Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Diwygiad mewn Deffroad

27 Medi 2017 | gan Eifion Evans

Am ganrif bellach, ar wahân i ambell gynnwrf lleol am gyfnodau cymharol fyr, ni fu bywiogrwydd crefyddol yn amlwg yng Nghymru. Mae’n wir i ddiwygiad cyffredinol a bywhâd personol fod yn faich i sawl credadun, ac ni fynnwn ddirmygu ‘dydd y pethau bychain’ (Sech. 4:10). Er hynny, trai fu ar grefydd, trai difrifol yn effeithio ar Eglwys a chenedl. Un o agweddau tristaf Cristnogaeth y can mlynedd diwethaf yw’r diffyg llwyddiant. Awgryma’r teitl fod ffeithiau hanesyddol a phrofiad personol y Beibl yn cynnig goleuni gobeithiol i ni. Nid peth dibwys felly yw manylu ar ystyr y gosodiad.

Diwygiadau hanes

Dechreuwn drwy daro golwg ar gyfnodau crefyddol disglair yn hanes Eglwys Iesu Grist. Bum can mlynedd i eleni daeth Martin Luther i fri yn yr Almaen, a bu hyn yn gychwyniad gwir chwyldroadol, sef ymddangosiad Y Diwygiad Protestannaidd. O fewn ychydig lledodd i Gymru fach. Cafodd Esgob Tyddewi, Robert Ferrar, ei ferthyru oherwydd ei safiad o blaid awdurdod y Beibl a digonolrwydd aberth y groes. Ychydig yn ddiweddarach bu’r esgobion William Morgan a Richard Davies wrthi yn ddygn i sicrhau Gair Duw yn y Gymraeg. Eleni hefyd cofiwn drichanmlwyddiant geni William Williams, Pantycelyn a’i gyfraniad yn ystod Y Deffroad Mawr’. Dyna ddau gyfnod o weithgarwch crefyddol gwefreiddiol a newidiodd hanes cenhedloedd yn ogystal ag unigolion. Sylwch ar y geiriau: diwygiad a deffroad, ac yr wyf am gynnwys un gair arall, sef adfywiad, am fod y rhain yn tynnu sylw at grefydd iachus ar ei mwyaf dyrchafol.

Dechreuwn gyda diwygiad, a daw diwygiad 1904 i feddwl rhai ar unwaith. Yr oedd yn gyfnod cyffrous a dadleuol o weithgarwch dwyfol drwy Evan Roberts. ‘Cyffrous’, oherwydd y profiadau grymus a gafwyd; ‘dadleuol’, oherwydd y pwyslais ar gyffes bersonol a chanu cynulleidfaol yn hytrach nag ar bregethu. Gwnaeth miloedd gyffes o dröedigaeth a bu nifer sylweddol ohonynt yn asgwrn cefn eglwysi’r wlad wedi hynny. Pobl yn mynychu moddion gras oedd y rhan fwyaf ohonynt gynt, ond heb berthynas bersonol, ysbrydol â’r Arglwydd Iesu Grist. Weithiau, dywedwyd amdanynt iddynt gael ‘diwygiad’, rhyw ymdrech i egluro’r newid ddaeth drostynt. Efallai y daw i’r cof hefyd ‘ddiwygiadau’ cyffredinol, megis un 1859, ac fe geir sôn am ‘Y Diwygiad Mawr’ yn amser Williams Pantycleyn. A ydym, felly, yn golygu bod y gair a ddefnyddir yn cyfleu yr un ystyr â’r hyn a fwriedir wrth sôn am ‘Y Diwygiad Protestannaidd’? Pa gyfarwyddyd sydd yn y Beibl?

Diwygiadau’r Beibl

Yn yr Hen Destament gallwn gyfeirio at ddiwygiad yn amser Heseceia a Joseia (2 Cronicl 29 a 34); at weddïau am ddiwygiad yn y Salmau ac yn Eseia; yn y Testament Newydd cawn enghreifftiau yn Samaria, Thessalonica ac Effesus (Actau 8, 17, a 19). Ar unwaith gallwn nodi tebygrwydd rhwng diwygiad Joseia a’r Diwygiad Protestannaidd: ail-ddarganfod Gair Duw ar ôl cyfnod maith pan oedd wedi ei gladdu o dan draddodiadau dynol, ofergoeledd a gwyriadau. Gellir dweud rhywbeth tebyg am enghreifftiau’r Testament Newydd, o dan dywyllwch anwybodaeth ac eilunaddoliaeth. Cyn diwygiad – a’i gyfieithu i’r Saesneg, reformation – mae diffyg gwerthfawrogiad o awdurdod datguddiad Duw yn ei Air. Yn dilyn hynny mae elfennau o ddieithrwch i orchmynion Duw a’r dimensiwn ysbrydol sydd iddynt.

Diwygiad, deffroad ac adfywiad

Gellir cyfieithu deffroad ac adfywiad i’r Saesneg yn revival. Mae’r naill yn awgrymu dyfod allan o gyflwr cysglyd, diymadferth, i fodolaeth egnïol, a’r llall yn cyfleu adfer bywiogrwydd ar ôl marweidd-dra. Dyma’r geiriau sydd fwyaf addas wrth gyfeirio at lwyddiant pwerus yr efengyl yn y ddeunawfed ganrif, a’r symudiadau tebyg yng Nghymru ers hynny. Yr oedd yr hyn a ddigwyddodd megis gwanwyn ar ôl gaeaf; llanw ar ôl trai; agosrwydd ar ôl pellter, ac ar adegau megis daeargryn ar ôl llonyddwch! O’u blaen yr oedd sefydliadau uniongred yn yr eglwysi, ond yn absennol roedd y bywiogrwydd, y gwres, ac yn bennaf yr ymwybyddiaeth a’r mwynhad o bresenoldeb Duw. O ganlyniad i’r bywyd ffrwydrol newydd yn yr Eglwys cafwyd dychweledigion o’r byd a dylanwad moesol ar gymdeithas.

