Ni fydd pawb yn dathlu’r Diwygiad Protestannaidd eleni, neu o leiaf ni fydd y dathliadau’n ddigymysg. Ar ddechrau’r flwyddyn, ar ddiwedd wythnos undod Cristnogol, cyhoeddodd Archesgobion Caer-gaint a Chaerefrog ddatganiad ar y cyd. Er eu bod yn croesawu’r adfywiad ysbrydol a ddaeth yn sgil y Diwygiad a roddodd fodolaeth i’r Eglwys Anglicanaidd, rhaid gresynnu, meddent, at y rhwygiadau ac ymroi i wella’r berthynas ag eglwysi eraill. Hen feirniadaeth yw hon sydd wedi codi dro ar ôl tro, ac un o’r rhesymau bod cymaint o fynd arni yw bod cymaint o enghreifftiau i’w dyfynnu. Nid oes un Eglwys Brotestannaidd ond yn hytrach miloedd ar filoedd o wahanol grwpiau Protestannaidd.
Y dewis: bywyd ysbrydol neu undod sefydliadol
Mae’r Diwygiad Protestannaidd yn ein hatgoffa taw rhywbeth bywiol yw Cristnogaeth. Dod i roi bywyd a wnaeth Iesu Grist (Ioan 10:10), ‘bywyd tragwyddol’ yw nod yr efengyl (Ioan 3:16), bywhau yw gwaith yr Ysbryd (Eff. 2:1-7 ). Ynghlwm wrth rai o’r darluniau amlycaf o’r Eglwys yn y Beibl (e.e. corff, praidd) y mae’r syniad o fywyd. Nid rhywbeth sefydliadol, diwylliannol yw’r bywyd hwn, ond gwaith yr Ysbryd Glân yn nyfnder y galon, a dyna a welwyd yn hanes Martin Luther a’i ddilynwyr. Un o ddarganfyddiadau cynnar Luther oedd bod mwy i gyffesu pechod na dilyn seremonïau’r Eglwys. Roedd angen newid yn y galon.
Wrth gwrs, mewn byd pechadurus, lle bydd bywyd, bydd problemau, ond nid yw hyn yn tynnu oddi ar ryfeddod a gwerth bywyd. Nid yw doli glwt yn strancio, nac yn dihuno ganol nos nac yn gadael yr un annibendod ar ei hôl, ond pa riant yn ei iawn bwyll fyddai’n barod i gyfnewid doli glwt am blentyn byw? Dyna ran o her y Diwygiad i ni heddiw. Ble mae’r bywyd? A yw ein trefn yn bwysicach na bywyd? Mae’n debyg y byddai Luther arall yn aflonyddu’r dyfroedd yn ein plith ninnau hefyd ond efallai fod angen hynny.
Y gynnen: yr Eglwys neu Grist
Mae un Gweinidog Cymraeg wedi disgrifio’r Diwygiad fel ‘hwch mewn siop’ ac efallai fod adlais o hynny yn sylwadau’r archesgobion, ond rhaid gwerthfawrogi beth oedd wrth wraidd yr aflonyddwch. Nid corddi’r dyfroedd oedd bwriad Luther wrth hoelio’i 95 pwnc ar ddrws eglwys Wittenberg yn 1517. Un o weision ffyddlon yr Eglwys ydoedd, yn fynach ac yn Athro mewn Diwinyddiaeth. Fodd bynnag, roedd rhywbeth yn ei flino, sef y fasnach mewn maddeuebau (gwerthu’r hawl i leihau cyfnod pobl yn y purdan) a dadlennol yw’r modd yr aeth ati i wahodd trafodaeth ar y mater hwn, gan ddechrau gyda’r pwnc hwn:
‘Wrth ddweud ‘Edifarhewch’, dymunodd ein Harglwydd a’n Hathro Iesu Grist i holl fywyd credinwyr fod yn un o edifeirwch.’
