Wrth gofio Luther eleni, nid ydym yn anghofio Cymru. Chwythodd awelon Wittenberg yma hefyd, ac os oes angen dyddiad, cofier taw 2017 yw 450 mlwyddiant cyfieithu’r Testament Newydd i’r Gymraeg. Nid oedd y cyfieithiad heb ei wendidau, ond roedd yn garreg filltir arwyddocaol, a defnyddiodd William Morgan dri chwarter Testament Newydd 1567 ar gyfer Beibl 1588, sef gorchest fawr y Diwygiad yng Nghymru. Heb y Beibl hwn, anodd dychmygu Diwygiad Methodistaidd y ddeunawfed ganrif, capeli Cymraeg eu hiaith, a chyhoeddiadau tebyg i’r cylchgrawn hwn. Digon yw dweud, felly, fod ar bob un ohonom ddyled anferthol i’r Diwygwyr Cymreig, ond pwy oeddent ac a oes rhywbeth ganddynt i’w ddysgu i ni yn 2017?
Rhagluniaeth syfrdanol Duw
Efallai ei bod hi’n naturiol i bobl sydd wedi cael bendith ysbrydol mewn rhai cylchoedd ystyried taw dim ond trwy’r cylchoedd hynny y gall Duw weithio. Fodd bynnag, gall y Duw a wnaeth Balaam y pagan yn gyhoeddwr bendith a Saul y prif erlidiwr yn apostol i Iesu Grist ein synnu, ac nid gwiw i ni wfftio’r un o’i roddion am nad yw’r papur lapio wrth ein bodd. Ychydig cyn ei ddienyddio yn 1593, ysgrifennodd John Penry o’i gell at yr Arglwydd Burghley:
I leave the success of these my labours unto such of my countrymen as the Lord is to raise up after me for the accomplishing of that work which in the calling of my country unto the knowledge of Christ’s blessed gospel I began.
Er dewred ffydd y merthyr o Gymro o dan amodau dirdynnol, siomedig o gul yw ei orwelion ysbrydol. A fu neb yn llafurio yng Nghymru o’i flaen? Beth am William Salesbury a William Morgan? Roedd yn anodd i ymneilltuwr a ddioddefai’r fath greulondeb gan yr awdurdodau Anglicanaidd dderbyn y gallai unrhyw ddaioni ddod trwy’r Eglwys Sefydledig. Gallwn werthfawrogi’n well bedair canrif yn ddiweddarach mor anolrheinadwy yw ffyrdd yr Arglwydd.
Rhyfeddod yn wir oedd hanes y Diwygiad yng Nghymru. Tir digon anaddawol i ledaeniad y Diwygiad yn yr unfed ganrif ar bymtheg oedd y lle diarffordd hwn heb unrhyw ganolfannau dysg lle gellid trafod y syniadau newydd o’r cyfandir. Nid oedd Lolardiaeth y gororau wedi lledu i’r Gymru Gymraeg yn y bedwaredd ganrif ar ddeg ac roedd cyraeddiadau ysbrydol a deallusol ei hoffeiriaid, at ei gilydd, yn drallodus o ddiffygiol.
O gofio hyn, nid yw’n syndod taw o’r tu allan y daeth y Diwygiad tua diwedd teyrnasiad Harri VIII ac wedyn o dan ei fab Edward VI (1547-53). Saeson oedd yr esgobion Diwygiedig cyntaf yn esgobaeth Tyddewi, sef William Barlow (1536-1548) a Robert Ferrar (1548-55), a gwasanaethau Saesneg Llyfr Gweddi Gyffredin 1549 mor annealladwy i’r werin â’r hen offeren Ladin. Pan droes y rhod yn erbyn Protestaniaeth yn ystod teyrnasiad y Frenhines Mari (1553-58), ni chafwyd ond tri merthyr yng Nghymru, ac nid oedd yr un o’r rhain yn dod o blith y boblogaeth Gymraeg. Dychwelodd y mwyafrif llethol yn ddirwgnach i’r hen ffydd.
Ond nid dyna ddiwedd y stori. Dilynwyd Mari gan ei hanner chwaer Elisabeth, a sefydlwyd y drefn Anglicanaidd yn derfynol. O dan y drefn hon, urddwyd nifer o esgobion newydd o blith yr alltudion Protestannaidd a oedd wedi ffoi i’r Cyfandir yn ystod erledigaeth Mari. Un o’r rhain oedd Richard Davies, a urddwyd yn esgob Llanelwy yn 1559, cyn symud i Dyddewi yn 1561 lle parhaodd tan ei farwolaeth yn 1581. Yn ystod ei gyfnod yn Llanelwy, daeth i gysylltiad ag ysgolhaig o Gymro, William Salesbury, a oedd yn daer ynglŷn â’r angen am gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg. Cymry i’r carn oedd y rhain, wedi eu magu yng nghyfoeth traddodiadau llenyddol Dyffryn Conwy, ac yn ymfalchïo yn hanes Cymru. I’r Diwygwyr hyn, rhaid defnyddio’r Gymraeg i sicrhau bod y Diwygiad Protestannaidd yn cael lle yng nghalonnau’r bobl. Yn Rhagair Richard Davies i Destament 1567 clywn adlais dyn a oedd wedi treulio cyfnod ym mwrlwm Diwygiadol y Cyfandir ac a ddyheai am weld yr un bendithion yn ei famwlad:
Yn gymaint â’m bod i yn gwybod yn hysbys lle ni welais â’m llygaid, fod pob gwlad o Rufain hyd yma megis Germania, a’r Almaen, Polonia, Lloegr a Phrydain, Ffrainc, Llydaw, Llychlyn, Iwerddon… yn awyddus ac â mawr groeso yn derbyn gair Duw drwy ail flodeuad efengyl ein Harglwydd Iesu Grist, y mae yn dra salw gennyf dy weled ti wlad Cymru… yn dyfod yn olaf yng nghyfryw ardderchog oruchafiaeth â hyn.
