Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Gweinidogaethu yn Ynys Môn

17 Hydref 2017

Wrth i’r Eisteddfod ddychwelyd i Ynys Môn, mae’n dod i ardal gyfoethog ei hanes Cristnogol. Ond beth am y presennol? Diolch i Hywel Meredydd am gael sgwrs â Cynan i ddweud rhagor.

Beth wyt ti’n ei wneud ar Ynys Môn?

Er 1980 rwyf wedi cael y fraint o wasanaethu’n Weinidog yng Nghapel Cildwrn Llangefni, lle bu Christmas Evans yn gweinidogaethu rhwng 1789 a 1826. Roedd un ar bymtheg ohonom yn frwdfrydig i sefydlu Eglwys Efengylaidd Llangefni ac agor yr hen gapel a fu’n wag ers dros ganrif. Rwyf hefyd yn gweithio ar draws Cymru yn Rheolwr Partneriaethau ag Eglwysi i’r elusen Tearfund. Byddaf yn gweithio gyda gweinidogion yn bennaf i annog gweddi a chefnogaeth ariannol i drigain o wledydd tlawd y byd.

Sut y gwnest di gyrraedd yno?

Tua diwedd fy nghyfnod yn Ysgol Gyfun Rhydfelen roeddwn yn ymwybodol o alwad i’r weinidogaeth a hynny drwy sefydlu gydag eraill eglwys newydd. Daeth y dyhead hwn yn bennaf o gofio yn fy arddegau fy nhad (y diweddar J. Elwyn Davies) yn rhannu gyda fy mam nad oedd neb yn ymateb nac yn cymryd rhan yn y cyfarfod gweddi yn y capel. Fe ddes i’r casgliad os nad oedd dyn duwiol fel fy nhad yn cael ymateb, go brin y byddai dyfodol imi mewn enwadaeth gyfundrefnol. Yr un pryd roedd galwad Dr Martyn i sefydlu eglwysi newydd yn her real iawn.
Astudiais i ddiwinyddiaeth ym Mhrifysgol Bangor a Choleg Bala Bangor am wyth mlynedd. Profwyd bendith sylweddol yng nghanol y saithdegau ymhlith y myfyrwyr a braint oedd Cadeirio’r Undeb Cristnogol yn nwy flynedd gyntaf ei fodolaeth. Yn sgil y fendith cychwynnwyd Ysgol Sul yn Ebeneser ar gyfer myfyrwyr a rhai Cristnogion ifanc o Ynys Môn yn mynychu.
Ar y pryd roedd pymtheg yn teithio o Ynys Môn i addoli yn Ebeneser Bangor ar y Sul a gofynnwyd imi arwain cyfarfod gweddi i ystyried y posibilrwydd o ddechrau eglwys newydd ar Ynys Môn. Ar ôl cyfarfod i weddïo am flwyddyn roedd yn amlwg inni mai sefydlu eglwys newydd oedd dymuniad yr Arglwydd ar ein cyfer a gwnaethpwyd cais i Gymanfa Bedyddwyr Môn am gael defnyddio’r hen gapel. Ers y cychwyn rydym yn ddiolchgar iawn i’r Bedyddwyr am eu cefnogaeth hael.

A yw pobl yr ynys yn ymwybodol o draddodiad Cristnogol yr ynys?

Mae gan Sir Fôn draddodiad Cristnogol cyfoethog iawn o gyfnod y seintiau cynnar hyd enwogion megis John Elias a Christmas Evans yn Llangefni a’r diwygiwr Richard Owens yn Llangristiolus, ond prin yw’r ymwybyddiaeth leol o’r traddodiad. Er bod plant yr ysgolion sy’n ymweld â Chapel Cildwrn yn mwynhau’r hanesion, bellach dim ond ymwelwyr tramor sy’n dod ar bererindod i agor pydewau’r gorffennol am ysbrydoliaeth.

Beth sydd wedi newid yn Ynys Môn?

