Yng nghanol cyffro a bwrlwm y Diwygiad Protestannaidd mae’n hawdd colli golwg ar dystiolaethau personol y rhai a ddefnyddid gan Dduw i’w arwain. Dynion o’r un anian â ninnau oeddent; pechaduriaid a gafodd ras yn yr Arglwydd Iesu, gwrthryfelwyr a dderbyniodd faddeuant gan y Brenin. Yr oeddent wedi profi a gweld mai da yw’r ARGLWYDD ac yr oeddent eisiau gweld eu cyfoedion yn profi a gweld hyn hefyd.
Trwy fywyd Martin Luther, arloeswr y Diwygiad, gwelwn mai ‘trugarog a graslon yw’r ARGLWYDD, araf i ddigio a llawn ffyddlondeb’ (Salm 103:8).
Ysgwyd
Ganwyd Luther yn yr Almaen ym 1483 a phan oedd yn 18 oed dechreuodd astudio’r Gyfraith. Ond wrth deithio adref o’r brifysgol yn Erfurt un tro dyma storm enfawr yn dechrau rhuo. Yr oedd Luther yn siŵr ei fod yn mynd i farw ond cafodd ei arbed, ac o hyn allan dechreuodd feddwl am bethau tragwyddol.
Yr oedd yr Ysbryd yn ystod y cyfnod hwn yn gweithio yn Luther, yn ei argyhoeddi o bechod a chyfiawnder a barn, ac yr oedd Luther yn chwilio o ddifrif am faddeuant a chyfiawnder y byddai Duw yn ei dderbyn. Ond yr oedd Luther yn siŵr bod rhaid iddo ennill ffafr Duw trwy gyflawni gweithredoedd da. Yr oedd yn siŵr bod rhaid iddo ef wneud iawn am ei bechod, bod rhaid iddo ei gyfiawnhau ei hun o flaen Duw, ac felly penderfynodd fynd yn fynach er mwyn sicrhau bod cyfleoedd lu ganddo i gyflawni gweithredoedd da! Esboniodd y penderfyniad hwn yn ddiweddarach yn y modd hwn: ‘Credwn fod rhaid i mi wneud gweithredoedd da, nes i Grist, ar sail y rhain, droi’n gyfeillgar a grasol tuag ataf.’
Yn ystod ei amser yn y Mynachdy yn Erfurt ac wedyn yn Wittenberg gwnâi bopeth a oedd yn ddisgwyliedig, a llawer mwy! Âi i bob gwasanaeth yn y capel, gweddïai ddydd a nos, a threuliai oriau yn cyffesu pob math o bechodau wrth offeiriaid, gan gynnwys chwerthin a chanu’n wael! Âi yn fynych heb gwsg, bwyd a dŵr, ac yr oedd i’w weld yn aml yn cardota er mwyn ennill arian i’r mynachdy.
Ond er gwaethaf hyn oll nid oedd yn dawel ei feddwl. Yr oedd yn ymwybodol ei fod yn dal i fod o dan ddigofaint Duw, a gwaeddodd mewn anobaith, ‘O! fy mhechodau, fy mhechodau, fy mhechodau!’ Yr oedd yn poeni bod Duw wedi troi cefn arno, ac yn ei weld ei hun yn fab colledigaeth.
Cysur
Yn 1512 penodwyd Luther yn Athro Astudiaethau Beiblaidd yn y Brifysgol yn Wittenberg. Wedi darlithio ar lyfr Genesis yr oedd yn paratoi darlithoedd ar y Salmau pan ddarllenodd y geiriau hyn yn Salm 31:1, ‘achub fi yn dy gyfiawnder’. Hyd yma yr oedd Luther wedi meddwl am gyfiawnder Duw fel rhywbeth a oedd yn condemnio pechaduriaid fel ef, ond yn awr am y tro cyntaf yr oedd wedi darllen bod cyfiawnder Duw yn gallu achub pechaduriaid tebyg iddo ef.
Yn ystod y blynyddoedd nesaf bu wrthi, yn rhagluniaeth Duw, yn paratoi darlithoedd ar Hebreaid, Galatiaid a Rhufeiniad, llyfrau sy’n esbonio’n fanwl ystyr y geiriau a ddarllenodd yn Salm 31, ac o’r diwedd, rywbryd yn ystod 1518, gwelodd wirionedd yr efengyl yn glir yn Rhufeiniaid 1:17, ‘Y sawl sydd trwy ffydd yn gyfiawn a gaiff fyw.’
Sylweddolodd fod Duw y Tad yn rhoi cyfiawnder Crist i bob un sy’n ymddiried yn ei Fab, ac yr oedd hyn, wrth reswm, yn destun llawenydd ganddo. Meddai, ‘Ar unwaith teimlais fy mod wedi fy ng
eni o’r newydd ac wedi cerdded trwy ddrysau paradwys… Daeth y darn hwn gan Paul yn borth i’r nef i mi.’ Esboniodd ei ddarganfyddiad fel hyn:
Hwn yw’r hyder sydd gan Gristnogion a gwir lawenydd ein cydwybod, sef trwy ffydd nad yw ein pechodau bellach yn perthyn i ni ond fe’u rhoddir yn hytrach i Grist yr un y rhoddodd Duw arno bechodau pob un ohonom ni. Cymerodd ef ein pechodau ni arno ei hun. Daw holl gyfiawnder Crist yn eiddo i ni. Taena ef ei fantell drosom a’n gorchuddio.
