Mae iaith yn fwy na geiriau, a thôn yn fwy na nodau.
Wrth i Dduw symud mewn diwygiad neu adfywiad does dim syndod bod rhai wedi eu hysgogi i ysgrifennu emynau o addoliad, emynau sydd yn dysgu ac annog pobl Dduw i ymhyfrydu Ynddo. Dyma ofyn i Dafydd Job am ei syniadau ef am ysgrifennu emynau Cymraeg heddiw.
Mae iaith yn ymadroddion, yn frawddegau ac idiomau. Mae’n cyfleu’r hyn sydd ym meddwl a chalon un er mwyn i eraill fedru ymuno yn yr hyn sy’n cael ei ddweud. Mae tôn yn nodau wedi eu trefnu mewn modd i gyffwrdd emosiwn ochr yn ochr â’r meddwl. Pan ddown at emynau rydym yn troi at orchwyl pwysicaf dynolryw, oherwydd yma rydym yn cyfathrebu â’n gilydd am Dduw, ac yn cyfathrebu â’n Crëwr amdano’i hun. Yng ngeiriau Cyffes Westminster: ‘Diben pennaf dyn yw gogoneddu Duw a’i fwynhau yn dragywydd.’ Felly nid gwaith i’w gymryd yn ysgafn yw ysgrifennu emyn. Iddo fod yn gymorth i’r saint i addoli Duw rhaid i’r emyn fynegi rhywbeth gwerth ei ddweud, a hynny mewn ffordd sy’n anrhydeddu Duw.
A oes angen emynau newydd?
Mae gennym draddodiad cyfoethog o emynau yn ein gwlad, ac emynau’r ddeunawfed ganrif yn enwedig yn cyffwrdd â chymaint o wirioneddau’r Gair a phrofiadau Cristnogion. A oes angen mwy nag efallai gosod tonau newydd i’r hen eiriau? Yn sicr ni ddylid troi cefn ar y trysor sydd gennym yn yr hen emynau i’n cynorthwyo yn ein haddoliad. Ond mae iaith yn newid, a geiriau yn newid eu hystyron. Go brin fod llinell megis ‘Ef yw ein castell caead’ o un o salmau cân Edmwnd Prys yn gymorth i’r mwyafrif ohonom yn ein mawl!
Ochr yn ochr â hyn, wrth werthfawrogi bod emynwyr y gorffennol yn ein galluogi i fynegi ein profiad mewn mawl, onid yw’n rhesymol ein bod ni yn mynegi ein haddoliad yn ein hidiom ein hunain? Os oedd Robert ap Gwilym Ddu yn iawn pan ddywedodd ‘Rhy fyr yw tragwyddoldeb llawn i ddweud yn iawn amdano’, yna mae lle i ninnau fynegi yn ein hiaith ein hunain fawrion weithredoedd Duw.
Y Testun
Rydym yn byw mewn oes lle rhoddir pwyslais mawr ar deimladau. Mae llawer o ganeuon Cristnogol cyfoes yn ymddangos fel pe bydden nhw’n canolbwyntio ar yr un sy’n canu a’r hyn mae’n ei deimlo. Heb amau didwylledd y rhai fu’n cyfansoddi, nid dyna ddylai emyn ei wneud. Wrth addoli, nid ni sydd yn y canol ond yr un sy’n cael ei addoli. Hyd yn oed pan fyddwn yn sôn am ein teimladau, rydym yn gwneud hynny mewn perthynas â’r Duw rydym yn ei gyfarch. Felly rhaid dechrau gyda’r Beibl. Cryfder mawr cymaint o emynwyr gorau’r gorffennol oedd eu gallu i gymryd delweddau Beiblaidd a’u plethu yn emynau cyflawn. Roedd hyn yn eu cadw rhag mynd yn or-sentimental a goddrychol.
Yn ymarferol gall un darn o’r Ysgrythur, neu un hanes ohono fod yn ysbrydoliaeth i emyn. Bu’r croeshoelio yn enghraifft amlwg o hyn. Dro arall, efallai mai thema sy’n ysbrydoli, ac felly rhaid myfyrio ar wahanol adrannau o’r Beibl. Soniodd Stuart Townend a Keith Getty am y broses o ysgrifennu ‘Speak, O Lord.’ – eu hemyn ar adael i’r Beibl siarad â ni. Buont yn chwilio drwy’r Beibl yn casglu’r holl gyfeiriadau at y modd mae Gair Duw yn ein newid, ac yna plethu’r syniadau yn emyn grymus.
Mae angen i’r emynau fod yn Drindodaidd. Nid yw hyn yn golygu fod rhaid sôn am y Tad, y Mab a’r Ysbryd ym mhob emyn. Ond fe ddylai pob un gyd-fynd â fframwaith diwinyddol Beiblaidd. Dylid bod yn glir pa berson o’r Drindod rydym yn cyfeirio ato, neu yn ei gyfarch. Mae’n bwysig hefyd gadael i un ddelwedd redeg drwy’r emyn i’w chlymu at ei gilydd a’i gwneud yn gofiadwy.