Mae’r economi leol wedi newid, gyda thoriadau yn y sector cyhoeddus megis swyddi mewn llywodraeth leol ac addysg. Hefyd, er gwaethaf buddsoddiad sylweddol Amcan 1 o Ewrop mae lefel diweithdra yn uchel. Gydag un o bob tri o bobl ifanc yr Ynys yn gadael mae cynllunio gwaith plant a phobl ifanc yn gallu bod yn rhwystredig. Rwy’n cofio gweinidogaethu yn Indiana yr Unol Daleithiau mewn ardal ddiwydiannol gyda thair cenhedlaeth yn eithaf sefydlog yn y capel – teidiau a neiniau, rhieni a phlant – roedd gweld yr eglwys gyflawn yn addoli yn galondid. Gwaetha’r modd mae’n anodd gweld hynny yn digwydd yn y Gymru wledig gyda thynfa’r dinasoedd yn cyfareddu ein pobl ifanc. Mae mewnlifiad hefyd wedi cynyddu, gyda nifer o Gristnogion o Loegr yn symud yma ond heb setlo mewn eglwysi lleol. Trist hefyd yw gweld cynifer o gapeli ac eglwysi yn cau yn gyson. Fedra i ond edmygu dygnwch a ffyddlondeb y rhai fu’n driw i’w haddoldai, ond bellach mae fel petai’r gannwyll yn diffodd o bentref i bentref.

Pa fendithion wyt ti wedi’u cael yno?

Mae gweld perthnasedd Gair Duw i fywydau pobl ac yn ateb anghenion unigolion yn fendith ac yn gymorth i gadw ein gobaith yn yr Iesu. Rwyf wedi profi ffyddlondeb yr Arglwydd er fy aml wendidau ar hyd y blynyddoedd. Mae cael myfyrio ac agor y Gair yn wythnosol ac arwain cyfarfod gweddi, fel y mae ymweld ag aelodau a chyfeillion y fro, yn her gyson.
Fedrai ddim cyfleu mewn geiriau maint fy ngwerthfawrogiad am deyrngarwch y saint ffyddlon am bron i ddeugain mlynedd. Bendith arall oedd priodi fy ngwraig Carys yn 1980, magu Bethan Haf a Gwawr Esyllt a chael rhieni yng nghyfraith arbennig o hael a doeth. Fel beiciwr brwd rwy’n mwynhau creadigaeth yr Arglwydd megis golygfeydd ysblennydd yr ynys ond fel cerddwr mynyddoedd cyson mae’n rhaid imi groesi’r bont i fwynhau gogoniannau Eryri!

Pa heriau wyt ti wedi’u cael yno?

• Mae dal ati i ddal ati bob tro yn her, ac rwyf ond yn medru parhau wrth gofio fy mod yng Nghrist yn greadigaeth newydd a bod y weinidogaeth yn eiddo iddo ef.
• Her arall yw edrych allan i wasanaethu cymuned anghenus, mae hi bob tro’n haws troi’n fewnblyg a hunanol.
• Mae’r ffaith bod nifer helaeth yn croesi afon Menai i addoli ar y Sul, pryd y gallant fod yn gymaint o gaffaeliad i eglwysi’r ynys yn siomedigaeth.
• Dros y blynyddoedd mae’n syndod cymaint o Gristnogion sydd wedi dod i fyw i’r ynys o bell gan broffwydo fod bendith yn siŵr o’u dilyn, ond i’w gweld yn eu tro yn cefnu ar y ffydd.
• Mae Cristnogion nad ydyn nhw’n dymuno bod yn rhan o eglwys yn sialens imi hefyd.
• Rydym yn gapel sy’n darparu gwasanaethau yn y ddwy iaith ac mae hyn hefyd yn her.

Beth yw dy obeithion di am y gwaith ar yr ynys?

Y gwelwn ni fendith a phresenoldeb yr Arglwydd eto ar ei bobl ac y caf ras i gadw’n ffyddlon a byw yn ffrwythlon. Gweddïaf y gallwn ni fel aelodau Capel Cildwrn gyrraedd allan gyda newyddion da’r efengyl yn enillgar ac o dan eneiniad y nef.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF
Adnodd diwethaf

Adnodd nesaf