Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Sut i WeddÏo yn ôl Martin Luther

27 Medi 2017 | gan Martin Luther

Yn 1535 ysgrifennodd Martin Luther lyfr ar weddi i’w farbwr, Peter Beskendorf, a oedd wedi gofyn iddo am gyngor ar sut i weddïo.

Isod nodir ddechrau’r canllawiau a gyfieithwyd i’r Saesneg o dan y teitl,
A Simple Way to Pray.

Hoffwn i ddweud wrthych chi, hyd y galla i, beth rydw i’n ei wneud yn bersonol wrth weddïo. Boed i’n Harglwydd annwyl eich galluogi chi a phawb arall i ragori arna i yn hyn o beth! Amen.

Yn gyntaf, pan rwy’n teimlo fy mod i wedi mynd yn oeraidd a phrudd wrth weddïo oherwydd tasgau neu feddyliau eraill (am fod y cnawd a’r diafol bob amser yn atal ac yn rhwystro gweddi), rwy’n rhuthro i’m hystafell, a’m sallwyr bach yn fy llaw, neu, ar y dydd a’r awr briodol, i’r eglwys lle bydd cynulleidfa wedi ymgasglu ac fel y caniatâ’r amser, byddaf yn adrodd wrthyf fy hun yn dawel air am air y Deg Gorchymyn, y Credo, ac os bydd gen i amser, rai o eiriau Crist neu Paul, neu ambell Salm, yn union fel y byddai plentyn yn ei wneud.

Mae’n beth da sicrhau mai gweddi yw gorchwyl cyntaf y bore a gorchwyl olaf y nos. Gwyliwch rhag y syniadau gau, twyllodrus hynny sy’n dweud wrthych, ‘Arhoswch ychydig. fe weddïa i mewn awr; yn gyntaf rhaid i mi roi sylw i’r hwn a’r llall.’ Mae’r meddyliau hyn yn eich tynnu chi oddi wrth weddi at faterion eraill sy’n dal eich sylw chi ac yn mynd â’ch amser chi nes tagu gweddïau’r diwrnod hwnnw.

Efallai y bydd gennych chi rai tasgau sy’n llawn cystal â gweddi neu sy’n well na gweddi, yn enwedig mewn argyfwng. Yn ôl y sôn, dywedodd Sant Jerôm fod popeth a wna credadun yn weddi a dihareb, ‘Mae’r un sy’n gweithio’n ffyddlon yn gweddïo ddwywaith.’ Gellir dweud hyn am fod credadun yn ofni ac yn anrhydeddu Duw yn ei waith ac yn cofio’r gorchymyn i beidio â gwneud niwed i neb, na cheisio dwyn, camarwain, na thwyllo. Mae’r meddyliau hyn a’r ffydd hon yn troi heb os nac oni bai ei waith yn weddi ac yn aberth moliant.

Ar y llaw arall, mae hefyd yn wir fod gwaith anghredadun yn felltith lwyr, ac felly mae’r un sy’n gweithio heb ffydd yn melltithio ddwy waith. Wrth iddo wneud ei waith, mae ei feddyliau’n esgeuluso Duw ac yn tramgwyddo’i gyfraith, sut i fanteisio ar ei gymydog, sut i ddwyn oddi wrtho a’i dwyllo. Beth all y meddyliau hyn fod ond melltithion noeth yn erbyn Duw a dyn, sy’n gwneud ein bywyd a’n hymdrech yn felltith ddwbl wrth i ddyn ei felltithio’i hun. Yn y pen draw cardotwyr a ffyliaid ydyn nhw. Gweddi barhaus sydd gan Grist dan sylw yn Luc 11, ‘Gweddïwch yn ddi-baid’, gan fod rhaid gwylio’n ddi-baid rhag pechod a drwgweithredu, rhywbeth na all neb ei wneud os nad yw’n ofni Duw nac yn cofio’i orchymyn, fel y dywed Salm 1, ‘Gwyn ei fyd yr hwn a fyfyria yn ei gyfraith ef ddydd a nos.’

Eto rhaid i ni ofalu nad ydym yn torri arferiad gweddi go iawn a dychmygu bod gweithredoedd eraill yn angenrheidiol, pan nad oes eu hangen o gwbl wedi’r cyfan. O ganlyniad byddwn ni’n llacio ac yn diogi, yn oeri ac yn llesgáu wrth weddïo. Nid yw’r diafol sy’n ein blino ni’n ddiog nac yn ddiofal, ac mae ein cnawd yn rhy barod ac eiddgar i bechu, heb awydd i weddïo.