Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Dwg fi fynydd yr Olewydd

27 Medi 2017 | gan Dafydd Job

Dwg fi i Fynydd yr Olewydd
Lle mae ‘Ngheidwad yn yr ardd;
Chwŷs fel dafnau gwaed yn disgyn
Hyd ei ruddiau hardd.

Beth yw’r ymdrech sy’n ei enaid?
Pam bod hwn sy’n Frenin Nef
 gofidiau dwys hyd angau
Yn ei galon Ef?

Cwpan sydd o’i flaen i’w yfed –
Cwpan chwerw angau loes;
Tâl pechodau myrdd o ddynion
Ar unigrwydd croes.

A wnaiff Iesu wrthod yfed?
A yw’r baich rhy fawr i’w ddwyn?
Gwêl E’n estyn am y cwpan –
Yfa er dy fwyn.

Dysg im, Iesu, faint dy ymdrech,
Dysg im werth y dafnau gwaed;
Yn dragywydd gwnaf dy ddilyn,
Llechaf wrth dy draed.