Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Eglwys Efengylaidd Aberystwyth yn 50 oed

17 Hydref 2017 | gan Gwyn Davies

Yn gynnar ym mis Mehefin 1967 – union hanner can mlynedd yn ôl – daeth pedwar gŵr at ei gilydd yn Aberystwyth i weddïo am arweiniad.

Annibynnwr o wyddonydd oedd Ieuan Jones, ond teimlai’n fwyfwy anfodlon nad oedd Gair Duw yn cael ei bregethu yn y capel a fynychai. Athro ysgol ac aelod gyda’r Hen Gorff oedd John Ifor Jones: roedd wedi dod i ffydd bersonol yn Iesu Grist dan weinidogaeth Vernon Higham, ond bellach daeth gweinidog arall nad oedd yn pregethu’r wir efengyl. Ffarmwr oedd William Morgan; roedd yr Ysbryd Glân wedi bod yn delio’n uniongyrchol ag ef, ac er ei fod yn flaenor gyda’r Hen Gorff roedd wedi bod yn mynychu dosbarth beiblaidd dan arweiniad gweinidog Wesle yn y cylch.

Gordon Macdonald

Gordon Macdonald oedd y gweinidog hwnnw, ac ef oedd y pedwerydd gŵr yn y cyfarfod. Yn enedigol o Bebington, ger Lerpwl, daeth yn Gristion yn ei arddegau. Fe’i hordeiniwyd yn weinidog gyda’r Eglwys Fethodistaidd, a bu’n gwasanaethu cylchdeithiau Aberdaron, Ystumtuen, a Chomins Coch. Erbyn haf 1967, fodd bynnag, roedd mewn cryn anesmwythyd:

  • Yn groes i ddaliadau ei enwad, credai fod iachawdwriaeth yn deillio nid o ‘ewyllys rydd’ pechadur ond o sofraniaeth rasol Duw, ac mai bedydd credinwyr sy’n gyson â’r Testament Newydd.
  • Roedd disgwyl iddo dderbyn pobl ifainc yn gyflawn aelodau, er ei fod ef – a hwythau – yn gwybod yn iawn nad oeddynt yn proffesu ffydd achubol yn Iesu Grist.
  • Dyma gyfnod bwrlwm eciwmenaidd, gyda llawer o sôn am uno’r enwadau (gan gynnwys uno’r Eglwys Fethodistaidd ag Eglwys Loegr). Roedd Gordon yn galaru fod y brwdfrydedd hwn yn dewis anwybyddu dysgeidiaeth feiblaidd ynghylch cwestiynau sylfaenol, e.e. beth yw gwir Gristion? beth yw gwir eglwys?
  • Wrth ddarllen y Beibl a gwrando ar weinidogaeth Horace Jones, Llandudno, fe’i hargyhoeddwyd mai’r ymateb cywir i gyfeiliornad diwinyddol a moesol amlwg o fewn yr eglwys oedd ymwahanu oddi wrthi: ‘Ciliwch, ciliwch, ewch allan oddi yno, na chyffwrddwch â dim halogedig’ (Eseia 52:11). Nid rhywbeth negyddol yn unig mo hyn. Yn Hydref 1966 roedd Dr Martyn Lloyd-Jones wedi traddodi anerchiad nodedig – a dadleuol – yn galw ar bobl efengylaidd i ddod at ei gilydd mewn cydweithrediad cadarnhaol.
  • Er 1964 roedd seiat efengylaidd Gymraeg yn cwrdd yn Aberystwyth ar aelwyd Bobi a Beti Jones, ac yn 1967 gofynnwyd i Gordon ei harwain a cheisio sefydlu seiadau eraill. Roedd yn naturiol iddo symud i gylch Aberystwyth, felly, ond ble byddai ef a’i deulu’n addoli ar y Sul?

 

Sefydlu eglwys

Dyna gefndir y cyfarfod hwnnw ym Mehefin 1967. Yn annibynnol ar ei gilydd roedd y pedwar gŵr – a’u gwragedd – mewn cryn wewyr ynghylch eu perthynas â’u henwadau. Buont yn gweddïo’n daer felly am arweiniad. Ar ddiwedd y cyfarfod roedd y pedwar yn gytûn mai ewyllys Duw oedd iddynt sefydlu eglwys anenwadol – yr eglwys Gymraeg gyntaf o’i math ers blynyddoedd maith. Cynhaliwyd oedfa gyntaf Eglwys Efengylaidd Aberystwyth ddydd Sul, 1 Hydref 1967, yn adeilad y YWCA yn Rhodfa’r Gogledd.
Symudodd Keith a Rhiain Lewis i Aberystwyth yn ystod haf 1967, a’u cysylltu eu hunain â’r eglwys newydd. Ond cododd gwrthwynebiad go fileinig yn fuan. Cafwyd sylwadau negyddol onid beirniadol yn y wasg, a bu ambell weinidog yn hallt ei feirniadaeth o’r eglwys.
Serch hynny, o dipyn i beth daeth eraill – heb le yma i’w henwi – yn aelodau o’r gynulleidfa, gan gyfoethogi ei bywyd a’i thystiolaeth. Gwelwyd deffroad bach ymhlith myfyrwyr Cymraeg yng Ngholeg Aberystwyth, a’r rheini’n llifo i’r oedfaon. Yn wir, erbyn 1974 roedd adeilad y YWCA’n rhy gyfyng, a symudwyd i Aelwyd yr Urdd yn Ffordd Llanbadarn.

