Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Llyfryddiaeth Edmund T Owen

5 Mehefin 2017 | gan Wyn James

Edmund T. Owen (1935–2017): Llyfryddiaeth

Y Cylchgrawn Efengylaidd

Ni chynhwysir yma restr o gyfraniadau niferus Edmund Owen i’r Cylchgrawn Efengylaidd o 1960 ymlaen. Rhestrir ei gyfraniadau rhwng 1960 a 1999, o dan ei enw ei hun ac o dan y ffugenw ‘Eilyr’, yn William H. Howells, Mynegai Y Cylchgrawn Efengylaidd 1948–1999 (Pen-y-bont ar Ogwr: Cymdeithas Llyfrgelloedd Cymru a Gwasg Bryntirion, 2001). Cyfrannodd hefyd yn achlysurol i’r chwaer-gylchgrawn, The Evangelical Magazine of Wales – yn 1978, 1982, 1983, 1985, 1986, 1988, 1991 a 1992. Ymddangosodd ei gyfres o ysgrifau, ‘Arhoswch Funud’, yn Y Cylchgrawn Efengylaidd yn rheolaidd o rifyn Awst/Medi 1980 ymlaen. Cyhoeddwyd detholiad ohonynt yn Blodau Hardd Williams ac Ysgrifau Eraill (Pen-y-bont ar Ogwr: Gwasg Bryntirion, 2014).

Bara’r Bywyd

Ef oedd golygydd cyffredinol y gyfres darlleniadau beiblaidd, ‘Bara’r Bywyd’, a gyhoeddwyd gan Wasg Efengylaidd Cymru/Gwasg Bryntirion o 1980 ymlaen, ac ysgrifennodd dair cyfrol yn y gyfres, sef Llyfr Josua (1981); Epistolau Ioan a’r Datguddiad (1987); ac Efengyl Ioan (2000).

Hanes

  • Adolygiad: Rhai o Arwyr Crist (D. Gwenallt Rees), yn Barn, 130 (Awst 1973), t. 467.
  • Y Dyn o Drefeca Fach (Hywel Harris, 1714–1773) (Pen-y-bont ar Ogwr: Mudiad Efengylaidd Cymru, 1973).
  • Owen Thomas, ‘Revive Thy Work’, cyf. Edmund T. Owen, Banner of Truth, 332 (May 1991), tt. 10–15; 333 (June 1991), tt. 18–21 – cyfieithiad o bregeth ar Salm 102:13–14 gan Dr Owen Thomas (1812–91), Lerpwl, un o bregethwyr mwyaf Cymru yn y 19eg ganrif.
  • Cyd-olygydd: Llais y Doctor: Detholiad o Waith Cyhoeddedig Cymraeg D. Martyn Lloyd-Jones (Pen-y-bont ar Ogwr: Gwasg Bryntirion, 1999).
  • ‘Pentecostaliaeth a’r Neuaddau’, yn Noel Gibbard (gol.), Nefol Dân: Agweddau ar Ddiwygiad 1904–05 (Pen-y-bont ar Ogwr: Gwasg Bryntirion, 2004), tt. 197–209.

Addasiadau o’r ‘Chronicles of Narnia’ (C. S. Lewis)

  • Y Llew a’r Wrach [addasiad o The Lion, the Witch and the Wardrobe] (Dinbych: Gwasg Gee, 1972; argraffiad diwygiedig, Pen-y-bont ar Ogwr: Gwasg Efengylaidd Cymru, 1983).
  • Yn Ôl i Wernyfed [addasiad o Prince Caspian] (Pen-y-bont ar Ogwr: Gwasg Efengylaidd Cymru, 1984).
  • Mordaith y Sioned Ann [addasiad o The Voyage of the Dawn Treader] (Pen-y-bont ar Ogwr: Gwasg Efengylaidd Cymru, 1989).

