Diarhebion 31:1-9
CYNGOR I FRENIN
Nid oes gennym fwy o wybodaeth am Lemuel nag am Agur (30:1), ar wahân i’r gosodiad mai brenin Massa oedd Lemuel. Diddorol nodi hefyd mai ei fam a ddysgodd y cyngor a ganlyn iddo (1).
Peryglon
Mae Lemuel yn enwi dau berygl difrifol y dylai pob brenin fod yn ymwybodol ohonynt:
- Yn gyntaf, ceir rhybudd rhag ‘merched’ (3). Nid gwaharddiad rhag priodi sydd yma: mae’r llyfr hwn – a’r Beibl drwyddo draw – yn cydnabod urddas priodas a gwerth gwraig dda (e.e. 18:22; 19:14; cymharer 5:15-19; 31:10-31). Yr hyn sydd dan sylw, yn hytrach, yw’r gordderchwragedd neu’r harîm a oedd mor nodweddiadol o lys brenhinol. Bydd hel merched fel hyn yn arwain at golli ‘nerth’ a ‘bywyd’ – cyfeiriad at ei gyfoeth, neu at yr amser a’r egni sydd eu hangen arno er mwyn rheoli’n dda. Am esiampl drist Solomon, gweler 1 Brenhinoedd 11:1-13.
- Yn ail, tynnir sylw at beryglon diod gadarn (4-5). Ni chyhoedda Lemuel waharddiad llwyr: gall fod defnydd llesol i alcohol mewn achosion penodol (6-7). Serch hynny, mae’n ymwybodol iawn o effeithiau niweidiol diod gadarn. Mae’r llyfr eisoes wedi seinio rhybudd cyffredinol yn hyn o beth (e.e. 23:29-35), ond gŵyr Lemuel am y canlyniadau drwg yn achos y rhai sydd i fod mewn awdurdod (5).
Cyfrifoldebau
Wedi enwi rhai peryglon, mae Lemuel yn troi at gyfrifoldebau brenin:
Yn gyffredinol, ‘rho farn gyfiawn’ yw ei gyngor (9). Cyfiawnder sydd i nodweddu’r sawl sydd mewn awdurdod; lle nad oes cyfiawnder, yr hyn a geir yw gormes.
Yn fwy penodol, mae’r brenin i roi sylw arbennig i’r ‘mud’, ‘yr holl rai diobaith’, ‘yr anghenus a’r tlawd’ (8-9). Mewn geiriau eraill mae i fod yn llawn cariad a thosturi at y rhai sy’n dioddef neu sy’n ddifreintiedig.
Nid yw’r un brenin daearol yn berffaith, ond da cofio’r disgrifiad o deyrnas dragwyddol y Brenin dwyfol: ‘Bydd cariad a gwirionedd yn cyfarfod, a chyfiawnder a heddwch yn cusanu ei gilydd. Bydd ffyddlondeb yn tarddu o’r ddaear, a chyfiawnder yn edrych i lawr o’r nefoedd’ (Salm 85:10-11).