IOAN FEDYDDIWR
Dyn unigryw oedd Ioan Fedyddiwr. Bwytâi fwyd rhyfedd a gwisgai ddillad hynod. Tyrrai pobl ato i’r anialwch i wrando ar ei neges chwyldroadaol.
Egyr y Testament Newydd gydag Ioan Fedyddiwr yn galw ar y bobl i edifarhau am eu pechodau (Mathew 3:2). Uniaethodd ei hunan â’r llais oedd yn galw am baratoi ffordd i’r Arglwydd (Eseia 40:3). Gwyddai fod ganddo neges arbennig i’w chyhoeddi ac felly glynodd yn unplyg wrthi.
Safai Ioan y tu allan i’r sefydliad crefyddol parchus. Ond hyd yn oed wrth i’r bobl dyrru ato i’w bedyddio am faddeuant pechodau, fe’u cyfeiriai hwy y tu hwnt i’w hunan at “Oen Duw” (Ioan 1:29). Cyfrwng y neges oedd Ioan ac nid y neges ei hun.
Yn rhinwedd ei waith yn bedyddio’r edifeiriol daeth yn syndod i Ioan bod Iesu yn ceisio bedydd. Nid oedd gan Iesu bechod i edifarhau amdano ac felly nid oedd angen ei fedyddio. Ond mae Iesu yn uniaethu Ei Hun â’r ddynoliaeth y mae wedi dod i farw drosti (Mathew 3:15).
Parthed gwaith gwaredigol Duw fe welwn fod Ioan Fedyddiwr yn dwyn tystiolaeth i ddwyfoldeb Iesu. Yn y Bedydd mae Duw y Tad yn cymeradwyo’i Fab wrth i’r Ysbryd Glân ddisgyn ar Iesu (Mathew 3:16-17). Iesu yw y Duw-ddyn perffaith sy’n Waredwr cymwys i ni.
Cryfderau
- Rhagflaenydd y Meseia
- Pregethwr dewr
- Dyn digyfaddawd
Gwendidau
- Amheuodd Feseianaeth Iesu pan oedd yn y carchar
Gwersi
- Nid yw Duw’n addo bywyd rhwydd i’w weision
- Mae sefyll dros y gwir yn costio’n ddrud
Ffeithiau
- Lleoliad: Jwdea
- Gwaith: Proffwyd
- Cyfoeswyr: Herod a Herodias
- Perthnasau: Tad – Sachareias; mam – Elisabeth; cefnder – Iesu
- Mae’r enw ‘Ioan’ yn golygu ‘Mae’r Arglwydd yn raslon’
Adnodau
- Eseia 40:3;
- Malachi 4:5-6;
- Mathew 3:1-12, 11:2-15, 14:1-12, 16:14 a 21:23-7;
- Luc 1:5-25, 57-80;
- Actau 1:5,22 a 13:24-5