Diarhebion 31:10-31
Y WRAIG FEDRUS
Daw’r llyfr i ben drwy ganu molawd hyfryd i’r wraig fedrus a’i dylanwad llesol ar ei theulu a’i chymuned. Nid yw’r Beibl yn unman yn difrïo merched; yma caiff gwraig barch a chlod hollol deilwng.
Diwydrwydd
Caiff diwydrwydd diflino’r wraig fedrus sylw arbennig yn adnodau 13-19. Nid yw’n ofni gwaith caled (17), ac ‘Nid yw’n bwyta bara segurdod’ (27). Mae’n brysur ar ei haelwyd ei hun, ond hefyd yn ymgymryd â gwaith ychwanegol er mwyn gwneud elw priodol y gall ei ddefnyddio er lles i’w theulu (18, 24). Mae’r llyfr hwn wedi cyfeirio’n ddigon aml at y diogyn (e.e. 6:6-11; 26:13-16); cwbl wahanol yw’r wraig hon. Mae geiriau olaf y llyfr yn briodol iawn, felly: ‘Rhowch iddi o ffrwyth ei dwylo, a bydded i’w gwaith ei chanmol yn y pyrth’ (31).
Daioni
Ond nid diwydrwydd difeddwl a digyfeiriad mo hyn. Er nad yw’r wraig yn esgeuluso ei hurddas na’i hanghenion personol (22), ceisio lles eraill yw ei nod pennaf.
- Yn gyntaf, mae am wneud daioni i’w gŵr (12), gan fod yn goron iddo (12:4). Oherwydd ei llwyddiant yn hyn o beth, caiff ei gŵr ei barchu gan arweinwyr cymdeithas (23). Nid oes rhyfedd, felly, fod ei gŵr yn ymddiried yn llawen ynddi (11) ac yn ei chanmol yn ei hwyneb (28-29).
- Yn ail, mae am wneud daioni i’w phlant a’i theulu (15, 21, 27). Gwylia drostynt, gan ddarparu’n dda ar eu cyfer, ac maent yn barod iawn i gydnabod eu dyled iddi (28).
- Yn drydydd, mae am wneud daioni i eraill yn gyffredinol, yn enwedig yr anghenus a’r tlawd (20). Mae pawb yn falch o’i gweld oherwydd ei hagwedd siriol a chadarnhaol (25), ac yn barod i wrando arni oherwydd ei geiriau doeth a charedig (26).
Duwioldeb
Ei duwioldeb yw sylfaen ei bywyd a’i gweithgarwch. Dyma ‘wraig sy’n ofni’r Arglwydd’ (30) yn bennaf oll. Nid yw prydferthwch allanol yn cyfrif rhyw lawer gyda hi; yr hyn sydd o bwys iddi, yn hytrach, yw anrhydeddu Duw ym mhob rhan o’i bywyd. Ni ellir gwell diweddglo i’r llyfr.