Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Golygyddol Gwanwyn 2017

26 Mehefin 2017 | gan Steffan Jones

Trosglwyddo’r Awenau

Mae’n bleser cyhoeddi bod Geraint Lloyd a Cynan Llwyd wedi eu penodi yn gydolygyddion newydd Y Cylchgrawn Efengylaidd. Yn wreiddiol o’r Rhos, Pontardawe, mae Geraint bellach yn gyfieithydd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin. Mae’n briod â Magali ac mae ganddynt dri o blant. O Aberystwyth y daw Cynan yn wreiddiol, ond erbyn hyn mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i wraig, Rachel, ac yn gweithio i ‘Llenyddiaeth Cymru’. Maent eisoes wedi dechrau ar eu gwaith gyda brwdfrydedd a bwrlwm ac edrychwn ymlaen at rifyn cyntaf yn yr haf.

Wrth i mi orffen yn olygydd, ga i ddiolch i bawb sydd wedi darllen a chyfrannu mor hael yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae tua 190 ohonoch wedi cyfrannau dros 600 o ysgrifau dros chwe blynedd. Mae’n amlwg na fyddai’r Cylchgrawnyn bodoli heb eich parodrwydd i osod pen i bapur a rhannu’r hyn y mae Duw wedi eich dysgu. Mewn dyddiau go dywyll mae’n galondid gwybod bod cymaint o Gymry Cymraeg yn dal i brofi bendith yr Arglwydd ac yn awyddus i annog eu brodyr a’u chwiorydd.

Nid gormod dweud bod sawl perl ymhlith yr erthyglau a gyflwynwyd, a byddaf yn parhau i gyfeirio’n ôl atynt am anogaeth ac arweiniad. Hyderwn y bydd darllenwyr Y Cylchgrawnyn derbyn yr un fendith yn y dyfodol.

Rhaid diolch hefyd i’r pwyllgor creadigol a doeth (Dewi George, Aled Lewis, Geraint Lloyd, Bethan Perry a Gwynn Williams); y cyfranwyr rheolaidd (Edmund Owen, Rhian Williams, Iwan Rhys Jones, Derrick Adams, Peter Davies a Steffan Job); y swyddfa amyneddgar (Steffan Job, Lowri Iorwerth a Rebecca Gethin), ac yn bennaf oll, i Geraint Lloyd a’i dîm o olygyddion sydd wedi prawfddarllen tua 380,000 o eiriau, a Rhiain Davies sydd wedi dylunio 736 o dudalennau mewn chwe blynedd!

Ar ôl cyfnod o ugain mlynedd mae Rhiain yn camu nôl fel dylunydd a diolchwn yn fawr iddi am ei holl waith tawel, ffyddlon ac effeithiol.

Gweledigaeth

Wrth i’r Apostol Paul esbonio natur ei weinidogaeth yn ei lythyr at y Colosiaid, noda ei weledigaeth sylfaenol: ‘Ei gyhoeddi ef yr ydym ni, gan rybuddio pawb, a dysgu pawb ym mhob doethineb, er mwyn cyflwyno pob un yn gyflawn yng Nghrist’ (Col. 1:28). Ei ddymuniad pennaf yw i’r saint yng Ngholosae gael eu calonogi, eu clymu mewn cariad, profi sicrwydd ffydd a thyfu mewn dirnadaeth (2:2-4). Dyma i chi galon Paul yr efengylydd a’r bugail, ac mae’n fodlon llafurio ac ymdrechu yn nerth Duw i’r diben hwn.

Gadewch i ni weddïo am Geraint a Cynan a’r Pwyllgor Golygyddol wrth iddynt ddechrau ar eu gwaith, ar i’r Cylchgrawnbarhau i gynorthwyo pobl Dduw o bob eglwys ac enwad, a’n cyd-Gymry yn fwy cyffredinol. Dywedodd Arfon Jones y geiriau hyn am J.Elwyn Davies, ac maent yn adlewyrchu gweledigaeth y Mudiad Efengylaidd o’r dechrau:

‘Un o’r pethau oedd yn fy nharo bob amser amdano oedd ei gariad at y Gair. Roedd pob gair yn y Beibl yn bwysig iddo. Roedd ei barch at y Beibl yn tarddu o’ i gariad at ei Waredwr… Roedd addfwynder ei gymeriad a chadernid ei argyhoeddiadau yn gyfuniad grymus dan law Duw’

John Emyr (gol.),Porth yr Aur, (Pen-y-bont ar Ogwr: Gwasg Bryntirion, 2011), 8.

Y profiad a’r athrawiaeth. Y meddwl a’r galon. Gair a gweithred. Dyma sydd wedi nodweddu gwir Gristnogaeth erioed. I’r traddodiad hwn y mae’r Cylchgrawnyn perthyn. Boed i hyn barhau i fod yn wir am flynyddoedd lawer i ddod. I Dduw bo’r clod a’r gogoniant

Adnodd diwethaf