Mae Roger Thomas newydd ddychwelyd i Gaerfyrddin ar ôl chwarter canrif. Yn ystod y cyfnod hwn, bu newid mawr yn y dref, ac ym mywyd Roger. Er iddo gael ei fagu ar fferm Pentre Bach, Peniel, a mynychu’r ysgol Sul a’r capel ym Mheniel, daeth i brofiad o’r efengyl yn ystod ei gyfnod yn astudio Swoleg ym Mhrifysgol Abertawe. Bellach mae newydd ddechrau’n efengylydd gydag Eglwys Efengylaidd (Gymraeg) Caerfyrddin. Mae’r symud hwn yn rhoi cyfle i ni ei holi’n fwy am ei waith.
Sut dest ti’n efengylydd?
Daeth yr arweiniad yn raddol. Bues i’n gweithio gydag Eglwys Mihangel Sant a’r Santes Fair yn Aberystwyth rhwng 1993 a 1994. Yn ystod y flwyddyn honno, teimlais i fod Duw yn fy ngalw i bregethu’r efengyl. Wedyn es i Goleg Bedyddwyr Caerdydd rhwng 1994 a 1998, a threulio’r flwyddyn olaf yn Fyfyriwr Bregethwr yng Nghwmdâr lle bues i wedyn yn Weinidog rhwng 1998 a 2002. Erbyn 2002, roeddwn i’n teimlo’r awydd i fynd nôl i’r Gorllewin a gwneud gwaith efengylu, a dyma Dduw yn agor y drws i fi. Rhwng 2003 a 2004 roeddwn i’n Weithiwr Cristnogol gydag Eglwys Efengylaidd Aberystwyth. Yn ystod y cyfnod hwn, des i adnabod yr Uwch-gapten Ray Hobbins ym Myddin yr Iachawdwriaeth ac es i weithio iddyn nhw rhwng 2004 a 2005, gan wneud gwaith efengylu ehangach yn yr ardal a ledled Cymru rhwng 2005 a 2017 (gyda Byddin yr Iachawdwriaeth yn talu fy nghyflog ac Eglwys Efengylaidd Aberystwyth yn talu’r costau).
Beth ddysgest ti yn ystod y cyfnod hwn?
Llawer! Roedd hi’n braf cael gweithio gyda phobl brofiadol megis Ifan Mason Davies yn yr Eglwys Efengylaidd a Ray ym Myddin yr Iachawdwriaeth. Dysgais i hefyd fod gwaith Duw yn gallu cymryd amser, a bod eisiau llawer o amynedd. Un o’r pethau roeddwn i’n ei wneud oedd mynd i’r Mart yn Nhregaron nid er mwyn rhannu tractau (gan barchu taw lle busnes oedd hwn ac na ddylwn i wneud unrhyw beth a fyddai’n amharu ar y gwaith hwnnw) ond er mwyn dod i adnabod y ffermwyr. Felly hefyd y sioeau, des i feithrin perthynas â phobl dros gyfnod. Un peth calonogol yn Aberystwyth ar ôl pedair blynedd ar ddeg oedd gweld ambell un yn dechrau dod i’r cyrddau, a digon o’r rhain yn Gymry i ni allu dechrau oedfa Cymraeg ac astudiaeth Gymraeg.
Erbyn hyn rwyt ti’n efengylydd gydag Eglwys Efengylaidd Gymraeg Caerfyrddin. Sut cest ti dy arwain i’r gwaith hwn?
Ers peth amser, roeddwn i wedi bod yn awyddus i ddychwelyd i Sir Gâr, ond doeddwn i ddim yn siŵr a oedd hyn o Dduw. Pan soniodd fy ffrind, Robert Thomas, fod yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg yng Nghaerfyrddin yn chwilio am efengylydd, edryches i ar y disgrifiad swydd ac roedd yn cyfateb i’r union waith roeddwn i am ei wneud. Soniais i wrth Ifan am y posibilrwydd hwn, ac awgrymodd e y dylwn i gael sgwrs gyfrinachol â henuriaid yr eglwys yng Nghaerfyrddin. Digwyddodd hynny ym mis Tachwedd 2016 ac o’r adeg honno ymlaen, cynyddodd yr argyhoeddiad ar y ddwy ochr taw hwn oedd ewyllys Duw ar fy nghyfer i a’r eglwys. Ymunes i â’r eglwys ym mis Mawrth 2017.
Wnei di ddweud rhywbeth am dy waith newydd?
Fy ngwaith i, yn y bôn, yw mynd â’r efengyl i’r colledig gan ganolbwyntio ar y cymunedau Cymraeg. Ar ryw olwg, mae’n waith digon tebyg i’r hyn bues i’n ei wneud yn Aberystwyth. Rwy’n rhan o’r eglwys, ac yn mynd i’r cyrddau ac yn croesawu pobl ar y Sul. Rwy’n pregethu yn yr eglwys ac eglwysi eraill – ond yn llai na chynt er mwyn i fi gael fy mwydo’n ysbrydol a chroesawu’r rhai rydw i wedi bod yn eu gwahodd ar y Sul. Rwy hefyd yn mynychu cwrdd canol wythnos yr eglwys. Rwy’n gobeithio gwneud gwaith plant mewn ysgolion a gyda myfyrwyr y Drindod, a phobl hŷn. Rwy’n gwneud gwaith caplaniaeth yn y dre ac yn meithrin perthynas â phobl yn y Mart, yn mynd i lefydd lle mae siaradwyr Cymraeg yn cwrdd, ac yn gwneud gwaith ymweld.
