hynt;
Ni wyddant hwy mo’u helynt.

O Arglwydd, dychwel eto
Eu bri o’u beddrodau clo,
A’u hefengyl o’i hamdo.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF