Saif yr apostol Paul fel cawr yn hanes cynnar yr Eglwys Fore. Nid oes un dyn arall a luniodd siâp Cristnogaeth fel y dyn hwn. Hyd yn oed cyn dod yn Gristion arweiniodd ei erledigaeth wyllt o Gristnogion at ledaeniad y Ffydd.
Addysgwyd Paul wrth draed y Pharisead Gamaliel. Roedd yn hyddysg yn yr Ysgrythurau a chredai’n angerddol fod Cristnogaeth yn beryglus i Iddewiaeth. Felly erlidiodd Gristnogion yn ddidrugaredd.
Daeth newid mawr i fywyd Saul (neu Paul fel y’i gelwid yn ddiweddarach) ar y ffordd i Ddamascus. O hynny ymlaen cyfeiriwyd ei sêl at y gwaith o ledaenu’r efengyl. Tan hynny prin oedd yr ymdrechion i fynd â’r efengyl at y Cenhedloedd. Bellach, fodd bynnag, yr oedd Paul i fynd â’r efengyl ar ei deithiau cenhadol o gwmpas Môr y Canoldir.
Cwestiwn a fygythiai hollti’r Eglwys Fore oedd a ddylai’r Cristnogion Cenhedlig gadw Cyfraith Dduw fel y gwnâi’r Cristnogion Iddewig. Gweithiodd Paul yn galed i ddangos i’r Iddewon bod y Cenhedloedd yn gymeradwy i Dduw trwy ffydd yn Iesu Grist, a llawn mor galed i ddangos i’r Cenhedloedd hwythau eu bod yn gymeradwy i Dduw ar yr un sail.
Wrth feddwl am waith gwaredigol Duw fe welwn ei fod wedi trefnu gwaredigaeth o bechod i’r Cenhedloedd trwy ffydd yn ei Fab Iesu Grist. Sefydlodd Duw gyfamod newydd yn Iesu Grist lle’r addawodd faddeuant pechodau (Jer. 31:31-4 cf. Luc 22:20).
Cryfderau
→ Trawsnewidiwyd ef o fod yn erlidiwr i fod yn bregethwr
→ Pregethodd yr Efengyl trwy’r Ymerodraeth Rufeinig
→ Awdur sawl llythyr yn y Testament Newydd
→ Deliodd yn blwmp ac yn blaen â phroblemau
→ Apostol i’r Cenhedloedd
Gwendidau
→ Cymeradwyodd ladd Steffan a cheisiodd ddinistrio Cristnogaeth
Gwersi
→ Mae bywyd tragwyddol yn rhodd gan Dduw trwy ffydd yn Iesu Grist
→ Deillia ufudd-dod i Gyfraith Dduw o berthynas y Cristion â Duw
→ Gall Duw ddefnyddio ein gorffennol i’w wasanaeth
Ffeithiau
→ Ei ddinas enedigol: Tarsus → Mae’r enw Paul yn golygu bach
→ Perthnasau: ‘Gweler Actau 23:16-22
→ Gwaith: Gwneuthurwr pebyll ac apostol
→ Cyfoeswyr: Gamaliel, Steffan, Luc, Barnabas a Timotheus
Adnodau
Actau 7:54-8:3 a 9:1-19; Philipiaid 1:2