Rwyt ti wedi cael dy alw’n ‘efengylydd’, sut byddet ti’n diffinio’r rôl honno?
Yn syml, rhannu’r efengyl, a gwneud hynny â phobl y gymuned rwy’n byw ynddi trwy fynd i’r gymuned, dod i adnabod pobl, datblygu perthynas.
Pa gymwysterau personol sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon?
Argyhoeddiad mai’r efengyl yw yr unig ffordd at Dduw. Ymwybyddiaeth o’r alwad i gyhoeddi’r efengyl, a’r alwad honno yn eich gyrru chi allan am eich bod chi’n gwybod y bydd rhaid i chi sefyll o flaen Duw ryw ddiwrnod i roi cyfrif . Wedyn, rwy’n credu bod angen diddordeb mewn pobl, parodrwydd i wrando a rhoi amser: a chariad – mae hynny’n bwysig iawn! Rhaid i ffydd gyd-fynd â gweithredoedd (Iago 2:17; 1 Cor. 13:1-3). Rhaid hefyd fedru siarad y ddwy iaith, Cymraeg a Saesneg, er mwyn cael bod yn bob peth i bawb (1 Cor. 9:19-22).
Wyt ti’n gweld sail Feiblaidd i’r rôl hon?
Ydw, efengylydd yw rhodd gan Dduw i’r Eglwys (Effesiaid 4:11-12) ac un o’r rhain oedd Phylip (Actau 8:5).
Beth fyddet ti’n ei ddweud wrth y rheini sy’n credu taw gwaith y gweinidog yw efengylu?
Mae dyletswydd arno fe i efengylu (2 Tim.4:5) ond nid ei waith ef yn unig yw hyn, ond gwaith yr efengylydd hefyd. Hefyd, mae’n ddyletswydd ar bawb i efengylu (1 Pedr 3:15-16). Trwy ein hymarweddiad rydyn ni’n dangos Crist (Mathew 5:13, Ioan 13:35, 1 Pedr 3:1-2). Ond ochr yn ochr â hynny, mae Duw wedi rhoi efengylwyr, ac athrawon.
Wyt ti’n credu y byddai’n dda i ragor o eglwysi ystyried galw efengylydd?
Mae dyletswydd arnon ni i weddïo am weithwyr i’r cynhaeaf (Math. 9:37,38), ond rhaid wedyn fod yn hyblyg o ran doniau’r gweithwyr hynny y mae Duw yn eu rhoi. Efallai nad ydyn ni wedi pwyso a mesur doniau dynion sydd wedi cael eu galw i’r weinidogaeth yn ddigonol yn y gorffennol ac wedi cyfarwyddo pawb i’r cyfrifoldeb o fod yn athro/bugail. Os yw Duw yn rhoi efengylydd, neu athro/bugail, mae’n bwysig bod yr eglwys yn eu defnyddio.
Oes heriau penodol yn gysylltiedig â bod yn efengylaidd?
I weinidog, mae gwaith yr wythnos wedi ei osod o’ch blaen chi, sef paratoi dwy bregeth, astudiaeth, ymweld. Mae’r efengylydd, ar y llaw arall, yn gorfod creu ei batrwm ei hun. Wedyn mae’n rhaid dal ati a pharhau i fynd at y bobl gan weithio ymhlith pobl sydd heb lawer o ddiddordeb ym mhethau Duw. Mae’n bosibl ofni tramgwyddo pobl. Mae’n anodd sicrhau cydbwysedd rhwng ceisio cyhoeddi’r efengyl heb fod yn rhy ymwthiol. Rwy wedi gorfod dysgu bod yn amyneddgar mewn sgwrs/perthynas â pherson, a disgwyl mewn gweddi i Dduw roi’r cyfle i rannu’r efengyl.
A beth am fod yn efengylydd mewn eglwys Gymraeg?
Nod eglwys Gymraeg yw cyrraedd y Cymry Cymraeg, ac mae llawer o’r rhain yn dre. Os nad yw pobl yn deall Cymraeg, mae modd cyfieithu yn y cyrddau neu eu cyfarwyddo at ein chwaer eglwys ar y Parêd. Mae’n bwysig ein bod ni’n parchu diwylliant ac iaith person, gan gofio mai Duw a greodd ein hieithoedd a’n diwylliannau gwahanol (Genesis 11 ac Actau 17:26).
Sut y gallwn ni weddïo drosot ti?
I fi gael doethineb ac arweiniad, a nerth yr Ysbryd Glân (Actau 1:8), ac i Dduw fendithio’r gwaith a’m gwarchod i a’r eglwys.