i Ania Lili, wedi gweld casgliad Prifysgol Harvard o blanhigion gwydr
Carwn ddangos iti’r breuder hwn:
harddwch creu o ffwrnais
awen dyn â dwylo’i grefft;
dawn efelychu roddodd fod
i batrwm pob un petal prin,
tryloywder lliw, gosodiad dail,
cyn clymu gwreiddiau blêr
y cannoedd rywogaethau.
Carwn ddangos iti’r harddwch hwn:
trefn tymhorau’n saff am dro
mewn gardd o gasys gwydr,
blagur, blodau, ffrwythau, had,
yn ffrwydrad byw ail Eden
dan gysgod y gorchymyn
a gawsom oll i’w gwarchod
(er ein gwaethaf) hyd y diwedd.
A charwn ddangos iti hefyd ’rhain,
a dysgu iti hwiangerddi’u henwau:
Lili’r Wyddfa, Heboglys Eryri –
a Radur, Cerddinen Darren Fach
a’r Gerddinen Gymreig … dysgu iti
gân eu tanio, Ania Lili, ac alaw
eu twf yn ein tir – rhag i’w gwydr
hwythau chwalu’n ulw yn y man.