Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Oratorio Duw

23 Mehefin 2017 | gan Steffan Job | Sechareia

Wn i ddim sut y byddwch chi’n treulio eich Sadyrnau o hyn hyd at y Pasg. Mae’r gwanwyn yn gyfnod braf i fynd am dro, gwylio Cymru’n ceisio ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad neu lanhau’r tŷ! Mae’n debyg hefyd y bydd nifer ohonom yn eistedd mewn neuadd ysgol yn gwrando ar blant yn canu, adrodd neu ddawnsio. Ydyn, rydym yng nghanol bwrlwm tymor yr eisteddfodau!

Er nad yw gwrando ar ugeiniau o blant yn canu at ddant pawb, mae rhywbeth iach o weld nifer o bobl ifainc yn mwynhau diwylliant ein cenedl. Mae’n galondid gweld fod Cymru’n parhau i fod yn wlad y gân.

Wrth gwrs, nid mewn eisteddfod yn unig y mae pobl yn canu. Gellir clywed pobl yn canu ym mhob rhan o’n gwlad a’n bywyd. Mae canu a cherddoriaeth yn greiddiol i ni fel pobl – mae rhywsut yn rhoi llais i’r hyn a deimlwn. Fel y dywedodd Hans Christian Anderson ‘Pan balla geiriau, llefara cerddoriaeth’.

Rydym wedi dathlu bywyd a gwaith William Williams yn y rhifyn hwn. Dyn, efallai, a wnaeth mwy nag unrhyw Gymro arall i’n cynorthwyo fel cenedl i ganu mawl i Dduw. Deallodd Pantycelyn y dylem ganu yma ar y ddaear am fod y nefoedd yn llawn canu, ac oherwydd, ryw ddydd, y byddwn yn cael ymuno â’r addoliad tragwyddol yn y nef. Dychmygwch y llawenydd wrth i ni fod gartref gyda gwrthrych mawr ein cariad – yr hwn a’n creodd, a’n hachubodd ac a’n cadwodd!

I mi, un o’r gwirioneddau mwyaf rhyfeddol yw nad creaduriaid yn unig sy’n canu yn y nefoedd. Cofiwn eiriau Seffaneia 3:17:

‘ … y mae’r ARGLWYDD dy Dduw yn dy ganol, yn rhyfelwr i’th waredu; fe orfoledda’n llawen ynot, a’th adnewyddu yn ei gariad; llawenycha ynot â chân fel ar ddydd gŵyl.’

Pam mae Duw yn canu? Beth all fod wedi ysgogi’r Duw sanctaidd a phur i godi llais a chanu? Onid lle Duw yw derbyn y moliant –eistedd yn ôl a derbyn y ganmoliaeth a’r gân gan y rhai y mae wedi eu creu?

Llawenydd Duw

Mae’r ateb i’r cwestiynau yn yr adnodau – ac mae’n ddigon i lorio unrhyw berson: mae Duw yn canu am ei fod yn llawen. Pam? Gellir yn hawdd ddeall Duw yn canu wrth feddwl am y Greadigaeth bur a pherffaith; ond nid dyna sy’n ennyn y gân hon. Mae Duw yn canu am ei fod yn llawenhau wrth feddwl am ei bobl – chi a fi!

Rhyfeddod yr efengyl yw bod Duw yn edrych arnom ni – a fu (ac sy’n dal i fod) mor wrthryfelgar a drygionus –ac mae’n canu cân o lawenydd. O’r fath fraint a llawenydd! Nid yw geiriau yn ddigon i ddisgrifio sut y mae Duw yn ei deimlo wrth edrych ar ei blant. Rhaid Iddo dorri allan mewn cân sanctaidd o lawenydd pur.

Cysur Personol

A yw’r diafol weithiau’n dy berswadio i feddwl fod Duw yn dy oddef a dim byd mwy?. . . ‘Rwyt ti’n ei fethu mor aml; mae’n rhaid bod tinc o siom yn ei galon wrth feddwl amdanat?’ Ddim o gwbl! Cofia fod aberth Crist yn dy lanhau’n llwyr ac felly rwyt yn dod â llawenydd i Dduw. Sylwa ar yr adnod ‘llawenycha ynot’: Mae hon yn neges bersonol a real i bawb sydd wedi derbyn gras i gredu yn Iesu.

Am neges!

Dyma a symbylodd Paul i ysgrifennu at yr Effesiaid:

‘Boed i chwi, sydd â chariad yn wreiddyn a sylfaen eich bywyd, gael eich galluogi i amgyffred ynghyd â’r holl saint beth yw lled a hyd ac uchder a dyfnder cariad Crist, a gwybod am y cariad hwnnw, er ei fod uwchlaw gwybodaeth.’ (Eff. 3:17-19)

Gwyddom mai Duw cariad yw, a’i fod yn ein caru gymaint, ond gadewch i ni hefyd ddeall fod y cariad yma yn ennyn cân yng nghalon Duw wrth iddo edrych ar bob un o’i blant. Gadewch i ni felly ymuno yn yr oratorio ryfeddol yma o gân wrth i ni ryfeddu, addoli ac edrych ymlaen ar y dydd y cawn fod gydag e am byth.

Teilwng yw’r Oen!

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF
Tagiau
canu gras