Beth yw bod yn Gristion a bod yn Gymro?
Gall pob un ohonom geisio ateb y cwestiwn hwn – ond mae rhai’n ymateb yn wahanol oherwydd eu hamgylchiadau. Ers rhai blynyddoedd bellach mae Kevin Adams, a fu’n weinidog yn Eglwys Efengylaidd Rhydaman, yn gweinidogaethu yn America. Dyma rai o’i fyfyrdodau.
Fu arna i erioed awydd gadael cartref y teulu yn Llanelli. Byddai symud i Gaerfyrddin neu Abertawe hyd yn oed wedi bod yn rhy bell i’r pregethwr 47 oed oedd yn dal i fyw gartre ac yn cael ei sbwylio gan ei fam. Ond symud fu fy hanes, a 13 blynedd yn ddiweddarach rydw i wedi hen ymgartrefu ar arfordir gogleddol Boston, MA, gyda’m gwraig hyfryd ac amyneddgar, Gwen, a’m ci llai amyneddgar, Erasmus. Pregethwr ydw i o hyd, er bod fy nghynulleidfa bellach yn cynnwys rhyw 20 cenedl wahanol, o’u cymharu â dwy yn fy eglwys yn Rhydaman. Gellid ystyried symud cyfandiroedd yn 47 oed yn dipyn o argyfwng canol oed, ond nid dyna fy mhrofiad o gwbl ym mis Mai 2004.
Roedd ambell her i’w goresgyn, yn enwedig gadael Mam, teulu, a ffrindiau bore oes, yn ogystal â gadael yr eglwys a garwn. Byddai’r antur yn ddechrau newydd, ond nid heb ddagrau chwaith. Daeth colli cyfeillgarwch law yn llaw â cholli cydbrofi diwylliant Cymreig – yn hanesyddol, diwinyddol a llenyddol. Mae diwylliant a rennir yn ddiwylliant a brofir ar lefel lawer dyfnach. A gan mai ychydig o siaradwyr Cymraeg sydd yn yr ardal y tu hwnt i’m teulu agos, mae’n hawdd i’r wedd honno ar fy modolaeth gael ei hesgeuluso – dim ond i gael ei deffro gan ymwelwyr o gartre ar bererindod Americanaidd, a’m hymweliadau blynyddol â Chymru.
Rydw i bellach yn byw mewn gwlad lle nad yw’r rhan fwyaf o Americanwyr cyffredin yn ymwybodol o Gymru. Mewn gêm ddyfalu sy’n cael ei chwarae fwy neu lai’n wythnosol wrth i mi gwrdd â phobl newydd, bydd y sgwrs yn dilyn y trywydd anochel hwnnw: ‘Albanwr?’ Fi: ‘Nage!’; ‘Gwyddel?’ Fi: ‘Agos!’ ‘Dwyt ti ddim yn Sais?’ Fi: ‘Agosach’; ‘Sweden?’ Ac ar y pwynt hwn bydda i’n rhoi’r gorau i chwarae’r gêm ac yn rhoi’r ateb ar blât. A’r ymateb gan amlaf yw ‘O?’
Iddyn nhw, dyw’r wlad y bues i’n byw ynddi am 47 mlynedd, a’i holl hunaniaeth ddiwylliannol, gyfoethog, erioed wedi bodoli! Yn fy ‘Brave New World’ doedd William Morgan erioed wedi cyfieithu’r Beibl, nid ysgrifennodd Daniel Owen yr un nofel, ni thraddododd John Elias unrhyw bregeth, ni chyfansoddodd R. Williams Parry ‘Y Llwynog’, ac mae’r Eisteddfod yn un gair arall amhosibl ei ynganu. Ond nid eu bai nhw yw hyn. O bryd i’w gilydd bydda i’n gweld eisiau’r sgyrsiau diwylliannol ac ysbrydol sy’n dueddol o fywhau fy enaid cysglyd Cymreig o’i gwsg yn fy alltudiaeth o ddewis ar lannau gogleddol Boston. Mae pris i’w dalu hyd yn oed am y newidiadau mwyaf cadarnhaol mewn bywyd.
Rhan fechan o’r hanes yw hynny, fodd bynnag. Rydw i wrth fy modd yn byw yn UDA – neu a bod yn fanwl gywir – Boston. Er nad oes iddo hanes cynnar a chanoloesol fel Cymru, a’i chestyll a’i hen eglwysi, mae ganddo hunaniaeth ysbrydol hynod a chyfoethog sy’n deillio’n ôl i’r Piwritaniaid, cyn symud ymlaen i’r Deffroadau Mawr a’r Diwygiadau yn y 18fed, 19eg a’r 20fed ganrif, ac mae cael fy nhrochi yn yr hanes hwnnw wedi creu arwyr newydd sydd wedi ehangu fy myd crefyddol ac ysbrydol dros y 13 blynedd diwethaf.
Cofiwch chi, mae’r UD wedi ymdrechu i ehangu fy ngwasg hefyd. Cefais fy nghyflwyno i fyd gastronomeg gwlad yr addewid o fewn awr i groesi’r Iorddonen – neu’r ‘Pond’, ys dywed yr Americanwyr – gydag ymweliad ag Applebee’s, sy’n gadwyn boblogaidd o fwytai. Yn wyneb plateidiau enfawr o fwyd, gweini ‘extra mile’, a’r sioc o roi cildwrn o 20%, teimlais ryw fath o bendro ddiwylliannol sy’n dal i droelli bob hyn a hyn.
Ydyn, mae pethau’n wahanol. Mae gwleidyddiaeth yn wahanol, ac mae crefydd yn wahanol i’r hyn dwi wedi arfer â hi. Pan welais y ‘Stars and Stripes’ wrth ochr y pulpud lle siaredais i am y tro cyntaf ar dir America, cefais dipyn o sioc wrth sylweddoli mor agos yw’r berthynas rhwng Cristnogaeth a chenedlaetholdeb Americanaidd. Efallai ’mod i’n anghywir, ond welais i erioed y Ddraig Goch yn cyhwfan yn nhemlau Anghydffurfiol Cymru. Serch hynny, mae yna gryfderau arbennig yn yr Eglwys Americanaidd, gan gynnwys, er enghraifft, dysgu cadarn. Mae’r rhan fwyaf o’r eglwysi efengylaidd yn cynnal nifer o astudiaethau Beiblaidd i oedolion cyn prif oedfa’r Sul. Y Sul diwethaf, wnaethon ni hyd yn oed ddarlledu dosbarth addysgol i oedolion drwy ffrwd fyw ar y we. Cefais fy syfrdanu o weld ein bod wedi cael 150 o wylwyr o fewn awr. Dyna i chi glamp o Astudiaeth Feiblaidd! Mae nifer o Gristnogion America yn cyfrannu’n gyson dda at yr eglwys ac elusennau, ac mae gan lawer weledigaeth fyw am y dyfodol, gyda phwyslais ar gyrraedd pobl lle maen nhw. Cyffredinoli yw hyn, wrth gwrs, ond mae hyd yn oed cyffredinoli yn cynnwys elfen gref o wirionedd.
Yn ôl y mwyafrif o’m cyfeillion, dyw fy acen ddim wedi newid, ac mae hynny’n parhau yn ddefnyddiol wrth ddechrau sgwrs â dieithriaid. Ychydig wythnosau’n ôl, arweiniodd cwestiwn ynghylch fy acen at sgwrs awr o hyd â chyn-beilot preifat yr Arlywydd Trump. Dim ond y noson cynt ro’n i wedi anfon erthygl ar Trump i’r Goleuad, yn rhy hwyr i gynnwys y digwyddiad hwn a’r wybodaeth ddadlennol a gefais am arweinydd dadleuol newydd y byd rhydd – ond felly mae bywyd!
Bydd pobl yn aml yn gofyn i mi a fydda i’n dychwelyd i Gymru ryw ddiwrnod. Yr un ateb fydda i’n ei roi bob tro. Does gen i ddim syniad. Mae bywyd yn antur, ac mae anturiaethau’n dueddol o beri syndod. Bydd raid i mi fodloni ar ymddiried a gweld beth ddaw.