‘Dim byd! Mae’r galon yn stopio curo, mae’r ymennydd yn darfod a dwi’n peidio â bodoli. Job done! Dyna yw marwolaeth. Does dim byd mwy na hynny.’ Dyma hyd y gwelaf i yw safbwynt llawer o bobl erbyn hyn yn ein cymdeithas. Mae marwolaeth gorfforol yn golygu diwedd terfynol ar ein bodolaeth yn unigolion ac mae’r cyfryngau torfol ar y cyfan yn hyrwyddo’r ddealltwriaeth hon. Eto, rwy’n siŵr bod y mwyafrif o bobl yn ystod eu hoes wedi gofyn y cwestiwn a oes rhywbeth ar ôl marwolaeth? Ers dyddiau cynnar dynoliaeth y mae pobl wedi bod yn ymgodymu â’r cwestiwn hwn ac mae amrywiaeth y crefyddau yn tystio i hyn. Mae’r Hindŵ yn gobeithio ymgolli yn Nirfana ac mae Islam yn cyfeirio at Jannah fel paradwys dragwyddol. Ond beth mae Cristnogaeth yn ei ddysgu?
Marwolaeth
Dywed y Beibl ein bod wedi ein creu ar gyfer byw bywyd mewn perthynas gariadus a diddarfod â Duw. Dyna beth oedd bwriad Duw o’r cychwyn. Creaduriaid tragwyddol yw pob un ohonom. Ond fe ddaeth amgylchiadau gan chwalu’r ddelfryd honno a daeth marwolaeth. Ysgrifennodd Paul gan ddweud fel hyn,
‘Y mae pechod yn talu cyflog, sef marwolaeth’ (Rhuf. 6: 23).
Ond beth mae hyn yn ei olygu? Cawn yr ateb yn llyfr Genesis. Yn Genesis pennod 3 fe gawn hanes Adda ac Efa yn anufuddhau i Dduw gan dorri’r unig orchymyn yr oedd wedi ei roi iddynt. Dywedodd Duw,
‘ni chei fwyta o bren gwybodaeth da a drwg, oherwydd y dydd y bwytei ohono byddi’n sicr o farw’ (Genesis 2: 17).
O ganlyniad i dorri’r gorchymyn daeth pechod i’r byd gan lygru popeth. Chwalwyd y berthynas rhwng Duw a phobl ac fe ddaeth marwolaeth. Felly, yn rhesymol, er mwyn dileu marwolaeth mae’n rhaid ymdrin â’r pechod sydd wedi ei achosi. Dyma’n union y mae Duw yn ei gariad wedi ei wneud trwy Iesu Grist. Daeth Duw i’r byd ym mherson ei Fab Iesu ac yr oedd ef yn gwbl berffaith. Dywedodd Ioan Fedyddiwr pan welodd Iesu,
‘Edrychwch!; meddai, ‘Dacw Oen Duw, yr un sy’n cymryd pechod y byd i ffwrdd’ (Ioan 1: 29).
A dyna yn union wnaeth yr Iesu, aeth i’r afael â’r pechod sy’n ein gwahanu oddi wrth Dduw ac sy’n peri ein bod yn marw. Yn ystod ei fywyd cyflawnodd Iesu Gyfraith Duw yn berffaith ar ein rhan ni; ar y groes cymerodd ein pechodau aflan arno ef ei hun gan gael ei gosbi yn ein lle a hefyd derbyniodd lid Duw’r Tad ar ein rhan. Yna, gan fod Iesu yn berffaith nid oedd gan farwolaeth hawl arno ac felly fe atgyfododd gan drechu angau. Yn sgil hyn, mae’r efengyl yn gwahodd pawb i gredu yn Iesu yn Waredwr. Trwy gredu fe gawn faddeuant, bywyd newydd a bywyd tragwyddol. Mae un o adnodau enwocaf y Beibl yn crynhoi hyn yn daclus,
‘Do carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol. Oherwydd nid i gondemnio’r byd yr anfonodd Duw ei Fab i’r byd, ond er mwyn i’r byd gael ei achub trwyddo ef. Nid yw neb sy’n credu ynddo ef yn cael ei gondemnio, ond y mae’r sawl nad yw’n credu wedi ei gondemnio eisoes, oherwydd ei fod heb gredu yn enw unig Fab Duw’ (Ioan 3: 16 – 18).
Yma yn gryno cawn yr ateb i’r cwestiwn beth sy’n digwydd ar ôl marwolaeth? Os ydym yn credu yn Iesu fe gawn fywyd tragwyddol. Os nad ydym yn credu ynddo rydym yn mynd i ddistryw.
Bywyd Tragwyddol
Anogaeth i gredu yn Iesu sydd yma, dyma un o negeseuon mawr Cristnogaeth. Credwch yn Iesu oherwydd bod eich tynged dragwyddol yn dibynnu ar eich ymateb iddo. Iesu yw’r unig ffordd i fywyd tragwyddol, nid oes ffordd arall. Dywedodd Iesu wrth Martha,
‘Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd. Pwy bynnag sy’n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw; a phob un sy’n byw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw byth. A wyt ti’n credu hyn?’ (Ioan 11: 25,26).
