Mae llawer o bobl yn teithio i Giwba y dyddiau hyn. Mae Ciwba yn wlad o dan reolaeth comiwnyddiaeth. Cafodd yr eglwysi efengylaidd eu herlid o dan reolaeth Fidel Castro, a oedd yn arwain y wlad am flynyddoedd, ac yn dilyn ei farwolaeth fe’i olynwyd gan ei frawd Raúl. Mae’n ymddangos bydd yr erlid yn parhau, oherwydd dair blynedd yn ôl dwedodd Raúl ei fod am gael gwared â’r Eglwys Efengylaidd. Nawr, ddylai hyn ddim bod yn sioc i ni, gan fod ideoleg gomiwnyddol yn seiliedig ar y syniad nad yw Duw yn bod. Rydym yn gwybod fod yr un drwg, Satan, y tu ôl i’r ideoleg hon, ac os ydym yn realistig, rydym yn gwybod na fyddai’r diafol yn caniatáu i Eglwys yr Arglwydd Iesu Grist weithredu mewn rhyddid.
Yn ystod cyfnod Fidel bu adfywiad Cristnogol go iawn yng Nghiwba, ac arwyddair yr eglwysi ar gyfer eu gwlad yw ‘Cuba para Cristo’, sef Ciwba i Grist. O ganlyniad i’r adfywiad hwn mae prinder Beiblau. Dim ond y fersiwn Sbaeneg gywir, y Reina Valera, (tebyg i’r NIV yn y Sbaeneg) y mae’r Cristnogion efengylaidd yn fodlon ei derbyn.
Ein tasg ni cyn y Nadolig oedd mynd â Beiblau Reina Valera i Giwba. Does dim Cymdeithas y Beibl yng Nghiwba, ac ni chaniateir argraffu Beiblau. Mae llawer yn troi at Dduw, a hynny sy’n achosi prinder Gair Duw. Buom yn ymweld â nifer o eglwysi, a’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn orlawn o Gristnogion llawen. Doedd yr adeiladau yn ddim gwell na chabanau ‘lean-to’ yn aml.
Mae pobl Ciwba yn ofnadwy o dlawd. Mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw, os nad pawb, yn byw ar ddim ond $15 y mis. Cyfarfuom ni ag un ddynes ifanc 20 oed mewn marchnad ac fe ddaeth hi i’n gwesty ni. Roedd hi’n cynorthwyo artist i werthu ei pheintiadau, oherwydd roedd hi’n medru siarad Saesneg a’r artist yn methu â gwneud. Roedd hi’n ennill $15 y mis fel cardiolegydd, ond yn ennill mwy mewn tips wrth werthu lluniau ei ffrind na phan oedd yn defnyddio ei sgiliau fel meddyg.
Mae yna ddyheu am Air Duw yng Nghiwba, ac mae’r Ysbryd Glân yn symud mewn grym yn yr eglwysi. Does dim problem mynd i Giwba ar wyliau, heblaw am y ffaith nad yw’r rhan fwyaf o bobl yn gweld y Giwba go iawn y tu allan i’r ardaloedd gwyliau. Ond mae problem yn codi (nad yw’n broblem i Dduw) os ydych chi am fynd â Beiblau i Giwba.
Bedair blynedd yn ôl ces i a’m gwraig ein stopio ar y ffordd i mewn, a’n dal am dros awr cyn i bennaeth comiwnyddol yr heddlu weiddi arnom ni a chymryd y Beiblau i gyd oddi wrthym ni. Roedd hyn yn siom aruthrol gan fod pobl yn daer am Air Duw. Y tro hwn gwnaeth Duw ‘lygaid sy’n gweld yn ddall’ ac roedd modd i ni gludo 42 o Feiblau i mewn gyda chymorth dau ffrind Cristnogol agos roedd Duw wedi eu harwain i ddod gyda ni.
Roedd hi’n bleser mawr ymweld â deg gweinidog a rhoi Gair Duw iddyn nhw, yn enwedig gan fod pobl yn eu heglwysi heb eu copi eu hunain. Mewn un eglwys mewn ardal dlawd iawn o un ddinas, roedd hi’n fendith gweld Cristion yn neidio i fyny ac i lawr yn gyffrous gan fod ganddi Air Duw yn ei dwylo. Mae’n her i ni, oherwydd pa mor gyffrous ydyn ni i gael Gair Duw yn ein dwylo? Yn yr un eglwys, roedd cymaint o brinder o Air Duw fel bod y gweinidog yn gorfod gwneud llungopi o’r dudalen o’r Ysgrythur oedd yn cael ei phregethu bob dydd Sul ar gyfer y gynulleidfa.
Mewn tref arall, fe gwrddon ni â hen weinidog a’i wraig, oedd wedi adeiladu eglwys yn yr ardal. Roedd e’n athro. Pan ddaeth comiwnyddiaeth, y cwestiwn cyntaf a ofynnwyd iddo mewn cyfweliad oedd ‘Ydych chi’n Gristion?’ Atebodd ei fod, ac fe gollodd ei swydd fel athro yn syth. Collodd ei swydd oherwydd ei fod yn caru’r Arglwydd Iesu yn fwy nag unrhyw beth arall. Ond gwelai ef law Duw yn y cyfan, ac o ganlyniad, er yr holl galedi, dechreuodd eglwys sydd yn dal i ffynnu hyd heddiw. Mae wedi profi aflonyddwch a thlodi eithafol a bellach yn byw ar $5 y mis. Does dim un o’r pethau hyn wedi pylu ei gariad tuag at yr Arglwydd Iesu Grist. Dwedodd wrthym ni ei fod wedi anfon llythyr at Fidel Castro bob blwyddyn ers i reolaeth Gomiwnyddol gychwyn yng Nghiwba – peth peryglus iawn i’w wneud – yn dweud wrtho fod Duw yn ei garu a’i fod yn gweddïo y byddai Duw yn siarad ag ef.
Mae nifer o straeon am gyfarfod â phobl wylaidd eraill i’w rhannu o’r daith ddiweddar hon. Ond y peth y dylem lawenhau ynddo gyda phobl Ciwba yw nad yw gwaith ein Duw mawr a nerthol ni yn cael ei gyfyngu gan lywodraethau ac awdurdodau, gan eu bod oll yn y pen draw yn ymostwng i’w allu ef.
Dewch i ni weddïo dros Giwba gyda phobl Ciwba, ‘Cuba para Cristo’!