Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

GWAITH EFFEITHLON Y DEYRNAS

27 Medi 2017 | gan Steffan Job

Rydym yn byw mewn amser diddorol iawn, lle mae’r pwyslais ar fod yn effeithlon yn gryf. O’r wasgfa am werth am arian gan wasanaethau cyhoeddus i’r nodyn ar waelod yr e-bost sy’n dweud ‘ystyriwch ydych chi angen argraffu’r e-bost yma? – Arbedwch egni ac arian!’ Mae geiriau megis arolwg, ail-strwythuro a deialog proffesiynol personol yn rhan o fywyd pob dydd bellach. Ac i raddau helaeth rydym yn cytuno y dylid gwneud pethau yn effeithlon.

Dwi ddim yn meddwl fod Duw yn rhannu’r un weledigaeth.

Wrth edrych ar waith Cristnogol ac ar lewyrch ein heglwysi fedrwch chi ddim peidio â sylwi nad yw Duw i’w weld yn gweithio’n effeithlon iawn. Peidiwch â’m cam-ddeall, ni all rhywun ond rhyfeddu wrth weld gymaint sy’n cael ei wneud yng Nghymru yn enw Duw, a rhaid hefyd cofio nad oes gennym ni bersbectif Duw sydd yn gymaint mwy doeth a phwerus na ni. Ond mae’n rhaid wynebu’r cwestiwn:

Pam mae Duw yn defnyddio pobl i wneud ei waith?

Mae’n gwestiwn personol iawn i mi fel gweithiwr Cristnogol… rwy’n ymwybodol o’m gwendid a’m pechod, dwi’n methu mor aml – pam mae Duw wedi penderfynu fy nefnyddio i? Ac er bod cymaint o bethau da yn digwydd yn y sefyllfa ehangach yn Nghymru, fedrwch chi ddim peidio â sylwi ar y salwch, ac yn waeth fyth y camgymeriadau a’r gwendidau. Allai Duw ddim ffeindio rhywun gwell ar gyfer y gwaith? Wedi’r cyfan onid yw pechod, trachwant am bŵer a gwendid yn rhan o wneuthuriad pob Cristion? Does gan Dduw ddim ffordd fwy effeithlon o weithio?
Tydi Duw ddim yn gwneud camgymeriadau.

Wrth edrych ar y Beibl, mae’n gysur mawr i weld mai pobl syrthiedig y mae Duw wedi eu defnyddio ar hyd yr oesoedd. Mae’n wir fod ambell i angel yn cael gwaith o dro i dro, ond yn amlach na pheidio gwelir gwaith Duw yn symud ymlaen drwy bobl wan, fethedig fel chi a mi. Mae dwy egwyddor wedi bod yn gysur mawr i mi dros y misoedd diwethaf wrth ystyried hyn:

Nid y gwaith sy’n bwysig i Dduw ond ei berthynas â’i bobl.

Yr wythnos ddiwethaf roeddwn yn peintio’r cwt yn yr ardd, ac er y gallwn fod wedi gwneud y gwaith yn llawer cyflymach fy hunan, roedd yn hyfryd treulio amser gyda Ben, fy mab pum mlwydd oed, yn peintio, yn siarad ac yn mwynhau. Dros brynhawn braf ces fwynhad a’r cyfle i ddyfnhau fy mherthynas â Ben wrth iddo fynd ati i beintio’r cwt, y llawr a’r rhan fwyaf o’i ddillad gyda phaent melyn!

Onid yw hynny yn ddarlun hyfryd o sut mae Duw yn gweithio gyda ni? Pan fo Cristion yn gwneud unrhyw beth yn enw Crist, nid y gwaith yw’r peth pwysicaf (gall Duw wneud y gwaith yn llawer gwell ei hun), ond y berthynas sy’n datblygu rhwng Tad nefol a’i blentyn. Drwy i ni rannu profiadau gyda Duw mae e’n ein dysgu, ein sancteiddio, ein llonni ac yn rhyfeddol yn cael mwynhad o ddod i’n hadnabod ni!

