Pam mae rhaid i bobl ddioddef?’
Dyna gwestiwn a holir yn aml. Ac yna ‘pam mae Duw yn caniatáu dioddefaint yn y byd?’
Pan welwn ni ddioddefaint, mae’n naturiol i ni holi ble mae Duw yn hyn. Gan fod cymaint o anghyfiawnder yn y byd, bydd nifer yn amau bodolaeth Duw cyfiawn a thrugarog. Hynny yw, pe byddai Duw cyfiawn a hollalluog yn bod, byddai dim rhyfeloedd, a byddai pawb yn cael digon o fwyd a dŵr glân. Byddai Duw wedi dileu salwch a difa poen.
Syria
Ffoadur deg oed o Syria yw Ahed. Roedd o a’i deulu’n cael eu bomio bod dydd, a gwelai ddinistr yn barhaus. Gwelodd adeiladau’n dymchwel wrth ymyl ei gartref, cyn bod ei dŷ yntau’n cael ei ddinistrio. Bellach mae o a’i deulu wedi cael lloches yn Libanus, lle mae mwy na 1.25 miliwn o Syriaid wedi ffoi, eu hanner nhw yn blant. Dyw bywyd ddim yn fêl i gyd yn Libanus, ond o leia mae heddwch yno. Mae’r ffoaduriaid mewn lle anodd, heb ddigon o arian i fyw. Gwlad fach yw Libanus, a ffoaduriaid o Syria yw un rhan o dair o’r boblogaeth.
Ond mae Cristnogion yn gwneud gwahaniaeth yno. Mae partner y mudiad dyngarol Tearfund, Heart for Lebanon, yn trefnu i Gristnogion rannu parseli bwyd a phecynnau hylendid. Heb y pecynnau hyn byddai llawer o deuluoedd yn brin o arian i roi digon o fwyd maethlon i’w plant bob wythnos.
Mae rhai ffoaduriaid o Syria hefyd wedi ymsefydlu yng Nghymru, gan gynnwys ein cymuned ni yn Aberystwyth. Fel teulu, rydym wedi ei hystyried yn fraint cael dod i’w hadnabod, a chael y cyfle i gynnig cyfeillgarwch a chroeso iddyn nhw. Fe welwn ni hynny yn rhan o’n cyfrifoldeb fel Cristnogion i ddangos cariad Duw i bobl sydd wedi ffoi rhag rhyfel i wlad ddieithr. Dw i ddim yn honni am eiliad mai Cristnogion yw’r unig rai i wneud hyn yn Aberystwyth. Ond fe gredwn ni fod Duw yn galw arnon ni i fendithio’r ffoaduriaid, a chodi pontydd a chreu cytgord gyda nhw fel Mwslemiaid.
Malawi
Mae Malawi’n wlad dlawd sy’n wynebu heriau anferth er gwaethaf blynyddoedd o waith datblygu. Mae archfarchnadoedd ym Mhrydain sy’n gwneud mwy o arian na chenedl gyfan Malawi!
Mae prinder bwyd difrifol yn dwyn bywyd oddi ar Sylvia, sy’n byw mewn pentref nepell o Lyn Malawi. Mae goroesi o ddydd i ddydd yn un frwydr barhaus. Pam nad yw pethau wedi gwella i Sylvia? Mae achosion tlodi a phrinder bwyd yn gymhleth, ond yn sicr mae’r newid yn yr hinsawdd – o ganlyniad i weithgarwch dyn – yn cael effaith fawr ar Sylvia a miloedd o deuluoedd eraill ym Malawi. Yr eironi yw mai ein ffordd ni o fyw yn y gorllewin cyfoethog sy’n bennaf gyfrifol am y newid yn yr hinsawdd, ond pobl dlawd fel Sylvia ym Malawi sy’n dioddef yr effeithiau.
Yn fyd-eang mae un o bob naw o bobl (795 miliwn) yn dioddef o brinder bwyd a diffyg maeth yn sgil y newid yn yr hinsawdd. Mae hynny’n welliant ar un o bob wyth yn 2013, ond mae ffordd bell iawn i fynd.
Bwyd – rhywbeth dw i’n ei fwynhau ac yn cael digonedd os nad gormodedd ohono. Mae’n rhaid i ni fwyta i fyw, a bwyta’n faethlon i fyw yn dda. Mae rhywbeth mawr o’i le bod cymaint o bobl y byd mor brin o fwyd yn ein hoes dechnolegol lle ceir cynnydd a llewyrch ar bob llaw.
