Wrth imi ysgrifennu’r erthygl hon mae hi’n ddiwedd mis Chwefror ac mae’r tywydd yn erchyll! Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn rhai gwlyb a thywyll yma yn y Gogledd…
O! am weld yr haul!
Mae bywyd yn gallu bod fel yna i nifer ohonom â chyfnodau tywyll ac anodd yn dod ar ein traws ni i gyd o dro i dro gan guddio haul mwynhad a hapusrwydd o’n bywydau. I rai bydd y cyfnodau yn weddol fyr, ond i eraill gall amgylchiadau megis salwch neu broblem yn y teulu fod yn rhywbeth llawer mwy hirdymor.
Sut, felly, mae’r Cristion i ymateb i’r adegau hyn?
Efallai mai lle da i gychwyn yw drwy gofio nad yw Duw yn ddyledwr i neb. Rwy’n synnu’n aml wrth nodi dicter pobl sy’n honni nad ydynt yn credu yn Nuw wrth iddynt ymateb iddo â’u problemau. Fel pobl sy’n byw mewn byd syrthiedig rydym yn sicr yn mynd i wynebu problemau a chyfnodau anodd a does gan yr un ohonom yr hawl i ddisgwyl dim gan Dduw (yn enwedig gan ein bod wedi byw ein bywyd mewn gwrthryfel yn ei erbyn). Er mai dyma lle’r ydym i gychwyn, diolch byth nad dyma’r diwedd. Fel Cristnogion medrwn ddal at y gwirioneddau canlynol sydd wedi bod yn gymorth i mi yn ddiweddar.
Sofraniaeth a phŵer Duw
Mae’r Beibl yn nodi’n glir fod pob dim o dan reolaeth Duw – nid yw dim yn digwydd heb iddo benodi’r cyfan. Mae’n hollol bwerus ac yn rheoli pob elfen o’r cosmos gan gynnwys ein bywydau ni. Fel y dywed Jeremeia:
Pwy a all orchymyn i unrhyw beth ddigwydd heb i’r Arglwydd ei drefnu? Onid o enau’r Goruchaf y daw drwg a da? (Galarnad 3:37-38)
Nid yw hyn golygu nad oes gennym ni gyfrifoldeb am y penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud ac wrth gwrs, ni all Duw bechu na gwneud drwg, ond peidiwch â’ch twyllo – Duw sydd y tu ôl i bob dim sy’n digwydd i chi. Golyga hyn fod pa bynnag sefyllfa y ffeindiwn ein hunan ynddi wedi ei pharatoi gan Dduw ar ein cyfer. Nid yw Duw wedi anghofio amdanom nac yn gwneud camgymeriad os ffeindiwn ein hunan mewn sefyllfa anodd neu gyfnod tywyll – mae e wedi penodi’r cyfan. Mae hyn yn gysur i’r Cristion ac yn rhoi urddas wrth i ni wynebu anawsterau.
Ond rhaid plymio’n ddyfnach eto er mwyn deall mwy a chael cymorth.
Doethineb a daioni Duw
Mae pŵer yn y dwylo anghywir yn beth peryglus. Diddorol nodi’r nerfusrwydd sydd yn y byd ar hyn o bryd wrth ystyried fod gymaint o bŵer yn nwylo Trump a Putin – trasiedi o’r mwyaf fyddai i bob un ohonom pe bai ein bywydau yn nwylo un o’r ddau yna. Ond wrth inni ystyried sofraniaeth a phŵer Duw rhaid cofio ei fod wedi’i briodi a doethineb a daioni fel y dywed Paul:
O ddyfnder cyfoeth Duw, a’i ddoethineb a’i wybodaeth! Mor anchwiliadwy ei farnedigaethau, mor anolrheiniadwy ei ffyrdd! Oherwydd, “Pwy a adnabu feddwl yr Arglwydd? Pwy a fu’n ei gynghori ef? (Rhufeiniaid 11: 33-34)
Wrth ystyried ein sefyllfa anodd mae’n gymorth a chysur i wybod fod Duw yn ddoeth a’i fod yn gweithio pob dim er ei ogoniant ef ei hun. Yn ein sefyllfa lle nad ydym yn gweld y darlun cyflawn, medrwn gymryd cysur ein bod yn rhan o rywbeth llawer mwy – yn rhan o gynllun Duw, ac mae Duw yn dda, fydd e byth yn ein trin yn annheg. Gall hyn ein helpu i symud ymlaen i weithio er ei fwyn gan roi pwrpas i’n dioddefaint.
Ond nid Duw sy’n ein defnyddio er ei ogoniant ei hun fel teyrn creulon yw ein Duw ni.
Cariad Duw
Dyma efallai’r gwirionedd mwyaf pwerus sy’n ein helpu wrth inni wynebu sefyllfaoedd anodd. Mae geiriau Paul yn ein llorio eto:
Yr wyf yn gwbl sicr na all nac angau nac einioes, nac angylion na thywysogaethau, na’r presennol na’r dyfodol, na grymusterau nac uchelderau na dyfnderau, na dim arall a grëwyd, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd (Rhufeiniad 8:38-39).
Mae Duw yn ein caru! Golyga hyn y medrwn fod yn sicr fod y sefyllfa yr ydym ynddi ar hyn o bryd mewn rhyw ffordd yn mynd i fod er ein lles. Er efallai nad ydym yn medru gweld un llygedyn o obaith yn y cyfan – rydym yn sicr fod Duw a’i lygad arnom a’i law dyner yn gweithio ynom. Mae’r Beibl yn llawn addewidion gan Dduw i’w blant – ac mae pob un yn wir. Dyw e ddim yn addo bywyd hawdd, yn wir mae Duw yn defnyddio cyfnodau anodd i’n trawsnewid yn debycach i’w fab, ond fel y dywed yr emyn Cymraeg…mae’r afael sicraf fry.
Mae cymaint mwy y gallem ei ddweud ond gadewch imi orffen drwy ofyn sut mae hi arnoch chi heddiw? A yw’r cymylau yn cronni uwch eich pen a bywyd i’w weld yn anodd?
- Byddwch yn hyderus eich bod chi lle’r ydych i fod – nid hap a damwain yw eich sefyllfa.
Byddwch yn sicr fod Duw yn ddoeth a’i fod yn gweithredu yn eich sefyllfa.
A byddwch yn sicr ei fod yn eich caru â chariad angerddol a bod ei ofal drosoch yn absoliwt.
Nid oes gan y Cristion fwledi aur sy’n cael gwared ar amseroedd anodd y byd yma, ond mae yna atebion sy’n real, sy’n mynd i graidd y broblem. Medrwn gael ein llenwi â gobaith oherwydd ryw ddydd bydd ein Tad cariadus yn sychu pob deigryn o’n llygaid, ac ni fydd marwolaeth mwyach, na galar na llefain na phoen. Bydd y pethau cyntaf wedi mynd heibio…ac fe gawn dreulio gweddill amser gyda’n Harglwydd Iesu. Diolch iddo.