Yng nghylchoedd y Mudiad mae sawl Geraint, Dafydd a John ond ni fu ond un Edmund, ac nid ei enw yn unig oedd yn wahanol. Er bod ei wreiddiau yng nghefn gwlad ardal arwrol Llangyndeyrn, doedd dim llawer o olwg ffarmwr arno. Mae’n wir, serch hynny, fod ei allu wrth yrru lori i gludo llyfrau’r Mudiad dros Gymru benbaladr, neu fws mini i fynd â selogion seiat Llanedi ar eu taith flynyddol, yn awgrymu ei fod yn gallu trafod tractor. Y cof amdano yn yr ardal oedd am fab ffarm darllengar yn null Lewis Edwards â mwy o ddiddordeb mewn dysg na’r da. Daeth tro ar fyd y llanc ysgol disglair yn 1952 pan ddaeth ei ffrind, Sulwyn Jones, ac ef i gredu’r efengyl, a dyna ddechrau ar daith ysbrydol a arweiniodd yn y pen draw at ei wasanaeth hir i waith yr efengyl yng Nghymru, ac yn y Gymraeg yn benodol.
Des i’w adnabod yn gyntaf trwy ei bregethau ac un o’r rhai a wnaeth argraff fawr arna i ar Eff. 2:10 (William Morgan), ‘Canys ei waith ef ydym, wedi ein creu yng Nghrist Iesu i weithredoedd da, y rhai a ragddarparodd fel y rhodiem ni ynddynt’, lle nododd fod Duw yn ei ragluniaeth yn paratoi gweithredoedd penodol ar ein cyfer ni. Wrth symud i Gaerfyrddin ac wedyn i’r un cwm ag e, ces i gyfle i ymwneud yn fwy ag Edmund a gweld nad pwnc pregeth yn unig oedd yr adnod uchod, ond egwyddor bywyd. Pan fu’n gweithio i’r Mudiad yn adeilad Bryntirion ger Pen-y-bont ar Ogwr, nid peth anarferol fyddai iddo ildio’i wely i ryw ymwelydd neu’i gilydd a chysgu ar y llawr. Yn sicr, ei gymwynasgarwch yw un o’r atgofion gorau sydd gen i amdano. Pan fyddwn i’n methu â chadw cyhoeddiad, Edmund oedd y person cyntaf y byddwn i’n ei ffonio, a phe bai’n ymarferol bosibl iddo fynd yn fy lle i, hyd oed yn oed pe bai eisoes yn pregethu ddwywaith, ac yntau yn ei saithdegau, fe âi. Bu’n chauffeur i mi droeon yn ôl ac ymlaen i’r Bala a Bryntirion, aeth â Magali i’r meddyg pan oedd hi’n wael, ac ar un daith gofiadwy aeth â mi a’r plant o Gors-las i’r ysgol yng Nghaerfyrddin, ac wedyn ymlaen â mi i Fryntirion ac yna yn ôl i Gaerfyrddin.
Tybed a yw pawb yn sylweddoli cymaint o gaffaeliad i waith cyhoeddi’r Mudiad oedd sgiliau iaith Edmund? Mae’n debyg taw gwyleidd-dra Edmund ei hun yw’r rheswm nad oedd hynny’n fwy hysbys. Enillodd ei addasiadau o lyfrau Narnia C. S. Lewis (neu Wernyfed a rhoi enw Cymraeg Edmund ar y lle) wobr a chlod llenyddol, a dangosodd yr emynau a gyfieithodd yn gelfydd i’r Gymraeg a’r Saesneg ei ddawn farddonol. Heb amheuaeth gallai wedi gwneud enw iddo ei hun yn awdur ac yn gyfieithydd, ond dewisodd gysegru’r doniau hyn yn llwyr i waith yr efengyl yng Nghymru. Mewn cyfweliad â’r cylchgrawn Barn rai blynyddoedd yn ôl, lle nodwyd bod Yn ôl i Wernyfed a’r Llew a’r Wrach wedi torri tir newydd ym maes cyfieithu Cymraeg, eglurodd mai ei unig ddiddordeb yn y llyfrau hyn oedd y neges Gristnogol oedd i’w chael ynddyn nhw.
Dylai darllenwyr y Cylchgrawn wybod am y doniau hyn yn well na neb ar ôl cael gwledda ar ei ysgrifau gafaelgar dros y blynyddoedd. Daeth ymwelwyr o Gymru ar draws un o ddarllenwyr y Cylchgrawn ym Mhatagonia a ddywedodd mai’r peth cyntaf a wnâi wrth dderbyn rhifyn newydd fyddai troi at erthygl Edmund, ac anodd credu mai hi oedd yr unig un a fyddai’n gwneud hyn. Fodd bynnag, bydd unrhyw un sydd wedi cael cip y tu ôl i’r llenni yn gwybod mai rhan yn unig o gyfraniad Edmund oedd honno, wrth iddo wneud pob erthygl i’r Cylchgrawn yn fwy darllenadwy. Wrth i mi ei olynu’n olygydd iaith, y cynllun oedd y byddwn i’n cydweithio ag Edmund i ddechrau er mwyn dysgu ei grefft. Buan y gwelwyd mor afreal oedd y disgwyliad hwnnw. Er i Edmund wneud ei orau, a bellach o barch ato, fe fydda i’n ceisio osgoi’r ymadroddion ‘rhannu’r efengyl’ ac ‘ar ddiwedd y dydd’, daeth yn amlwg na fyddai byth yr un graen ar bethau dan y golygydd iaith newydd. Unwaith eto dyma’r cymwynaswr mawr yn dod i’r adwy (rhaid bod y Cylchgrawn yn rhy bwysig iddo allu ei adael yn nwylo amaturiaid) ac er iddo ymddeol yn swyddogol, yn answyddogol parhaodd i ddarllen y proflenni – a Rhiain, druan, yn eu cael nhw’n ôl yn llawn inc coch.
