Taith ynglŷn â hanes Cristnogaeth ym mro Eisteddfod Ynys Môn, Bodedern
Bodedern
Cychwynnwn ein taith ym Modedern, o flaen Soar, capel y Wesleaid, Stryd Wesley (LL65 3TD). Yma dechreuodd y ‘sblit’ cyntaf yn hanes Wesleaid Cymru. Ar y pryd nid oedd hawl gan bregethwyr lleol yr enwad bregethu tu allan i’w cylchdaith eu hunain. Teimlai rhai ohonynt eu bod ar drugaredd y gweinidogion, a bod cyllid yr enwad wedi ei ganoli ar gynnal y gweinidogion yn lle cael ei ddefnyddio i hybu twf y mudiad. Ar 6 Hydref 1831, yma yn Soar, llofnodwyd datganiad gan saith o bregethwyr lleol Môn a Chaernarfon yn nodi eu bod yn ystyried trefn y Wesleaid yn anysgrythurol. Diarddelwyd y saith a ffurfiasant grŵp o Fethodistiaid Wesleaidd annibynnol – ‘Y Wesle Bach’ ar lafar gwlad. Erbyn 1835 cyfanswm yr aelodaeth yn eu heglwysi yng Nghymru a Lerpwl oedd 475, ond ni bu llwyddiant parhaol iddynt. Yr achos yn Soar, Bodedern, oedd un o’r rhai olaf i barhau’n annibynnol; dychwelodd at y Wesleaid yn 1904.
Caergybi
Pen y daith ar yr A55 yw Caergybi, wrth gwrs. Mae Eglwys Gybi (LL65 1HG) wedi ei hadeiladu o fewn muriau’r hen gaer Rufeinig. Fe’i sefydlwyd gan Cybi (fl. OC 550), gŵr o Gernyw yn wreiddiol, mae’n debyg. Mae ei enw hefyd yn gysylltiedig ag eglwysi Llangybi (Llŷn), Llangybi (Ceredigion), a Llangybi-ar-Wysg (Gwent), ac mae’n bosibl iawn iddo dreulio amser yn cenhadu yn Iwerddon.
Ychydig strydoedd i’r de-orllewin o’r eglwys, rhwng Heol Edmund a Heol Upper Baptist, mae Bethel, capel y Bedyddwyr (LL65 1SA). Yma yn 1824 y galwyd William Morgan (1801–72) yn weinidog. Yr oedd yn hanu o Drefdraeth, sir Benfro. Ef oedd y gweinidog sefydlog cyntaf i’w ordeinio gan y Bedyddwyr ym Môn a bu yma am bron hanner can mlynedd. Christmas Evans a’i hordeiniodd, ac ef hefyd a bregethodd yn y gwasanaeth ordeinio. ‘Yr oedd William Morgan i fyny â John Elias mewn gallu a dawn, er nad oedd yn rhagori arno,’ oedd sylw Robert Jones, Llanllyfni. ‘Brithir [ei] lyfrau preifat,’ meddai’r Dr Tom Richards, ‘â myfyrdodau nid annhebyg i feddyliau sobr difrifddwys y Piwritaniaid Philip Henry a Henry Maurice.’ Ef, yn 1839, a ysgrifennodd y cofiant cyntaf i Christmas Evans, gan gyflwyno elw’r llyfr i Mary, ail wraig a gweddw ei ffrind. Daeth C. H. Spurgeon i bregethu ar ei
wahoddiad ym mis Medi 1860 gan ddigio’r Wesleaid lleol â’i Galfiniaeth gref, ond fe drefnodd Spurgeon hefyd bum swllt yr wythnos o gronfa Bedyddwyr Lloegr i Mary. Cysondeb y Ffydd, clamp o lyfr diwinyddol, oedd campwaith llenyddol Morgan. Bu pedwar o’i bum plentyn farw yn eu hugeiniau.
Llangristiolus
Ychydig i’r de o Langefni ar hyd yr A5114, fe welwn Eglwys Gristiolus (LL77 7YE) yn union ar y chwith. Yn y fynwent, wrth ben eithaf wal yr eglwys, yr un ochr â’r porth, mae colofn yn nodi bedd Richard Owen (1839–87), ‘Y Diwygiwr’. Fe’i ganed yn y plwyf a bu’n byw ym Mhentraeth, yr ochr draw i Langefni. Ychydig iawn o addysg a gafodd, ac fe bregethai’n syml ac yn uniongyrchol. Ond cymaint oedd ei ddifrifwch a’i ysbryd gweddigar fel y bu amryw o adfywiadau lleol ledled Cymru o dan ei weinidogaeth o 1873 hyd 1884. Y casgliad y daeth y Prifathro T. C. Edwards iddo, wrth ysgrifennu rhagair i’w gofiant yn 1889, oedd: Ein perygl presennol fel cenedl ydyw mawrygu addysg a diwylliant ar draul anghofio fod Ysbryd Duw yn cyfrannu doniau yn yr eglwys yn ôl ei ewyllys ei hun.
Bro Llangefni ac Anghydffurfiaeth gynnar
Bu Anghydffurfiaeth yn hir cyn cael gafael ar Fôn. Hi, ynghyd â Meirionnydd, oedd fwyaf ffyddlon i’r Eglwys Wladol o holl siroedd Cymru. Gwrthodai dderbyn unrhyw bregethwr Anghydffurfiol a fentrai yno. Mae John Hughes, hanesydd cynnar y Methodistiaid, yn awgrymu mai yn ardal Llangefni y gwelwyd yr her gyntaf i awdurdod yr Eglwys:
Tua’r flwyddyn 1730, sef tua chwe blynedd cyn i Harris a Rowland dorri allan yn y Deheubarth, dechreuodd rhyw gyffro dirgelaidd ym meddyliau meibion Thomas Pritchard o’r Tŷ Gwyn [ym mhlwyf Heneglwys] yn agos i Langefni. Cynhyrchwyd y cyffro hwn trwy ddarllen y Beibl, a thrwy sylwi ar ei gynwysiad.
