Dychwelodd Nathanael ac Anna Ayling a’u plant, Ethan, Micaiah a Boaz, i Hokkaido yn haf 2016 ar gyfer eu hail gyfnod yn genhadon gydag OMF yn Siapan. Bu Meirion Thomas yn eu holi ar y we wedi iddynt gyrraedd y Dwyrain Pell.
Anna, wnei di ddweud ychydig wrthym am dy gefndir a sut y dest ti’n Gristion?
Ces i fy ngeni yn Nhreforys, ond fy magu yng Nghaerdydd am fod fy nhad yn weinidog yn Emmanuel, Gabalfa, ar y pryd. Roeddwn i’n mynychu Ysgol Melin Gruffydd yn yr Eglwys Newydd. Symudon ni i Glydach, yng Nghwm Tawe, pan oeddwn i’n 12 oed a dechreuais i fynychu Ysgol Gyfun Ystalyfera.
A minnau’n ferch i weinidog, rwy wastad wedi gwybod yr efengyl, a dwi ddim yn gallu meddwl am amser pan nad oeddwn i eisiau bod yn Gristion. Er hynny, roeddwn i’n 13 oed pan ges i sicrwydd fy mod i wedi fy achub. Roeddwn i’n credu bod Iesu wedi marw drosof a fy mod i eisiau bod yn ei gwmni am dragwyddoldeb, ond doeddwn i ddim yn deall sut gallwn i wybodein bod ni wedi ein hachub. Yn y diwedd, roedd rhaid sylweddoli bod angen i mi ymddiried bod Duw yn ffyddlon, a’i fod yn cadw ei addewid yn Ioan 3:16 i roi bywyd tragwyddol i bwy bynnag sy’n credu yn Iesu.
Sut cwrddest ti â Nat a phryd daeth yr ymdeimlad o alwad i’r genhadaeth?
Cwrddais i â Nat pan ddechreuais i weithio i Eglwys St Helen’s yn Bishopsgate, Llundain (roedd e flwyddyn o’m blaen i yn y cynllun partneriaeth sydd ganddyn nhw). Yn blentyn, roeddwn i wedi adnabod cenhadon – a doeddwn i ddim eisiau bod yn un fy hun! Ond wedi dweud hynny, roedd yr Arglwydd wedi bod yn fy herio ers amser hir. Roeddwn i’n sylweddoli na allwn i ei alw’n ‘Arglwydd’ a dweud ‘Na!’ wrtho ar yr un pryd.
Pan ddechreuodd y ddau ohonom ganlyn, roeddwn i’n ymwybodol bod Nathanael yn anelu i gyfeiriad Siapan, ac felly roedd yn rhaid ystyried y dyfodol o ddifri, ond roedd Duw yn barod wedi fy mharatoi i dderbyn yr alwad genhadol. Ches i ddim ymdeimlad o alwad benodol i Siapan yn bersonol (nid mewn ffordd uniongyrchol o leiaf), ond mae’n glir bod yr Arglwydd wedi gosod y wlad yn ddwfn ar galon Nathanael ac mae hynny o bwys mawr i mi.
Nat, dwêd ychydig wrthym ni am dy genfdir a’th alwad i Siapan
Yn ei ddoethineb a’i ras, fe osododd Duw fi mewn teulu oedd yn caru Iesu ac yn ei wasanaethu yn Siapan. Tyfais i fyny, felly, yn ymwybodol o’r angen i ddweud wrth eraill am Iesu ac am anghenion ysbrydol Siapan. Fel y mwyafrif o bobl ifainc, ni ddechreuais i ystyried fy nyfodol a’m gyrfa tan fy mod i’n 15 oed, ond wedi imi ddechrau gweddïo a meddwl o ddifri, sylweddolais i fod Duw yn fy ngalw i gyhoeddi newyddion da Iesu Grist i’r cenhedloedd.
Oherwydd imi gael fy magu yn Siapan, roedd gen i dipyn o brofiad o iaith a diwylliant y wlad, tybiais mai yno y byddai Duw yn fy anfon i. Er hynny, dechreuais glywed tipyn am India yn y cyfnod cynnar hwn, ac ymddangosai bod Duw yn fy arwain i’r cyfeiriad hwnnw ̶ ond doedd gen i ddim awydd o gwbl i fynd i India! Brwydrais â hyn mewn gweddi am nifer o flynyddoedd, gan ymbil ar Dduw i’m hanfon i unrhyw le heblaw am India. Yn y pen draw, sylweddolais (fel mae Anna wedi esbonio) nad oeddwn i’n gallu parhau i ddweud ‘Na!’ wrth Iesu a dweud ar yr un pryd ei fod e’n Arglwydd ar fy mywyd i. Dechreuais weddïo yn wahanol felly – ‘Iawn, Arglwydd, os wyt am i mi fynd i India, fe af.’ Dechreuais ymchwilio i gyfoeth diwylliant, daearyddiaeth, iaith –ac yn fwyaf oll, anghenion ysbrydol – India, ac wrth wneud hynny, dechreuais gyffroi wrth feddwl am gael gwasanaethu Duw yno.
