Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Oes unrhyw lyfrau i’w darllen am y Diwygiad Protestannaidd?

27 Medi 2017 | gan Noel Gibbard

Oes, digonedd! Diolch i Noel Gibbard am gyflwyno rhai o’r llyfrau mwyaf diddorol i ni yma.

Llyfrau Cyffredinol

Un o’r cyflwyniadau cyffredinol gorau yw R. Tudur Jones, The Great Reformation (IVP, 1985; Bryntirion, 1997). Yma eglura’r awdur y byddai’n well sôn am ‘ddiwygiadau’ yn hytrach na ‘Diwygiad’ Protestannaidd. Dilyna’r hanes o wlad i wlad; nid yr Almaen, y Swistir a Lloegr yn unig, ond hefyd gwledydd megis yr Eidal, Iwerddon, Cymru a Gwlad yr Iâ. Yn fwy diweddar mae Nicholas R. Needham, 2,000 Years of Christ’s Power, Reformation and Renaissance, Part 3 (Grace Publications, 2003; Evangelical Press, 2004) wedi tynnu sylw at y cysylltiad rhwng y Diwygiad a’r Dadeni. Mae’n bwysig deall y ddau fudiad hyn, a’r berthynas rhyngddynt. Gall unrhyw un sydd â ddiddordeb mewn hanes fwynhau’r gyfrol hon. Cyfrol swmpus ond sydd wedi ei hanelu at y darllenydd cyffredin.
Yn Gymraeg ceir D. Ben Rees, Deuddeg o Ddiwygwyr Protestannaidd (Cyhoeddiadau Modern Cymreig cyf. 1988). Yma ceir deuddeg o erthyglau ar arweinwyr y Diwygiad ar y cyfandir, Lloegr a’r Alban, gan gynnwys un llai adnabyddus, sef Johann Bugenhagen, un o gydweithwyr Luther. Mae’n dda cael y deuddeg mewn un gyfrol. Mae’n gymorth i gael golwg cytbwys ar y Diwygiad.

Y Diwygiad yng Nghymru

Lle da i ddechrau yw R. Tudur Jones, Cymru a’r Diwygiad Protestannaidd (Y Colegiwm Cymraeg, 1987). Cyflwyniad clir a chryno, 74 tudalen. Yn arbennig o berthnasol i Gymru yw’r adran ‘Cymreigio’r sefydliad’. Ceir rhagor o fanylder gan y prif awdurdod ar y cyfnod hwn, Glanmor Williams, The Reformation in Wales, Headstart History (Bangor, 1991). Yr ymdriniaeth fanylaf gan yr un awdur yw Wales and the Reformation (Gwasg Prifysgol Cymru, 1997, 1999). Clamp o lyfr yw hwn, bron pedwar cant o dudalennau. Mae’n waith trylwyr, ysgolheigaidd. Rhydd le amlwg i Harri’r VIII, a’r datblygiadau allweddol yn ei gyfnod. Mae’n dilyn y newidiadau hyd amser Elisabeth I, ac yn neilltuo pennod i drafod Beibl 1588.
O ran cyfraniad William Salesbury, rhaid nodi R. Brinley Jones, William Salesbury, Writers of Wales Series (Gwasg Prifysgol Cymru, 1994). Dyma’r gyfrol sy’n crynhoi rhestr gweithiau Salesbury, a hynny’n gronolegol. Mae’n syndod faint gynhyrchodd yr ysgolhaig. Llyfr defnyddiol arall yw James Pierce, Life and work of William Salesbury (Lolfa, 2016). Cyhoeddwyd nifer fawr o lyfrau ar wahanol agweddau ar waith Salesbury. Mae’r gyfrol hon yn casglu’r holl agweddau at ei gilydd, a’r canlyniad yw cofiant cyflawn i’r ysgolhaig. Dyma waith arbennig iawn. Olrheinir hanes Salesbury, y dylanwadau arno, gan nodi yn arbennig ddylanwad Erasmus. Neilltuir pedair pennod i drafod Testament Newydd 1567.

Martin Luther

Yr astudiaeth arloesol oedd Roland Bainton, Here I Stand, a gyhoeddwyd yn gyntaf ym 1950 (Mentor). Ers hynny ysbrydolodd filoedd o ddarllenwyr. Mae ei apêl yn parhau. Trafodir y cefndir, taith ysbrydol Luther, a’i ddylanwad, yn feistraidd. Ceir nifer fawr o argraffiadau, e.e. Abingdon, 1991, 2013; Penguin, 1955. Yn ddiweddar, cyhoeddwyd Scott H. Hendrix, Visionary Reformer (Prifysgol Iâl, 2015). Cyfrol ffres a gwerthfawr yw hon sy’n trafod yr hyn a arweiniodd at y Diwygiad , a sut y gwnaeth Luther gyflawni ei weledigaeth. Mae’n cynnwys manylion diddorol am y teulu Luther; busnes y teulu, a Luther ei hun. Gwneir defnydd da o lythyrau Luther a’r ‘Table Talk’. Trafodir cryfderau a gwendidau’r diwygiwr; ei lwyddiant a’i fethiannau.

Syniadau’r Diwygiad

Gall y darllenydd a hoffai wybod mwy am ddiwinyddiaeth y Diwygiad elwa o Mark A. Noll, Confessions and Catechisms of the Reformation (IVP, 1988, 1991) sy’n ymdrin â phob un o wahanol eglwysi’r Diwygiad Protestannaidd. Llyfr gwerthfawr arall yw Timothy George, The Theology of the Reformation (Brodman, 1988, argr. 2013) sy’n egluro diwinyddiaeth y gwahanol arweinwyr, a’r ail argraffiad yn cynnwys pennod ychwanegol ar William Tyndale. Mae hwn yn gyfuniad hapus o hanes a diwinyddiaeth. Llyfr tebyg yw Alister E. McGrath, Reformation Thought: An Introduction (Rhydychen , 1988, 1993). Fel Timothy George, cyfuna hanes a diwinyddiaeth. Rhoddir sylw i’r athrawiaethau gwahanol: cyfiawnhad trwy ffydd; etholedigaeth; yr Ysgrythur; sacramentau; yr Eglwys. Trafodir yr agwedd boliticaidd, a mesur dylanwad y Diwygiad Protestannaidd. Yn ddiweddar mae Mike Reeves a Tim Chester wedi tynnu sylw at bwysigrwydd y Diwygiad Protestannaidd i Gristnogion efengylaidd yn Why The Reformation Still Matters (IVP, 2016).