O 1730 ymlaen, yn ôl y traddodiad, byddai aelodau’r teulu yn hwylio ar draws y Fenai ac yn ymuno ag Annibynwyr Capel Helyg, Eifionydd, i addoli. Mae Tŷ-gwyn (LL77 7PQ) wrth ochr cronfa ddŵr Llyn Cefni, tua milltir i’r gorllewin o Langefni. Wedi priodi, symudodd meibion y teulu i ffermdai Trefollwyn, Bwlch-y-fen-bentir, a Cherrigceinwen, i gyd o fewn milltir neu ddwy i’w hen gartref. (Mae’r pedair fferm i’w gweld ar fap ‘Landranger’ yr
Arolwg Ordnans.) Cafodd Methodistiaeth gynnar Môn groeso ar yr aelwydydd hyn maes o law.
Yn 1742 daeth William Prichard (1702–73) o Langybi, Llŷn, i fyw i Benmynydd (dwy filltir i’r dwyrain o Langefni). Symudodd wedyn i Landdaniel-fab, ac yna i ffermdy Clwchdernog yn Llanddeusant (tair milltir i’r gogledd o Fodedern) o 1749 tan ei farwolaeth. Roedd yn Eglwyswr pan ddaeth i’r
ynys, ond eisoes wedi profi tröedigaeth ac yn ffrindiau â’r Parch. Lewis Rees, Llanbryn-mair. Ef oedd arloeswr Annibyniaeth Môn, a chafodd ei erlid yn ffyrnig ac yn gyson. Mae ei fedd ym mynwent capel Ebenezer, Rhos-meirch, Llangefni, (LL77 7NJ) ar y B5411, a cheir cofeb iddo o fewn y capel. Rhos-meirch yw mam-eglwys Anghydffurfiaeth y sir. Cododd William Prichard y capel cyntaf ar y safle yn 1749. Bu Benjamin Jones (1756–1823), y gŵr y bu ei bregeth yn Llanfyllin yn 1796 yn achos argyhoeddi Ann Griffiths, yn weinidog yma o 1784 i 1789, ac yn y festri mae pulpud o eiddo John Elias a ddaeth yma o hen gapel Dinas Llangefni.
Methodistiaeth gynnar
Yn 1741, ysgrifennodd Howel Harris yn ei ddyddiadur: ‘Teimlais y fath gariad a thosturi atynt yng Ngogledd Cymru ac yn arbennig sir Fôn lle ni
bu neb a lle mae tywyllwch eithaf, a theimlais fy hun yn barod i fyned a byw a marw yn eu mysg yno a chipio eu heneidiau o uffern.’ Ond nid Harris gafodd y fraint o fod y cyntaf i gyflwyno’r Adfywiad Methodistaidd i’r ynys. Daeth Richard William Dafydd (fl. 1740–52) o Landyfaelog, sir Gâr, ar daith yma yn 1740/1.
‘Safai i fyny wrth Groes Arthur, ym mhlwyf Mechell; ond ni chafodd nemawr lonyddwch. Ymgasglodd llu o erlidwyr i’r lle… rhuthrasant ar y pregethwr, fel pe gwnaethasai ryw anferth o ddrwg iddynt, gan ei faeddu yn ddidrugaredd.’
Ymhen amser daeth Llangefni yn ganolfan i’r Methodistiaid a’r Bedyddwyr ar yr ynys. Dyma lle roedd cartrefi dau ‘esgob’ yr enwadau hynny, John Elias a Christmas Evans. Mae eu bywydau ill dau, fel prif bregethwyr eu henwadau, yn ddigon cyfarwydd. Trwy eu gweinidogaeth plannwyd dros ddeugain eglwys yn y sir.
Christmas Evans (1766–1838) ddaeth yma gyntaf, yn 1791. Bu’n byw yn nhŷ capel Capel Cildwrn (LL77 7NN). Mae cofeb iddo ar y wal a bedd ei wraig gyntaf, Catherine, yn y fynwent. Gadawodd yr ynys yn 1826 pan dderbyniodd alwad gan gapel Tonyfelin, Caerffili. Yn 1897 adeiladwyd Capel Penuel (LL77 7EF), ar gornel Stryd y Cae a Ffordd Glandŵr yng nghanol Llangefni, yn gapel coffa iddo. Daeth y gofeb i Christmas Evans o fewn yr adeilad o gapel Cildwrn.
Llanfellech, yn rhan ogleddol yr ynys, oedd cartref cyntaf John Elias (1774–1841) yn y sir, o 1799 i 1828, ond daeth i’r ‘Fron’, Llangefni, ar ôl ei ail briodas yn 1830, ac yma y bu am weddill ei oes. Mae’r ‘Fron’ yn dŷ preifat oddi ar Lôn Fron (LL77 7HB), lôn ar y chwith cyn cyrraedd pont rheilffordd ar yr A5114 ar y ffordd i mewn i Langefni. Mae cofeb i John Elias ar wal y tŷ. Wedi pasio dan y bont, mae Moriah (MC), Capel Coffa John Elias, ar y dde (LL77 7WY).
(Mae’r ffigyrau mewn cromfachau yn dangos y codau post agosaf. Gallant fod ganllath neu fwy i ffwrdd o’r safleoedd y cyfeirir atynt.)