Newidiadau

Er i Gordon brofi cyfnodau o salwch ar hyd y blynyddoedd, llwyddodd i weinidogaethu’n ffyddlon hyd nes iddo ymddeol yn 1997 – 30 mlynedd wedi sefydlu’r eglwys. Amhosibl mesur dyled yr eglwys iddo ef a Rina ei wraig.
Gwahoddwyd Ifan Mason Davies, brodor o Goginan, i lenwi’r bwlch a adawyd gan Gordon (er i Gordon a Rina aros yn aelodau ffyddlon o’r gynulleidfa). Roedd Ifan wedi treulio’r cyfnod 1977–86 yn gynorthwywr i Gordon, cyn mynd yn weinidog i Aberteifi. Cychwynnodd Ifan ar ei waith yn 1997, yn cael ei gynorthwyo gan Anne ei wraig.
Yna, yn 2001, penderfynodd yr Urdd werthu adeilad yr Aelwyd, a symudodd yr eglwys i Saron, Llanbadarn Fawr, gyda chydweithrediad caredig swyddogion y capel hwnnw.
Pan gyrhaeddodd oedran ymddeol yn 2005, cyhoeddodd Ifan ei fod am sefyll o’r neilltu a rhoi mwy o’i amser i waith efengylu (er iddo ef ac Anne hwythau aros yn y gynulleidfa). Gwahoddwyd Derrick Adams, yn wreiddiol o Lanelli ond ar y pryd yn weinidog Capel Fron, Penrhyndeudraeth, i gymryd ei le, a chychwynnodd ar ei waith yn 2007. Mae ef – a’i wraig Llio – ‘yma o hyd’!

Gweithgarwch

Dros y blynyddoedd mae’r eglwys wedi cynnal a chefnogi amrywiaeth eang o weithgareddau – nifer o seiadau lleol; tystiolaeth mewn ffeiriau a sioeau; oedfaon mewn cartrefi henoed; darpariaeth i blant a phobl ifainc mewn ysgol Sul, yn ystod yr wythnos, ac mewn ysgolion lleol; swperau a barbeciwiau efengylu; a chyfarfodydd i ddysgwyr.
Cafwyd cysylltiad hynod werthfawr â chenedlaethau o fyfyrwyr. Mae rhai wedi aros yn Aberystwyth gan gyfrannu i fywyd y gynulleidfa, ond ceisiwyd hefyd fod yn feithrinfa ysbrydol i bawb ohonynt – gan gynnwys nifer o weinidogion – a’u paratoi ar gyfer gwasanaethu Crist mewn mannau eraill.
O’r cychwyn mae’r eglwys wedi bod yn awyddus iawn i gefnogi ymdrechion cenhadol. Yng Nghymru mae wedi cyfrannu at waith Mudiad Efengylaidd Cymru – gan gynnwys y dystiolaeth yn yr Eisteddfod – UCCF, a’r trelar efengylu. Mae hefyd wedi cefnogi cenhadon mewn gwledydd eraill (gan gynnwys ar hyn o bryd aelod o’r gynulleidfa ac un arall a fu yma yn y brifysgol).

Ddoe, heddiw, yfory

Yn groes i gyhuddiadau ar y dechrau ac wedyn, nid yw’r eglwys erioed wedi tybio ei bod mewn unrhyw ffordd ‘uwchlaw’ eglwysi enwadol. Yn wir, dros y blynyddoedd mae hi wedi ymdrechu i ffurfio cysylltiadau iach â chynulleidfaoedd eraill tu mewn a thu allan i’r enwadau, a chefnogi pregethwyr efengylaidd ym mhob math o sefyllfaoedd amrywiol.
Nid yw’r eglwys chwaith wedi honni bod yn berffaith. Profwyd siomedigaethau, ac er i nifer calonogol ddod at Grist ni welwyd tröedigaethau lu. Fel y cyhoeddodd poster tu allan i’r adeilad yn ddiweddar, ‘Pechaduriaid sy’n addoli yma’. Ond pechaduriaid ydynt sydd wedi eu hachub drwy ras Duw, a’u dyhead yw tystiolaethu i efengyl Iesu Grist er mwyn i ragor ddod i afael y cadw.
Yr hyn oedd wrth wraidd sefydlu’r eglwys oedd dyhead i gael cynulleidfa lle roedd Gair Duw yn cael ei barchu a’i bregethu yn ei gyflawnder – peth prin yn y Gymru Gymraeg yn 1967. Yr un yw ei nod heddiw. O’r cychwyn pwysleisiwyd mai Iesu Grist yw Pen yr eglwys (Effesiaid 1:22-23; 5:23). Iddo ef, felly, y mae’r eglwys yn atebol.
Mae nifer o’r to hŷn bellach wedi marw – gan gynnwys Gordon ym mis Mawrth eleni – ac eraill mewn gwth o oedran. Ond at Iesu Grist, nid at arweinwyr dynol, y mae’r eglwys yn edrych am gymorth a bendith i’r dyfodol.
I ddathlu pen-blwydd yr eglwys yn 25 oed, cyflwynwyd plât i Gordon a Rina a’r geiriau hyn arno: ‘Hyd yma y cynorthwyodd yr Arglwydd nyni’ (1 Samuel 7:12). Wrth iddi agosáu at ei phen-blwydd yn hanner cant, mae hi’n hyderu y bydd Iesu Grist yn ei chynorthwyo eto, doed a ddelo.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF