Diolch am yr addewidion,
Addewidion sydd mor fawr,
Addewidion mawr a gwerthfawr,
Rho eu cymorth inni’n awr
Gwna hwy’n filwyr
Ar y blaen ar faes y gad.
Parod ydym ni i grwydro,
Gweld y borfa fras gerllaw,
Diolch am yr addewidion,
Sy’n ein gwylio ar bob llaw,
Fel bugeiliaid
Yn gofalu am eu praidd.
Ofnau lawer sy’n ein llethu,
Methu’n lân â gweld yn glir,
Deuwch eto addewidion,
Y mae ffydd yn colli tir,
I’r dyfodol
Gwna hwy’n llygaid ar y daith.