Llyfrau lliw-llawn i blant

  • Cyfres ‘Cymeriadau’r Beibl’: addasiad Cymraeg o bedwar llyfr gan Carine Mackenzie (Pen-y-bont ar Ogwr: Gwasg Efengylaidd Cymru, 1981), sef Gedeon: Milwr y Brenin Mawr; Ruth: Y Ferch o Moab; Mair: Mam yr Iesu; Pedr: Y Pysgotwr.
  • Cyfres ‘Storïau’r Meistr’: addasiad Cymraeg o bedwar llyfr gan Nick Butterworth a Mick Inkpen sy’n adrodd rhai o ddamhegion Crist (Pen-y-bont ar Ogwr: Gwasg Efengylaidd Cymru, 1989), sef Y Deg Darn Arian; Y Dyn Diarth Da; Y Ffermwr Cyfoethog; Y Porth Bychan. Ailgyhoeddwyd y pedwar llyfr yn un gyfrol, ynghyd â chyfieithiadau gan Edmund Owen o bedair stori arall, gan Gyhoeddiadau’r Gair yn 2005 dan y teitl Storïau’r Meistr.

 

Barddoniaeth

  • Soned: ‘Yn y gweithdy cul …’ [Luc 2:49], Y Cylchgrawn Efengylaidd, Medi/Rhagfyr 1972, t. 201 (dan y ffugenw ‘Eilyr’).
  • ‘Angof’, Y Cylchgrawn Efengylaidd, Hydref 1973, t. 5 (ac yna ar glawr cefn rhifyn Tachwedd/Rhagfyr 1981, ynghyd â lluniau o Bantycelyn, Talgarth a Llangeitho gan R. Brian Higham).
  • ‘Nid i Ni’, Y Cylchgrawn Efengylaidd, Ionawr 1976, t. 13.
  • ‘Great providence of heaven’ [cyfieithiad o emyn David Charles, Caerfyrddin, ‘Rhagluniaeth fawr y nef’], yn Christian Hymns, gol. Paul E. G. Cook a Graham Harrison (Bridgend: Evangelical Movement of Wales, 1977), rhif 87.
  • ‘Far beyond time, beyond creation’s dawn’ [cyfieithiad o emyn Pedr Fardd, ‘Cyn llunio’r byd, cyn lledu’r nefoedd wen’], yn Christian Hymns (1977), rhif 493.
  • ‘He’s altogether lovely’ [cyfieithiad o’r pennill ‘Mae’r Iesu oll yn hawddgar’ gan Dafydd Cadwaladr, Y Bala], yn Emyr Roberts ac R. Geraint Gruffydd, Revival and Its Fruit (Bridgend: Evangelical Library of Wales, 1981), t. 7. Ailgyhoeddwyd yn Emyr Roberts, Revival in Wales, gol. John Aaron a John Emyr (Bridgend: Bryntirion Press, 2014), t. 25.
  • ‘Why dost object to dancing?’ [cyfieithiad o ddau bennill o gerdd gan Williams Pantycelyn] a ‘Heavenly nest, sweet, hidden, peaceful’ [cyfieithiad o ddarn bach o un o farwnadau Williams Pantycelyn], yn Emyr Roberts ac R. Geraint Gruffydd, Revival and Its Fruit (1981), tt. 33, 34.
  • ‘Nid i Ni (Salm 115:1)’, ‘Cwmni’ ac ‘Angof’, yn O Gylch y Gair: Cyfrol o Gerddi Cristnogol, gol. John Emyr (Pen-y-bont ar Ogwr: Gwasg Efengylaidd Cymru, 1987), tt. 17–18, 20, 21.
  • ‘Y Gnocell Werdd’ [soned], Y Cylchgrawn Efengylaidd, Mawrth/Ebrill 1987, t. 17.
  • ‘Tydi, O Dduw, a folwn ni’ [mydryddiad o adran gyntaf y Te Deum], yn E. Wyn James, Dechrau Canu: Emynau Mawr a’u Cefndir (Pen-y-bont ar Ogwr: Gwasg Efengylaidd Cymru, 1987), t. 10.
  • ‘Mawrha yr Arglwydd, f’enaid, cân’ [mydryddiad o’r Magnificat], yn E. Wyn James, Carolau a’u Cefndir (Pen-y-bont ar Ogwr: Gwasg Efengylaidd Cymru, 1989), t. 10.
  • ‘Dos, dywed ar y mynydd’ [cyfieithiad o ‘Go, tell it on the mountain’ gan John Wesley Work], yn E. Wyn James, Carolau a’u Cefndir (1989), t. 46.
  •  ‘Yr eiddew a’r gelynnen’ [cyfieithiad o ‘The holly and the ivy’], yn E. Wyn James, Carolau a’u Cefndir (1989), t. 78.
  • ‘Anfarwol fri sy’n eiddo Iesu Mawr’ [addasiad o emyn William Gadsby, ‘Immortal honours rest on Jesus’ head’], Y Cylchgrawn Efengylaidd, Tachwedd/Rhagfyr 1989, t. 11.
  • ‘I cast my burden’ [cyfieithiad o emyn Williams Pantycelyn, ‘Mi dafla’ ’maich oddi ar fy ngwar’], The Evangelical Magazine of Wales, April/May 1991, t. 24.
  • ‘At Hugh Morgan’s Funeral’ [cyfieithiad o soned gan Gareth H. Davies i goffáu Hugh D. Morgan], The Evangelical Magazine of Wales, August/September 1992, t. 24.
  • ‘Cwsg, faban mwyn! Fy mhlentyn cu’ [cyfieithiad o ‘Rocking Hymn’ George Wither], yn E. Wyn James, ‘Hwiangerdd Piwritan i’w Blentyn’, [Cylchgrawn] Yr Eglwys Efengylaidd Gymraeg, Caerdydd, 46 (Rhagfyr 1992/Ionawr 1993), t. 3.
  • ‘O for the peace beyond all mortal telling’ [cyfieithiad o emyn Elfed, ‘Rho im yr hedd’] – cyfieithiad anghyhoeddedig a luniwyd yn wreiddiol ar gyfer angladd Mrs Hannah Henry, Caerau, Maesteg, ym mis Chwefror 1989 ac a gynhwyswyd wedyn ar daflen angladdol Edmund Owen ei hun.