Yr Iaith
Mae Duw am siarad â ni yn ein hiaith ein hunain. Rydym felly am fynegi ein mawl, ein hedifeirwch, ein hymgysegriad a phob bwriad arall mewn iaith sy’n naturiol i ni. Nid ailadrodd emynau’r ddeunawfed ganrif a ddylem. Mae ambell i emyn yn swnio fel pe byddai wedi benthyg llinellau o’r hen emynau, a go brin y gellir gwella ar y rheini bellach. Nid rhestr o ymadroddion duwiol yw gwir emyn. Cafwyd gormod o odli ‘gras’ â ‘phechod cas” ac ati. Rhaid dod o hyd i ffyrdd newydd o fynegi’r hen wirioneddau os am greu emynau ystyrlon, ffres.
Gan mai cyfeirio ein mawl at Dduw yr ydym, mae ef yn haeddu’r gorau. Dylem geisio bod yn ramadegol gywir, wrth gadw’r ymadroddion yn ystwyth a hawdd eu deall. Un o nodweddion emynau mwy cyfoes yw llai o bwyslais ar yr odl. Gall hyn ein rhyddhau o ormes yr hen drawiadau. Ond mae hefyd yn bwysig cadw’r elfen farddonol wrth gyfansoddi. Nid dim ond brawddegau o ryddiaith yw emyn. Mae’n wir i emynwyr yr ugeinfed ganrif ar adegau fynd yn or-farddonol, ac roedd yr iaith flodeuog yn cuddio unrhyw gynnwys ystyrlon. Ond mae’r emynau sy’n mynd i oroesi yn gosod y geiriau gorau yn y drefn orau. Mae cynildeb ymadrodd yn eu gwneud yn hawdd eu cofio. Meddyliwch am ymadroddion o’r hen emynau – ‘Rhagluniaeth fawr y nef’, ‘Fy ngwisgo â’i gyfiawnder / yn hardd gerbron y Tad’, neu emyn rhyfeddol Ann Griffiths am berson Crist – ‘Dwy natur mewn un person / yn anwahanol mwy’. Dyna osod gwirioneddau Beiblaidd dwfn mewn ffyrdd syml, cofiadwy.
Tonau
Y prif reswm dros alw Cymru yn Wlad y Gân oedd fod ganddi destun gwerth canu amdano, sef yr Arglwydd Iesu Grist. Ond rheswm arall oedd fod y tonau a roddwyd i’w hemynau yn gallu cael eu canu gan gynulleidfa. Nid clwstwr o unawdwyr oedd yn dod at ei gilydd i ganu ‘Cwm Rhondda’. Gallai cynulleidfa uno i foli Duw, a hynny mewn pedwar llais.
Wrth gwrs mae modd ysgrifennu emynau newydd ar gyfer rhai o’r hen donau. Ond, yn ein dyddiau ni, daeth tonau o fath newydd yn boblogaidd. Mae nifer o’r caneuon newydd yn addas iawn i berfformwyr ar lwyfan, ond ddim mor hawdd i gynulleidfa. Mae’r amrediad nodau yn rhy eang, a’r neidio mawr o un nodyn isel i un uchel yn anaddas i gynulleidfa o addolwyr. Ar y llaw arall ystyriwch emynau newydd Townend a Getty yn Saesneg. Nid tonau pedwar llais mo’r rhain yn naturiol. Nid ydynt ddim gwaeth oherwydd hynny, ond maent yn amlwg yn rhai y gall cynulleidfa eu canu. Mae angen cyfansoddwyr tonau sy’n gallu cydweithio â beirdd o ddiwinyddion er mwyn creu rhywbeth fydd yn gymorth i’r saint addoli Duw.
Cyfieithu
Mae traddodiad gwych o gyfieithu emynau o ieithoedd eraill, o gofio fel mae llawer o’n hoff emynau wedi eu trosi o’r Lladin, yr Almaeneg yn ogystal â’r Saesneg. Bu i emynau Watts a Wesley gyfoethogi llawer ar ein traddodiad ni ein hunain. Ond mae cyfieithu emyn yn grefft. Nid peth hawdd yw sicrhau fod y cyfieithiad yn cyd-fynd â’r dôn, oherwydd mae’r acen yn y Gymraeg mewn lle gwahanol i’r Saesneg. Mae cyfieithu mewn ffordd farddonol yn fwy na throsi geiriau, a bu sawl enghraifft o gyfieithiad clogyrnaidd. Yn ogystal â hyn, rhaid sicrhau fod y cynnwys diwinyddol yn y cyfieithiad. Bu i ambell emyn golli ei hystyr bron yn llwyr o gael ei drosi. Ond peidiwn â bodloni ar gyfieithu yn unig.
Y Gyfrinach Fawr
Y gwir yw fod yr emynwyr gorau wedi profi realiti Duw, ac wedi cael eu hysbrydoli i fynegi gwirioneddau a phrofiadau mewn emynau yr oedd Cristnogion yn gallu uniaethu â hwy. Angen mawr ein dydd ni yw Cristnogion sy’n byw yn agos at Dduw, ac yn yr agosatrwydd hwnnw yn darganfod fod eu calonnau yn ymateb i gariad a gras Duw. Canlyniad hynny fydd mynegiant cyfoes o hen wirioneddau fydd yn ychwanegu at y mawl sy’n seinio drwy’r nef. Os mai Williams oedd biau’r gân yn y ddeunawfed ganrif, mae angen i rywun yn ein dyddiau ni ddweud gyda’r Brenin Dafydd: ‘Arglwydd, agor fy ngwefusau, a bydd fy ngenau yn mynegi dy foliant’. (Salm 51:15)