Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Munud yng nghwmni Lowri Emlyn

17 Hydref 2017

Cest ti fagwraeth mewn teulu Cristnogol ond sut y dest ti i nabod Iesu Grist yn bersonol?

Roeddwn i wastad yn ymwybodol nad magwraeth Gristnogol oedd yn gwneud rhywun yn Gristion. Yn blentyn, roedd yna adeg pan oeddwn i’n meddwl am bethau Duw a chlywed Duw yn siarad â fi yn bersonol trwy bregethau. Roeddwn i’n gwybod bod angen Iesu er mwyn i fi gael nabod Duw a stopio bod yn elyn iddo. Ond ces i flynyddoedd o ansicrwydd. Roeddwn i’n tueddu i gael fy chwythu lan a lawr gydag amgylchiadau ac emosiynau yn lle pwyso ar addewidion Duw yn y Beibl. Diolch i Dduw ei fod yn llawn amynedd! Dwi’n dal i dyfu i nabod a mwynhau Iesu yn well gan mai perthynas â pherson byw ydyw.

Llenyddiaeth Saesneg astudiaist ti yn y coleg. Pa awduron neu gyfrolau wyt ti’n eu mwynhau?

Dwi wir yn hoffi llyfrau sy’n ymdrin â diwylliannau gwahanol. Mae’n debyg mai twrist diog ydw i! Ffuglen hanesyddol dwi’n eu dewis er mwyn ymlacio. O ran barddoniaeth, George Herbert yw fy arwr ar hyn o bryd. Ganwyd ef ym 1593, ond mae’n mynegi gwirioneddau am realiti’r bywyd Cristnogol mewn delweddau sy’n teimlo’n ffres a pherthnasol heddiw. Mae’n amhosib peidio â chynhesu at Herbert gan ei fod yn siarad mor onest, yn caru Iesu, ac o ddifri am ei ddilyn.

Pa lyfrau Cristnogol sydd wedi bod o help i ti?

Yn ddiweddar mae The Jesus I Never Knew gan Philip Yancey wedi bod o help mawr wrth geisio dod i nabod Iesu’n well. Mae’n trafod geiriau a gweithredoedd Iesu Grist yng ngoleuni cyd-destun hanesyddol a diwylliannol yr Efengylau. Mae’n llyfr gweddol syml sydd wedi ei ysgrifennu mewn arddull bywiog a diddorol, ac mae wedi newid y ffordd dwi’n darllen yr Efengylau.

Beth arall wyt ti’n hoffi ei wneud yn dy amser sbâr?

Potsho! Dwi’n mwynhau sgwennu a gwneud crefftau. Petawn i’n cael dewis gwneud unrhyw beth, mi fyswn yn dewis mynd i’r theatr neu gyngerdd – o diar, mae hynny’n swnio braidd yn posh! Ond y trît mwyaf yw cael treulio amser yn sgwrsio am bob dim gyda ffrindiau (yn enwedig os oes bwyd da i’w gael hefyd!).

Fel rhieni i ddau o blant – Elis sy’n 4 oed ac Anest sydd yn 2 – beth yw’r her sy’n wynebu rhieni ifanc heddiw?

Mae’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu adref am foesau a chred yn wahanol iawn i’r hyn fydd Elis ac Anest yn ei glywed yn yr ysgol. Un her i ni yw sicrhau bod Iesu Grist o hyd yn cael ei gynnwys ym mhopeth fel pen y teulu; Duw sy’n cael y gair olaf. Mae’n rhyddhad gallu dweud wrth y plant mai dyma mae Duw yn ei ddweud yn y Beibl, nid jest barn mam a dad yw hwn – dyma ble cawn ein hawdurdod.
Dwi ddim yn siŵr am famau eraill, ond dwi’n colli amynedd yn hawdd iawn ac yn gorfod ymddiheuro a gofyn i Dduw am help o hyd. Dwi’n meddwl fod peryg i gyfryngau fel Faceboook rhoi’r argraff bod rhianta yn hawdd ac yn hyfryd, gan fod pawb yn rhoi lluniau o blant bach glân a thaclus yn gwneud gweithgareddau rhinweddol gyda’u rhieni arbennig! Weithiau mae diwrnod cyfan yn mynd heibio yn brwydro i gael y plant i wrando ac ufuddhau, mae hynny’n gallu bod yn ddiflas iawn. Mae bod yn rhiant wedi rhoi cipolwg i fi ar amynedd mawr Duw gyda’i blant ef!

Beth wyt ti’n ei hoffi fwyaf am berthyn i eglwys a beth yw’r pethau hynny rwyt ti’n teimlo a ddylai newid?

Un o’r pethau gorau am berthyn i eglwys yw’r gymdeithas ddofn rhwng pobl o bob oed daw o ganlyniad i nabod Iesu Grist. Mae treulio amser gyda Christnogion, yn enwedig er mwyn trafod pethau Duw, yn un o’r pethau sy’n rhoi llawenydd mawr i fi. Ond dwi’n credu fy mod i, a’n bod ni, wir angen gweld tywalltiad nerthol o’r Ysbryd Glan arnom fel unigolion ac fel eglwys. Dyma yw fy ngweddi. Dim ond nerth mawr Duw a all ein trawsnewid a’n harfogi ar gyfer ei addoli a’i wasanaethu.

Beth sydd wedi bod o help i dy gadw di’n agos at Iesu Grist mewn bywyd prysur?

Cael plant! Efallai fod hynny’n swnio’n rhyfedd, ond mae’r prysurdeb a’r cyfrifoldeb sydd ynghlwm wrth hynny yn fy ngwneud yn fwy ymwybodol nad ydw i’n gallu gwneud dim heb nerth Duw. Pan nad ydw i’n cadw fy llygaid ar Iesu dwi’n colli persbectif ac mewn peryg o gael fy llorio gan gyfrifoldebau a’r hyn sy’n digwydd yn y byd o gwmpas. Gyda chwmni Crist mae pob dim yn fwy melys.

Oes gen ti adnod yr hoffet ei rannu?

‘Yn y flwyddyn y bu farw’r Brenin Usseia, gwelais yr ARGLWYDD. Yr oedd yn eistedd ar orsedd uchel, ddyrchafedig, a godre’i wisg yn llenwi’r deml’ (Eseia 6:1). Mae hyn yn fy atgoffa bod brenhinoedd ac awdurdodau’r byd (yn dda a drwg) dros dro yn unig, ond mae Un gogoneddus sydd wastad ar ei orsedd yn teyrnasu gyda grym a chyfiawnder. Dyna newyddion da iawn!

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho MP3 Lawrlwytho PDF
Adnodd diwethaf

Adnodd nesaf