Mynegeion

Paratôdd (gyda’r Parch. Cecil H. Jenkins) y mynegair yn Y Testament Newydd Cyfeiriadol (Abertawe: Gwasg Christopher Davies, 1978). Paratôdd y mynegeion ar gyfer nifer o’r cyfrolau a gyhoeddwyd gan Wasg Efengylaidd Cymru tra oedd yn aelod o staff y Mudiad Efengylaidd. Yna, wedi iddo ymddeol yn 1996, lluniodd y mynegeion ar gyfer y cyfrolau a ganlyn: Noel Gibbard, Cymwynaswyr Madagascar (1999); Noel Gibbard, Griffith John: Apostle to Central China (1998); Noel Gibbard, Cofio Hanner Canrif: Hanes Mudiad Efengylaidd Cymru (2000); Tim Shenton, Christmas Evans (2001); Noel Gibbard, The First Fifty Years: The History of the Evangelical Movement of Wales (2002); Noel Gibbard, On the Wings of the Dove: The International Effects of the 1904–05 Revival (2002); Noel Gibbard, Caniadau’r Diwygiad (2003); Noel Gibbard (gol.), Nefol Dân: Agweddau ar Ddiwygiad 1904–05 (2004); Eryl Davies, The Beddgelert Revival (2004); Noel Gibbard, Fire on the Altar: A History and Evaluation of the 1904-05 Revival in Wales (2005); Noel Gibbard, Caradoc Jones: A Forgotten Missionary (2007); Noel Gibbard, R. B. Jones: Gospel Ministry in Turbulent Times (2009); R. Brian Higham, The Rev. David Jones Llan-gan (2009); Noel Gibbard, Tarian Tywi: Cofiant y Parch. J. Tywi Jones (2011).

Wyn James

Hoffwn ddiolch i weddw Edmund, Mrs Beti Wyn Owen, am ei chymorth wrth imi baratoi’r llyfryddiaeth hon.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF
Tagiau
Llyfryddiaeth