Ond mae’r rhod wedi troi i rai ym Malawi. Mae Polly’n byw rhyw awr oddi wrth Sylvia mewn pentref arall ym Malawi, ac mae hi wedi cael cnydau da ers dwy flynedd.
Beth sydd wedi gwneud y gwahaniaeth? Eglwysi lleol. Mae partner lleol Tearfund, Assemblies of God Care, yn cefnogi pobl fel Polly i wella’r ffordd o gynhyrchu bwyd drwy ddull o’r enw Foundations in Farming. Defnyddir mulch a thail organig i gadw’r pridd a’r dŵr, ac mae hynny’n arwain at gnydau mwy ffrwythlon. O’r herwydd, mae Polly’n llai dibynnol ar gymorth bwyd pan fydd prinder glaw. Mae’r eglwys leol yn allweddol i’r llwyddiant hwn gan eu bod nhw’n trefnu hyfforddiant cymunedol.
Mae bywyd Polly wedi gwella oherwydd bod pobl mewn eglwysi lleol yn ymateb i alwad Duw i gynnal y tlawd. Dywedodd Iesu ei hun ei fod wedi dod er mwyn i bobl gael bywyd yn ei holl gyflawnder. (‘Dw i wedi dod i roi bywyd i bobl, a hwnnw’n fywyd ar ei orau.’ (Ioan 10: 10 – www.beibl.net)). Nid yw Duw yn hapus i weld dioddefaint, ac mae’n gweithio drwy ei ddilynwyr mewn eglwysi lleol i ofalu bod pobl yn cael y cyfle i fyw bywyd ar ei orau.
Beth mae bywyd ar ei orau yn ei olygu?
Nid yn unig lawnder o fwyd a diod, ond hefyd y gobaith ysbrydol sy’n dod wrth dderbyn Crist yn Arglwydd ar ein bywydau. Gwybod bod Iesu’n ein caru ni ac yn cynnig bywyd tragwyddol i ni.
O ystyried, felly, bod cymaint yn bod ar y byd, sut mae Cristnogion yn esbonio eu ffydd mewn Duw hollalluog a chyfiawn sy’n caru’r byd?
Mae Duw wedi rhoi rhyddid ewyllys i ni – rhyddid i garu a derbyn Duw a rhyddid i wrthod Duw. Nid yw Duw yn ein gorfodi i fyw yn gyfiawn ac yn gwbl anhunanol, ond gan nad yw’r byd cyfan wedi ymroi i leddfu ac arbed dioddefaint pobl eraill, mae dioddefaint yn parhau.
Yr hyn a wnaeth Duw oedd torri i mewn i’r cylch dioddefaint drwy anfon ei Fab Iesu Grist i ddangos i ni’r ffordd i fyw ac i fynd i’r groes drosom ni, i gymryd arno ef ddicter Duw yn erbyn pechod ac anghyfiawnder. Mi wnaeth o gymryd y dioddefaint arno ei hun.
Felly mae Duw yn galw arnon ni drwy Iesu i garu a gwasanaethu.
Ac mae llyfr y Datguddiad yn rhoi addewid i ni am fyd lle na fydd galar na phoen, pan fyddwn ni gyda Duw mewn tragwyddoldeb.
Beth gallwn ni ei wneud yn ymarferol?
- Gweddïo dros elusennau fel Tearfund sy’n trawsnewid bywydau pobl drwy eglwysi lleol;
- Cefnogi mudiadau sy’n dod â chymorth ymarferol a gobaith ysbrydol i gymunedau tlawd – ac annog eraill i gefnogi hefyd;
- Ymgyrchu er mwyn taclo tlodi, e.e. y newid yn yr hinsawdd;
- Gweithredu’n ymarferol, e.e. drwy wirfoddoli i brosiect cymunedol, neu groesawu ffoaduriaid;
- Ystyried y ffordd rydyn ni’n byw, ac effaith hynny ar bobl eraill ar draws y byd.
Ceir rhagor o wybodaeth ar
www.tearfund.org
gan Siôn Meredith
Siaradwr ar ran Tearfund ac Warden yn Eglwys y Santes Fair, Aberystwyth