Dyma newyddion syfrdanol, rhyfeddol a bendigedig, mae Iesu’n dod â bywyd tragwyddol a thrwyddo ef mae pawb sy’n ymddiried ynddo yn concro marwolaeth.
‘Mwy na choncwerwyr yw,
Holl etifeddion gras
Ar allu Uffern cnawd a byd
A gallu angau glas.’
-Richard Jones
Ond beth yw bywyd tragwyddol? Bywyd gyda Duw yn y canol, bywyd diddarfod heb bechod nac effeithiau pechod fel afiechyd a rhyfel. Mae rhai disgrifiadau o’r nefoedd yn y Beibl yn anodd eu deall oherwydd eu bod yn defnyddio geirfa symbolaidd. Un o’r disgrifiadau hyn yw’r un yn Natguddiad 21. Ond y mae un o ddulliau’r Beibl o ddisgrifio’r nefoedd yn hawdd iawn i’w ddeall, oherwydd nefoedd yw bod gyda’r Iesu. Un tro siaradai’r Iesu â’i ddisgyblion pan oeddent yn amlwg yn pryderu am y dyfodol, a dywedodd wrthynt,
‘Ac os af a pharatoi lle i chwi, fe ddof yn ôl, a’ch cymryd chwi ataf fy hun, er mwyn i chwithau fod lle’r wyf fi’ (Ioan 14: 3).
Mae hwn yn osodiad mor hyfryd ac yn llawn sicrwydd. ‘Yn y nefoedd, fe fyddwch chi gyda Mi.’ Wedi marwolaeth gorfforol fe fydd pawb sy’n credu yn Iesu yn ei gwmni ef. Yn ei weddi fawr cyn y croeshoelio, dywedodd rywbeth tebyg.
‘O Dad, am y rhai yr wyt ti wedi eu rhoi i mi, fy nymuniad yw iddynt hwy fod gyda mi lle’r wyf fi’ (Ioan 17: 24).
Dywedodd Iesu wrth y lleidr a gredodd ar y groes,
‘Yn wir, rwy’n dweud wrthyt, heddiw byddi gyda mi ym Mharadwys’ (Luc 23: 43).
Yn y nefoedd byddwn ni gyda Iesu (gweler Datguddiad 21: 23).
Distryw
Os ydym yn cael bywyd tragwyddol trwy gredu ynddo, beth sy’n digwydd ar ôl marwolaeth os nad ydym yn credu ynddo? Wrth gyfeirio at ystyr y gair ‘marwolaeth’ yn Genesis 2: 17, dywed Thomas Charles o’r Bala hyn yn yr Hyfforddwr: ‘Beth sydd i ni ddeall wrth y farwolaeth hon?
- Marwolaeth ysbrydol yr enaid, sef ein hymadawiad llwyr oddi wrth Dduw.
‘Bu adeg pan oeddech chwithau yn feirw yn eich camweddau a’ch pechodau’ Eff. 2: 1; Ioan 5: 24. - Marwolaeth naturiol, sef ysgariad y corff a’r enaid oddi wrth ei gilydd dros amser:
‘Ac yn gymaint ag y gosodwyd i ddynion eu bod i farw un waith, a bod barn yn dilyn hynny’ (Heb. 9:27). - Marwolaeth dragwyddol, sef yr hyn oll a ddioddefir mewn corff ac enaid am bechod i dragwyddoldeb, Rhuf. 3:23; Dat. 21:8.
Distryw (Ioan 3:16) yw marwolaeth dragwyddol fel y rhybuddiodd Iesu, e.e., dameg y dyn cyfoethog a Lasarus yn Luc 16: 19 a’r darn ingol ym Mathew 25. Yma cawn ddarlun o’r Arglwydd yn didoli’r defaid a’r geifr. Mae’r defaid dan fendith y Tad yn etifeddu’r deyrnas a baratowyd ar eu cyfer (ad. 34). Mae’r geifr yn mynd i gosb dragwyddol (ad. 46). Nid yw’r Beibl yn manylu llawer am y cyflwr hwn ond fe geir gweledigaeth frawychus yn Natguddiad 14: 9 – 11.
Wrth ein rhybuddio fel hyn y mae Iesu am ein hannog ni i gredu ac ymddiried yn llwyr ac yn gyfan gwbl ynddo. Ynddo ef a thrwyddo ef yn unig y mae bywyd tragwyddol i’w gael. Yr wyt ti wedi dy greu gan Dduw ar gyfer tragwyddoldeb. Ble rwyt ti yn sefyll heddiw mewn perthynas â Duw? A wyt ti yn credu yn Iesu fel Gwaredwr? Rho dy fywyd iddo.
Darllen pellach
- Mathew 24 a 25;
- Ioan 11: 1- 44; 20;
1 Corinthiaid 15.
Tough Topics 2, Sam Storms, Christian Focus.
Heaven and Hell, Edward Donnelly, Banner of Truth.