Cyfaddefwn ar unwaith fod yn y tri gair a restrwyd uchod elfennau cyffredinol, a dyma nhw: gweithgarwch yr Ysbryd Glân; natur unigryw, digonol aberth y groes; perthynas uniongyrchol, bersonol, barhaol â Mab Duw yn Geidwad a Brenin. O ran yr elfen gyntaf, ni cheir diwygiad na deffroad ar wahân i dywalltiad o’r Ysbryd Glân trwy ymyrraeth anarferol, sofran Duw. Dibynna’r elfennau eraill ar weinidogaeth yr un Ysbryd. Cofier nad yw tröedigaeth mewn diwygiad yn wahanol i dröedigaeth ar unrhyw adeg arall. Yr un efengyl sydd ar waith; yr un yw’r edifeirwch a’r ffydd a gynhyrchir ym mhrofiad y pechadur. Drachefn, pwysig deall am bob symudiad, diwygiad neu ddeffroad, bod profiadau cymysg i’w didoli, y gwir oddi wrth y gau, y parhaol oddi wrth y dros dro, y ffrwythlon oddi wrth y diffrwyth.

Diwygiad graddol neu sydyn

Mae gan rai amheuon ynghylch dilysrwydd, neu hyd yn oed sail Feiblaidd, yr hyn a gyfrifwn yn ddeffroad neu adfywiad. Mynnant mai pregethu cyson, ffyddlon yw’r unig gyfrwng dilys i ledaenu teyrnas Dduw. Gwelant y ‘diwygiadau’ hyn megis ymddangosiadau diweddar, dynol eu cynllun, eu cymhelliad a’u ffrwyth. Ond nid ‘diweddar’ oedd y cyffro efengylaidd, er enghraifft, yn amser John Wycliffe yn yr Oesoedd Canol. Ac os ehangu teyrnas Crist yw pwrpas mawr Duw trwy’r efengyl, pam na all y trysor hwn ymddangos yn sydyn yn ogystal ag yn raddol? Trwy gyfrwng milwrol, gallai Duw ‘waredu trwy lawer neu drwy ychydig’ (1 Sam. 14: 6). Oni all trwy gyfrwng pregethu, ychwanegu miloedd o ddychweledigion yn annisgwyl yn nydd gras Mab Dafydd (Actau 2: 41; 4:4)?

Rhaid cofio hefyd fod pob gwir ddeffroad yn ddiwygiad. Yr un ffrwyth a ddaw o’r naill a’r llall. Cydnabydda’r Cristion mai dyma hiraeth mawr ei galon: rhagor o Dduw; o wres ei gariad; o gwmni ei Fab; o debygrwydd i Grist; o helaethu ei Deyrnas. Onid oes dyhead am eglwys ddiwygiedig sy’n diwygio yn barhaus? Ceir portread o ‘r fath ymweliadau yn Eseia 35 (yr anialwch yn blodeuo); Eseciel 36 (tir anrheithiedig fel gardd Eden); ac Eseciel 37 (esgyrn sychion yn fyddin gref iawn). Dyma thema aml y Salmydd, gweler 79, 80, 85, 102, ac Eseia, penodau 60 ymlaen. Dyma faich dwfn gweddi Paul dros yr Effesiaid ym mhennod 3 o’i lythyr atynt. Galw mae ar Dduw i anadlu bywyd i’r enaid nes bod crefydd Cristnogion yn un fyw, effeithiol a buddugoliaethus. Gwelir yn Salm 102: 15 sut mae diwygiad yn dilyn pan fo Duw yn ymyrryd mewn trugaredd i ddeffro ei bobl: ‘Bydd y cenhedloedd yn ofni enw’r Arglwydd, a holl frenhinoedd y ddaear dy ogoniant.’

Beth yw ein hymateb i hyn i gyd? Ni newidiodd Duw ei gymeriad, ei fwriad, ei allu, na’i wirionedd. Ni ddaeth dydd gras i ben; mae Crist yn fyw; mae’r efengyl yn allu Duw er iachawdwriaeth i bob un sy’n credu. Tra pery Ysbryd Duw i gymhwyso gwaith a rhinwedd Mab Duw i bechaduriaid fe ddeil y posibilrwydd am gyfnod o ddyrchafu Crist mewn modd anarferol ac achubol. Dyma grynhoi’r mater i weddi fer gan Williams, Pantycelyn, a fu yn gyfrwng bendith yn ‘niwygiad’ Bontuchel yn 1821:

Duw! os wyt am ddibennu’r byd,
Cyflawna’n gyntaf d’air i gyd –
Dy etholedig galw ’nghyd,
O gwmpas daear fawr;
Aed sain d’efengyl trwy bob gwlad,
A golch fyrddiynau yn dy waed,
A dyro iddynt wir iachâd –
Ac yna tyrd i lawr!

Rhown ein hyder ar Un ‘sydd a’r gallu ganddo i wneud yn anrhaethol well na dim y gallwn ni ei ddeisyfu na’i ddychmygu’. (Eff. 3:20)