Geiriau cyntaf y gwreiddiol yw ‘Ein Harglwydd a’n Hathro Iesu Grist’. Roedd y maddeuebau yn arfer eglwysig a werthid gyda sêl bendith y Pab, ond beth oedd gan Grist i’w ddweud am hyn? Beth oedd ‘edifeirwch’ yn ei olygu iddo ef? Er nad oedd athrawiaeth Luther wedi datblygu’n llawn eto, roedd yr hedyn wedi ei blannu yn ei galon. O’r egwyddor hon y byddai pwyslais y Diwygiad ar y Beibl yn unig yn deillio, oherwydd trwy’r Beibl yr oedd Crist yn datgan ei awdurdod.
Wrth gwrs, roedd Rhufain hefyd yn derbyn awdurdod y Beibl, ond Beibl a ddehonglwyd gan yr Eglwys ydoedd, a honno’n Eglwys na allai gyfeiliorni. Ateb y Diwygwyr oedd pwysleisio y gallai’r Eglwys fod yn anghywir. Y gred hon sy’n gwneud pob diwygiad yn bosibl, mewn gwirionedd, gan nad oes rhaid i ni dderbyn yn ddifeddwl pob traddodiad ac arfer; mae angen i ni ein holi ein hunain o hyd beth yw meddwl Crist. Gwelir hyn yn glir yng ngeiriau Crist wrth yr eglwysi yn llyfr Datguddiad, a’i alwad arnynt i edifarhau (2:3, 16) a’i wahoddiad i eglwys lugoer Laodicea: (3:20) ‘Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws yn curo; os clyw rhywun fy llais ac agor y drws, dof i mewn ato, a bydd y ddau ohonom yn cydfwyta gyda’n gilydd.’ Ymateb i’r gwahoddiad grasol hwn yw dechrau diwygiad go iawn.
Yr alwad: undod ysbrydol
Os yw bywyd ysbrydol ac awdurdod Crist ar yr Eglwys yn hollbwysig, a fyddai’n deg casglu bod rhwygiadau sydd wedi dilyn y Diwygiad yn bris anffodus i’w dalu er mwyn ennill budd mawr? Er cymaint bendithion y Diwygiad, mae’n amhosibl diystyru undod am fod undod yn bwysig i Grist. Y syniad amlycaf yn y darluniau Beiblaidd o’r Eglwys yw undod, a’r undod hwnnw’n adlewyrchu’r ffaith taw Un Gwaredwr sydd wedi ei roi, un Arglwydd, un Pen Conglfaen, un Bugail da, un Pen:
Un llais, un sŵn, un enw pur,
O’r gogledd fo i’r dwyrain dir,
O fôr i fôr, o gylch y byd,
Sef enw Iesu oll i gyd.
Cuddio’r gwirionedd hollbwysig hwn a wna ein rhaniadau, a thynnu oddi ar ogoniant Iesu Grist. Rhaid derbyn na fu’r Diwygwyr na’u holynwyr yn llwyddiannus iawn yn hyn o beth bob tro, a gallwn ddysgu o’u methiannau yn ogystal â’u rhinweddau.
Yn ein heglwysi, ac wrth ymwneud â Christnogion ac eglwysi eraill, down ni wyneb yn wyneb â phobl wahanol iawn i ni ein hunain ac mae angen ffrwyno ein tueddiadau cnawdol a meithrin cariad a gras. Nid ar chwarae bach y gwneir hyn, ‘Gyda phob gostyngeiddrwydd ac addfwynder, ynghyd â hirymaros, gan oddef eich gilydd mewn cariad; gan fod yn ddyfal i gadw undeb yr Ysbryd yng nghwlwm tangnefedd’ (Eff. 4:3, 4 William Morgan). Pa ryfedd bod cynifer yn anobeithio am undod o’r fath ac yn ceisio yn hytrach ffyrdd o gyd-fod yn lled heddychlon heb lawer o gymdeithas ddofn? Ond nid i hynny y’n galwyd gan Grist. Mae’r Ysbryd a oedd ar waith a’r Crist a bregethwyd adeg y Diwygiad yn ein cymell i gariad brawdol, ‘yr un meddwl, a’r un cariad gennych at eich gilydd, yn unfryd ac yn unfarn’ (Phil. 2:2). Byddai’n braf gweld diwygiad o’r math hwn yn mynd ar led yn ein plith.