Dyfalbarhad
Er rhyfeddod y Diwygiad yng Nghymru, ni ddaeth i fod dros nos, nac heb ymdrech. Mor gynnar â 1547, galwodd William Salesbury ar ei gyd-Gymry:
Gostyngwch ar dal gliniau eich calon i erchi gras ar Dduw. Pererindotwch yn droednoeth at ras y Brenin a’i gyngor i ddeisyf cael cennad i gael yr Ysgrythur lân yn eich iaith.
Roedd rhaid aros ugain mlynedd cyn cyflawni’r dyhead hwnnw yn rhannol, ugain mlynedd eto cyn ei wireddu’n llawn. Roedd rhaid dal ati i ddal ati (Heb 12:1), ac yn sicr mae’r Diwygwyr Cymreig yn esiampl i ni yn hyn o beth.
Cyn dechrau ar y dasg, roedd angen goresgyn rhwystrau enfawr. Ers Deddfau Uno Harri VIII yn 1536, rhan o Loegr oedd Cymru i’r goron, a Saesneg oedd ei hiaith i fod. Pan gyhoeddodd William Salesbury yn 1551 gyfieithiad o rannau helaeth o’r Llyfr Gweddi Gyffredin, gan gynnwys llawer o’r Efengylau a’r Epistolau, menter breifat oedd honno heb iddi unrhyw statws swyddogol. Trwy hir ymdrech, a thrwy bwyso ar gysylltiadau’r esgob, llwyddwyd i basio deddf gwlad yn 1563 i orchymyn cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg.
Wedyn daeth her y cyfieithu. Yn ogystal â meistroli’r testun Groeg roedd, i bob pwrpas, angen creu iaith newydd a oedd yn fwy ystwyth na ffurfiau aruchel y beirdd, ac yn fwy safonol na lliaws tafodieithoedd y werin, er mwyn sicrhau mynegiant a fyddai’n ddealladwy ac yn dderbyniol i bawb (problem sy’n parhau hyd heddiw!). Ond wedyn rhaid argraffu’r gwaith, a hynny yn Llundain. Fel yr eglurodd Richard Davies:
O digwydda iti gyffwrdd ag ambell fai allai ddianc naill ai ar orgraff, ai camosodiad gair neu lythyren, neu yn amryfus gadael gair neu sillaf allan neu’r cyfryw; maddau hynny; hwn yw’r Testament cyntaf a fu erioed yn Gymraeg inni, a’r printwyr heb ddeall ungair erioed o’r iaith, ac am hynny yn anodd iddynt ddeall y copi yn iawn.
Beth yw mân drafferthion cyhoeddi’r Cylchgrawn mewn cymhariaeth?
Cydweithio
Trwy drugaredd, nid oedd yr un o’r Diwygwyr Cymreig yn llafurio ar ei ben ei hun. Rhaid bod Luther yn falch o gefnogaeth Melanchthon; felly hefyd y Diwygiad yng Nghymru. Pan soniwn am ‘Feibl William Morgan’, nac anghofier ‘Testament William Salesbury’ a oedd yn rhan ohono, ac wrth ddweud ‘Testament Salesbury’ cofier y rhannau a gyfieithodd Richard Davies (1 Timotheus, Hebreaid, Iago, 1 a 2 Pedr) a Thomas Huet (Datguddiad). Gwyn ein byd os gallwn gyfrannu at waith eraill ac elwa oddi wrthynt.
Hau mewn gobaith
Beth ddwedasai’r Eglwyswyr pybyr hyn pe gwyddent y byddai eu hymdrechion yn bwydo’r afon anghydffurfiol a fyddai’n gorchuddio Cymru ymhen tair canrif? Does wybod; ond, er eu diddordeb yn hanes Cymru, roedd eu llygaid ar y dyfodol, ac wrth gyflwyno’r Testament Newydd i’w gyd-Gymry, rhoes Richard Davies siars: ‘Am hynny dos rhagot a darllen’. Wrth ddarllen, daeth dyfodol newydd i Gymru ac efallai y daw eto.