Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Ewch i’r holl fyd a phregethwch yr efengyl i’r greadigaeth i gyd

27 Medi 2017 | gan Wyn Evans

Pan fyddwn yn gadael y tŷ yn y bore, i ble yn union rydyn ni’n mynd?

I’r byd a’i bobl.

Ond i ba fath o fyd? Ai’r un byd a greodd Duw yn y dechrau, lle roedd dyn yn byw mewn cytgord perffaith â Duw, lle teyrnasai tangnefedd, ac roedd dyn heb bechod? Ai dyna’r fath o fyd sydd heddiw? Dim ond cipolwg cyflym ar bapur newyddion neu sianel newyddion sydd ei eisiau i ddangos nad yw’r byd fel ‘na o gwbl nawr. Heddiw rydyn ni’n wynebu byd gwahanol iawn.

Pan anufuddhaodd Adda i Dduw nôl yng Ngardd Eden, collodd dyn ei gymundeb â Duw’n syth. Daeth pechod i mewn. Gwrthryfelodd dyn yn erbyn ei Greawdwr, ac roedd rhaid iddo gael ei alltudio o bresenoldeb Duw, oherwydd nad oedd yn bosib i sancteiddrwydd a phechod gyd-fyw. Daeth tristwch i mewn. Daeth dioddefaint – meddyliol a chorfforol – i mewn. Daeth poen calon a chorff i mewn. Daeth marwolaeth, galar, anobaith a dagrau i mewn.

Rydyn ni’n byw nawr mewn byd toredig, lle mae dyn yn ymladd yn erbyn dyn yn feunyddiol, naill ai yn y teulu, yn y gweithle, yn y llywodraeth, neu rhwng cenhedloedd.

Mae pechod wedi achosi tristwch ar ben tristwch – cartrefi toredig gyda phlant toredig; erthyliad un baban bob tri munud; fandaliaeth; lladrata; cyffuriau; anfoesoldeb; terfysgaeth a llofruddiaeth. Yn ddiweddar, cafodd un ferch fach saith oed ei lladd gan ferch yn ei harddegau!
Dyna’r byd dolurus rydyn ni i gyd yn camu iddo bob dydd.

Ond, ai dyna ddiwedd y stori? Oes golau i ddyn yn y fath dywyllwch? Oes gobaith i’r rhai heb obaith? Oes rhywle lle gall dynion gael heddwch yn lle gofid? Ble gellir cael llawenydd yn lle tristwch a hyd yn oed iachâd i bobl sydd â chalon doredig?

O, diolch i Dduw fod y fath le’n bodoli.

Pan anfonodd yr Arglwydd Iesu Grist ei apostolion allan i’r byd, nid eu tasg bennaf oedd rhoi cartref i’r digartref, nac i roi dillad neu fwyd i’r tlodion, nac i wella’u hamgylchiadau daearol. Er mor fawr yw’r anghenion hyn, hyd yn oed heddiw yng Nghymru, nid dyma angen mwyaf dynion pechadurus (disgrifiad y Beibl o bawb), ond rhedeg i Galfaria am faddeuant. Rhaid i’n heneidiau anfarwol gael eu golchi a’u glanhau yng ngwaed yr Arglwydd Iesu Grist, oherwydd, fel mae’r Ysgrythur yn dweud wrthon ni:

“… mae gwaed Iesu……yn ein glanhau ni o bob pechod”. (1 Ioan 1: 7)

Yr angen mwyaf i bob un ohonom ni yw bod yn barod i wynebu tragwyddoldeb, nid am ein bod ni wedi gwneud ein gorau, neu heb wneud drwg i neb (hunan gyfiawnder!) ond am ein bod ni wedi ymddiried yng Nghrist am iachawdwriaeth ac wedi cael ein gwisgo â’i gyfiawnder ef. Dyma’r unig wisg sy’n dderbyniol i Dduw ac sy’n ei alluogi i’n croesawu ni i mewn i’w nefoedd ddibechod a pherffaith ef.