Nid yw’n ymhyfrydu yn nerth march, nac yn cael pleser yng nghyhyrau gŵr; ond pleser yr ARGLWYDD yw’r rhai sy’n ei ofni, y rhai sy’n gobeithio yn ei gariad. (Salm 147:10-11)

Dyma beth mae Crist yn ei olygu pan fo’n dweud ‘Yr wyf fi wedi dod er mwyn i ddynion gael bywyd, a’i gael yn ei holl gyflawnder.’ Beth yw’r bywyd hwn? Cael perthynas â’n Crëwr, ac wrth i ni weithio drosto mae’r berthynas hon yn dyfnhau ac yn datblygu. Fe welwch hyn yn glir pan fo cenhadwr yn siarad am ei waith. Anaml y bydd yn sôn am lwyddiant y gwaith. Beth sy’n llenwi ei galon? Duw, a’r ffordd mae E wedi ymdrin ag e a’i sefyllfa drwy’r gwaith.

Mae’r clod yn mynd i Dduw.

Dwi wedi colli cyfrif ar yr adegau lle’r wyf wedi dweud mewn sefyllfa lewyrchus yn y gwaith ‘nid fi wnaeth hyn ond Duw!’ Dyma yw tystiolaeth pob gweithiwr Cristnogol; mae Duw yn gweithio er ein gwaethaf ni ac mae ein gwendid ni yn dod â mwy o glod i Dduw. Felly, pan fydd llwyddiant yng ngwaith y deyrnas, fe fydd y clod yn mynd i’r un sy’n haeddu’r clod – i Dduw. Dyma rywbeth sy’n sobri ond sydd hefyd yn dod â chymaint o fwynhad i’r Cristion: Iesu sy’n cael y clod.

Ond y mae’r trysor hwn gennym mewn llestri pridd, i ddangos mai eiddo Duw yw’r gallu tra rhagorol, ac nid eiddom ni. (2 Corinthiaid 4:7)

Does unman y gwelwn ni’r ddwy egwyddor yma’n gliriach nag ym mywyd Pedr. Wedi iddo wneud llanast llwyr o’i dystiolaeth ac yn waeth fyth wadu Iesu, fe gafodd ei adfer. Dwi’n siŵr y gallai Iesu fod wedi defnyddio rhywun arall – ond na, mae’n mynd ar ôl Pedr. Drwy ddefnyddio Pedr mae’n adfer ei berthynas ag ef ac yn dangos mai drwy bŵer Duw y mae’r eglwys yn tyfu. Dyna pam mae Pedr yn medru gorffen ei lythyr olaf drwy ddweud:

Ond cynyddwch mewn gras, ac mewn gwybodaeth o’n Harglwydd a’n Gwaredwr, Iesu Grist [y berthynas]. Iddo ef y bo’r gogoniant yn awr ac am byth! Amen [Y clod]. (2 Pedr 3:18)

Gadewch i mi orffen drwy nodi rhai gwersi y mae hyn wedi eu dysgu i mi:

  • Wrth weithio dwi angen treulio mwy o amser yn gweddïo, gwrando a mwynhau fy mherthynas â Duw;
  • Dylwn ddibynnu mwy ar Dduw nag ar fy neall I;
  • Nid fy ngwaith, fy methiant na’m llwyddiant sy’n rhoi statws na gwerth i mi (er bod gennyf gyfrifoldeb i wneud fy ngorau!) – rwy’n blentyn i Dduw;
  • Dylwn weddïo mwy am arweinwyr yr eglwys – nid ‘super-humans’ ydyn nhw ond llestri pridd;
  • Ddylwn i ddim bod yn rhy frysiog i feirniadu eraill yn y gwaith – mae gan Dduw ei gynllun ac os yw e am ddyfnhau ei berthynas ag eraill a rhoi ail gyfle, hwyrach y dylwn i wneud yr un peth!
  • Mae gan bob Cristion waith a chyfrifoldeb yn y deyrnas;
  • Nid yw Duw fy angen yn y gwaith, ond mae eisiau i mi fod yn rhan o’r gwaith. Braint ac addoliad felly ddylai fy ymateb fod. Diolch iddo!