Roedd Luther eisoes wedi protestio yn erbyn llygredd yn Eglwys Rufain, llygredd a welodd yn ystod taith i Rufain ar ran y mynachdy ac yn ymgyrch mynach arall o’r enw Tetzel i godi arian trwy werthu maddeuebau, ond yr oedd hwn yn ddatblygiad arbennig o arwyddocaol. Bellach gwelai fod dysgeidiaeth Eglwys Rufain yn anysgrythurol a bod iachawdwriaeth yn dod trwy ffydd yn unig yng Nghrist yn unig ac nid trwy gyfuniad o ffydd yng Nghrist, gweithredoedd a’r sagrafennau fel yr oedd yr Eglwys yn ei honni.
Safiad
Dysgai Luther hyn i’w fyfyrwyr ac mewn dadleuon â mynachod eraill, a chyn bo hir cafodd alwad i ymddangos o flaen yr Ymerawdwr mewn Diet yn Worms i esbonio ei syniadau. Pan gyrhaeddodd, daeth yn amlwg nad trafodaeth oedd hon i fod ond prawf, a gorchmynnwyd i Luther dynnu’i eiriau’n ôl. Ond gwrthododd gan ddweud,
Oni chaf fy narbwyllo trwy’r Ysgrythur a rheswm syml… mae fy nghydwybod yn gaeth i Air Duw. Ni allaf ac ni fynnaf dynnu unrhyw beth yn ôl, ac nid yw mynd yn groes i’r gydwybod yn iawn nac yn ddiogel. Boed Duw yn gymorth i mi. Amen.
Condemniwyd Luther yn heretic ac ar ei ffordd adref o’r Diet cipiwyd ef gan ei gyfeillion, a’i roi yng Nghastell Wartburg am gyfnod er mwyn ei ddiogelwch. Ond ni ddychrynwyd Luther ac ymlafniodd weddill ei fywyd i ledaenu’r efengyl yr oedd wedi ei gweld yn Rhufeiniaid 1:17: efengyl gras, efengyl Crist, efengyl cyfiawnhad trwy ffydd yng unig yng Nghrist yn unig.
Gwnâi hyn trwy bregethu, ysgrifennu llyfrau, cyfansoddi emynau, a chyfieithu’r Beibl i’r Almaeneg er mwyn i bobl gyffredin allu darllen neu wrando ar yr Ysgrythur mewn iaith ddealladwy a dod wyneb-yn-wyneb â’r gwirionedd. Daeth llawer yn yr Almaen ac mewn gwledydd eraill i’r bywyd trwy waith Martin Luther, ac mae ei ddylanwad wedi parhau hyd heddiw.
Gwersi
Mae hanes Luther yn ein hatgoffa ni o bedwar peth.
- Yn gyntaf, ac yn bennaf oll, mae profiad Luther yn ein hatgoffa ni mai ‘Trwy ras yr [ydym] wedi [ein] [h]achub, trwy ffydd. Nid [ein] gwaith [ni] yw hyn; rhodd Duw ydyw; nid yw’n dibynnu ar weithredoedd, ac felly ni all neb ymffrostio’ (Eff. 2:8-9).
- Yn ail, mae profiad Luther yn ein hatgoffa fod Duw yn defnyddio’i Air i ddwyn pechaduriaid at Iesu. Fel mae Paul yn dweud wrth Timotheus, mae’r ‘Ysgrythurau sanctaidd …yn abl i’th wneud yn ddoeth a’th ddwyn i iachawdwriaeth trwy ffydd yng Nghrist Iesu’ (2 Tim 3:15). Mae’n hollbwysig felly ein bod ni’n cyhoeddi’r Gair i’r colledig.
- Yn drydydd, mae profiad Luther yn ein hatgoffa ni y bydd Satan yn gwrthwynebu pregethu’r efengyl, a bod erledigaeth yn anochel i bob un sy’n cyhoeddi’r gwirionedd. Ond fel yn achos Luther, yn ein hachos ninnau hefyd, bydd Duw yn bendithio ffyddlondeb a’n ‘dwyn yn ddiogel i’w deyrnas nefol’ (2 Timotheus 4:18).
- Ac yn olaf, mae profiad Luther yn ein hatgoffa bod Duw yn gallu ein defnyddio yng ngwaith ei deyrnas er nad ydym yn berffaith. Gwnaeth Luther gamgymeriadau. Yr oedd yn cweryla â’i gyd-ddiwygwyr yn y Swistir, siaradai’n annoeth ac annheg am yr Iddewon, ac nid oedd ei ddealltwriaeth o arwyddocâd Swper yr Arglwydd yn hollol gywir, ond eto trwyddo ef cyflawnodd Duw bethau mawr. Gadewch i ni ymroi i Dduw a gweld beth fydd ef yn ei wneud gyda ni.
Y mae pob Cristion yn cydlawenhau â Luther yng ngwirionedd Salm 32:1, ‘Gwyn ei fyd y sawl y maddeuwyd ei drosedd, ac y cuddiwyd ei bechod. Gwyn ei fyd y sawl nad yw’r ARGLWYDD yn cyfrif ei fai yn ei erbyn, ac nad oes dichell yn ei ysbryd.’