Serch hynny, pan oeddwn yn fy 20au cynnar, cefais sawl profiad allweddol a wnaeth i mi droi fy sylw yn ôl at Siapan. Holodd rhai o’m perthnasau a’m ffrindiau, er enghraifft, pam yr oedd Duw wedi rhoi magwraeth a gwybodaeth am y Siapaneeg i mi? A oedd e eisiau i mi ddefnyddio’r profiadau er lles yr efengyl? Hefyd, cafwyd cyfarfod gweddi cofiadwy un noson yn fy eglwys, lle buom yn gweddïo dros Rosanne Jones, cenhades yn Siapan. Profais bresenoldeb Duw yn ddwys wrth weddïo y noson honno, a dechreuais i weddïo’n fwy taer ac angerddol nag erioed o’r blaen, gyda dagrau. Roedd hyn yn sioc, a dweud y gwir, a sylweddolais fod fy maich a’m cariad at Siapan cyn gryfed ag erioed. Dechreuais weddïo o’r newydd felly, gan holi, gyda chymorth fy ngweinidogion ac arweinwyr OMF, a oedd Duw am i mi ei wasanaethu yn Siapan.
Pa fath o hyfforddiant gawsoch chi ar gyfer Siapan a beth oedd yr heriau cynnar?
Treuliodd Nat dair blynedd yn dilyn cwrs ‘Diwinyddiaeth a Chenhadaeth Ryngwladol’ yng Ngholeg Diwinyddol Oakhill yn Llundain, tra cafodd Anna y cyfle i dreulio dwy flynedd yno yn astudio Gweinidogaeth Plant a Phobl Ifainc. Priodon ni yn ystod ein cyfnod yn Oakhill, ac fel gŵr a gwraig, fe ddechreuon ni ofyn o ddifri a oedd Duw am i ni wasanaethu yn Siapan.
Mae pob cenhadwr OMF yn gorfod treulio mis yn y Pencadlys Rhyngwladol yn Singapore ar ddechrau ei weinidogaeth, a dyna wnaethom ninnau hefyd, yn 2011. Ar ôl hynny fe gyrhaeddon ni Siapan, gyda babi newydd saith mis oed! Am y ddwy flynedd gyntaf roeddem ni’n fyfyrwyr iaith amser llawn ac roedd astudio’r iaith yn waith caled.
Roeddem ni’n ymwybodol y byddai’n rhaid wynebu heriau ac ymosodiadau ysbrydol ar y ffordd, ond doedd dim ffordd rhagweld union natur yr heriau hynny. Bu marwolaeth annhymig brawd Anna, a mam Nathanael, yn ergydion anodd yn y ddwy flynedd gyntaf. Buom hefyd yn dioddef oherwydd iechyd drwg a blinder llethol; yn waeth nag yr oeddem erioed wedi ei brofi o’r blaen.
Pa fath o gyfleoedd sydd i chi fel teulu wrth genhadu?
Rydyn ni’n yn wan a phechadurus, ond mae Duw yn dda a nerthol ac yn llawn gras. Yn ein gwendid, caiff Duw ei ogoneddu.Rydym yn gweithio gyda KGK (UCCF Siapan) ac OMF ac yn arwain cenhadaeth i fyfyrwyr o’r enw fmZero, felly rydyn ni’n ddiolchgar am bob cyfle penodol i rannu’r efengyl â myfyrwyr (Nathanael yn bennaf). Gwerthfawrogwn hefyd gyfleoedd i ddangos cariad Duw i blant y fro, ac i ddysgu’n plant ein hunain am fawrion weithredoedd Duw (Salm 78:4, 7).
Sut gallwn ni weddïo drosoch chi a’r teulu?
A wnewch chi weddïo am :
- egni i ddal ati er mwyn cyflawni’r gweithredoedd da y mae Duw wedi eu paratoi i ni eu cyflawni bob dydd.
- doethineb ynghylch sut i ddefnyddio ein hamser a’n hegni cyfyngedig.
- cariad fel teulu, gyda gras Duw yn ganolog i’n perthynas â’n gilydd.
- i Dduw ein defnyddio er ei ogoniant yma yn Siapan, ac i ni fod yn llysgenhadon da dros Iesu i’n cymdogion, cyfeillion, a’r myfyrwyr yr rydyn ni’n eu gwasanaethu.