Roedd cynnwys yr ysgrifau mor gyfoethog â’r iaith, yn esboniadol, hanesyddol, bugeiliol, ond roedd rhai themâu yn brigo’n aml, sef rhagluniaeth Duw a’i ras. Ymddangosodd ysgrif olaf Edmund ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth, yn rhan o gyfres anorffenedig ar y diafol. Roedd yn anarferol i Edmund ei gyfyngu ei hun i gyfres, gan ddisgwyl arweiniad penodol ar gyfer pob ysgrif, ond mae’n rhaid bod y pwnc hwn yn pwyso ar ei galon. Tra byddai rhai ar ddiwedd eu hoes yn awyddus i achub y blaen ar eu cofianwyr a rhestru eu gorchestion, roedd hi’n well gan Edmund ddefnyddio ei anadliadau olaf i annog ei gyd-gredinwyr i ymdrechu hardd-deg ymdrech y ffydd.
Ymdrech fu hi i Edmund gydol ei fywyd. Er na soniai’n aml amdano ei hun, gallai fod yn onest iawn am ei fethiannau a’r pethau oedd yn anodd iddo, ac un o’r rhain oedd unigrwydd. Ffrwydrodd hyn i’r amlwg ryw bedair blynedd yn ôl pan gafodd ddiagnosis canser yn y brostad a’r newyddion ei bod hi’n rhy hwyr i’w drin. Dyna olygfa drist oedd gweld yr hen Edmund ychydig wedi hyn yn eistedd yn ystafell flaen ei dŷ yn y tywyllwch yn synfyfyrio ar ei ben ei hun. Ychydig a wyddai ar y pryd nad hwn oedd diwedd y daith ond bod un tro arall, ac un heulog hefyd. Er nad oedd modd dileu’r canser, trwy drallwysiadau rheolaidd roedd modd lleddfu rhai o’r symptomau a chafodd Edmund adferiad corfforol. Tua’r un pryd dechreuodd y garwriaeth â Beti Wyn ac wedyn tair blynedd hapus o fywyd priodasol ym Mhorthmadog. Ar ran darllenwyr y Cylchgrawn, dyma gyfle i ddiolch yn gyhoeddus i Beti Wyn am alluogi Edmund i barhau i ysgrifennu hyd y diwedd, ac ar ran holl ffrindiau Edmund dyma gyfle hefyd i ddiolch iddi am bopeth a wnaeth hi i’n cyfaill annwyl. A daw ein gweddïau gyda’n diolch. Er gwaethaf ei boenau tua’r diwedd, cafodd Edmund ragflas o’r gogoniant sydd i ddod wrth draed anferthedd Eryri ac wedi ei amgylchynu â chariad. Cafodd y cymwynaswr mawr yn ei wendid fwynhau cymwynasau rhywun arall, a does ryfedd iddo ddweud llynedd ei fod yn teimlo ei fod yng Ngwlad Beulah.
Doedd Edmund fyth yn sebonllyd, ond os oedd unrhyw beth calonogol y gallai ei ddweud, byddai’n siŵr o ddarganfod ffordd o wneud hynny yn ei ffordd dawel, gynnil ei hun. Ei eiriau olaf wrthyf oedd i ddymuno’n dda iawn â gwaith y Cylchgrawn. Cyn iddo symud i’r Gogledd, ces i dair rhodd ganddo: Y Gwyddoniadur Cymreig, yn arwydd o’i ddysg, llyfr ar fanion gramadegol y Testament Newydd Groeg, yn arwydd o’i ysgolheictod Beiblaidd, a gwdihŵ fach o’i gasgliad personol (i Macsen y mab pedair oed ar y pryd) yn arwydd o’i ddoniolwch. Fodd bynnag, ces i lawer mwy na hynny ganddo, pethau rhy drwm a rhy werthfawr i’w rhoi ar unrhyw silff.
Yn yr hwyrddydd daeth llewyrch,
Daeth asbri, daeth afiaith,
Daeth llamu lle bu cystudd,
Cofleidio wedi’r crwydro.Daeth llais… ond nid un newydd,
A’i sibrwd wedi ei weu yn sisial
bryniau, bro ac iaith dy febyd,
yn disgyn ar yr awel
rhwng sillafau siarad ffrind
gan ddatgloi drws dy galon
i eangderau panorama ffydd.Cerddaist yn dawel, unig, hirdroed y tiroedd rhyfedd hyn,
Ar hyd y llwybrau a’r llethrau, y cysgodion a’r pelydrau,
Wrth fedi’r cnwd amryliw yn ymborth i nerthu eraill.Rhoist lygaid a chlustiau a geiriau i laweroedd,
Rhoist amser, rhoist lafur, rhoist gysur,
Rhoist dy hun a rhoist dy gyfoeth.Ond adlais oedd y cyfan,
Hwmian bloesg rhyw alaw bell
Ond hardd
A’i nodau’n tyfu gyda’r hwyr.Yn yr hwyrddydd daeth llif llanw’r llawnder,
Nes boddi sŵn y geiriau,
Gwawriodd gorfoledd gwanwyn Gwernyfed,
Daeth y diwedd a’r dechrau.