Oherwydd mawredd ein hangen, dywedodd Crist wrth ei ddisgyblion taw pregethu’r efengyl – y newyddion da – i bob creadur, oedd eu tasg nhw. Cyn i neb gael heddwch yn y byd yma, welwch chi, rhaid cael heddwch gyda Duw’n gyntaf. Tangnefedd oedd rhodd fawr Grist i grediniwr – hyd yn oed mewn byd cythryblus fel hwn:

Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd; yr wyf yn rhoi i chwi fy nhangnefedd i fy hun. Nid fel y mae’r byd yn rhoi yr wyf fi’n rhoi i chwi. Peidiwch â gadael i ddim gynhyrfu’ch calon, a pheidiwch ag ofni. (Ioan 14: 27)

Os gwir Cristnogion wedi’n haileni, yn sicr o’n hiachawdwriaeth, ac yn profi’r tangnefedd yma ydyn ni, dydy’n tasg ni ddim yn wahanol i dasg yr apostolion a’r disgyblion – dod â’r efengyl i’r colledig lle bynnag mae Duw wedi’n dodi ni. Pan fyddwn ni’n gadael ein cartrefi bob bore i wynebu’r byd toredig yma, mae’r Beibl yn dweud yn glir beth yw ein tasg ni:-

Eich lle chi ydy dangos i eraill mor wych ydy Duw, yr un alwodd chi allan o’r tywyllwch i mewn i’w olau bendigedig (1 Pedr 1:3) [ac i fod yn] … barod bob amser i roi ateb i bwy bynnag sy’n gofyn i chi esbonio beth ydy’r gobaith sydd gynnoch chi. (1 Pedr 3:15).

Ydy hi’n hawdd tystiolaethu fel hyn wastad? Nadi, dydy hi ddim. Ond mae llawer wedi darganfod bod dewrder i wneud hyn yn tyfu o ddechreuadau syml iawn. Roeddwn wrth fy modd o glywed am un dyn gydag awydd mawr yn ei galon i dystiolaethu am ei Waredwr. Fe fuodd e’n ystyried beth allai e wneud i rannu’r newyddion da am iachawdwriaeth yng Nghrist â phobl eraill. Allai e ddim siarad â phobl wyneb yn wyneb. Felly fe ddechreuodd trwy daflu tractau allan o ffenestri’r trên ar ei ffordd i’r gwaith bob bore, a gweddïai y byddai rhywun yn eu codi a’u darllen, ac yn cael ei achub! Ar ôl ychydig amser teimlodd e’n ddewrach, ac felly dechreuodd eu rhoi nhw trwy dyllau llythyrau’r tai. Wedyn daeth e’n ddewrach byth a dechreuodd eu rhoi nhw allan yn uniongyrchol i bobl ar y stryd, a chafodd e ei arwain o’r diwedd i guro ar y drysau a siarad wyneb yn wyneb. Beth oedd yn ei ysgogi i ymddwyn fel hyn? Y ffaith fod pawb yn y byd ar ei ffordd i dragwyddoldeb – naill ai ar y ffordd i’r nefoedd neu ar y ffordd i uffern, a does dim ail gynnig. Roedd tosturi Crist yn ei galon. O! na roddai Duw’r un tosturi i ni i gyd.

Ddechrau’r flwyddyn wrth ymweld â ffermydd yng ngorllewin Cymru, siaradodd fy ngwraig a minnau â dyn roedden ni wedi sgwrsio ag e sawl gwaith o’r blaen. ‘Blwyddyn newydd dda!’ medden ni, gan ddisgwyl ‘A’r un peth i chithau”, nôl. Ond na, Nid hynny gawson ni. Pam? Roedd y flwyddyn wedi dechrau mewn ffordd drist dros ben iddyn nhw. Fis yn gynt clywodd ei wraig taw dim ond tri mis oedd ganddi ar ôl i fyw. Nawr, beth allai esblygwyr gynnig iddi yn y sefyllfa hon? Dim byd. Beth allai gwyddonwyr a damcaniaethwyr y ‘Glec Fawr’ ei gynnig i berson a’i amser yn y byd hwn bron dod i ben a thragwyddoldeb ar ddechrau. Dim byd.

Dim ond efengyl ogoneddus ein Harglwydd a’n Hiachawdwr Iesu Grist a all roi unrhyw obaith a thangnefedd yn y fath sefyllfa, oherwydd dim ond yr efengyl sy’n gallu achub pechadur a rhoi gobaith sicr a phendant o fywyd tragwyddol a nefoedd.

Yfory byddwch chi a minnau yn mynd allan i’n cornel fach ni o winllan Duw yma yng Nghymru. Byddwn ni ‘oddi cartref’. Boed iddo fe roi inni ras i garu’r colledig fel y gwnaeth e, ac i fyw bob dydd iddo fe a’i ogoniant.