Diarhebion 30:21-33
RHIFOLION A RHYBUDD
Yn adnodau 10-20 dilynir cyfres o rybuddion gan sylwadau sy’n seiliedig ar rifolion; yn awr cyflwynir rhagor o rifolion gyda rhybudd ar y diwedd.
Rhifolion
- Yn gyntaf, rhoddir sylw i bedwar o bethau sy’n peri gofid (21-23). Diddorol nodi fod dau ohonynt yn ymwneud â newidiadau cymdeithasol chwyldroadol, gyda ‘gwas’ a ‘morwyn’ yn cael eu dyrchafu i safleoedd o awdurdod dros eraill. Nid yw’r adnodau hyn yn cyfiawnhau cadw’r status quo cymdeithasol costied a gostio; yr hyn a wnânt, yn hytrach, yw rhybuddio rhag gosod rhywun anaddas a dibrofiad mewn swydd bwysig. Cymharer 19:10; Preg. 10:5-7.
- Yn ail, cyflwynir pedwar creadur sy’n fach o ran maint ond yn ddoeth iawn yn eu ffyrdd (24-28). Er eu gwendid corfforol, maent yn ddiwyd, yn fedrus, yn ddisgybledig, ac yn rhydd i ymgartrefu mewn mannau sydd tu hwnt i gyrraedd y rhan fwyaf o bobl. Doethineb a dycnwch, nid maint, sy’n sicrhau llwyddiant.
- Yn drydydd, enwir pedwar peth, wedi eu dewis o fyd natur ac o gymdeithas ddynol, sy’n nodedig am eu hawdurdod a’u hurddas (29-31). Y brenin yw’r pennaf ohonynt; ond mae ei ogoniant i’w weld yn arbennig nid mewn rhwysg personol ond wrth iddo ddarparu arweiniad da a doeth i’w bobl. Ni all pob un fod yn frenin, ond mae modd i bawb anelu at yr un urddas wrth wasanaethu eraill, yn hytrach na bodloni ar fywyd di-fudd a diddefnydd.
Rhybudd
Peth ffôl fyddai ymffrostio o flaen y fath frenin neu gynllwynio yn ei erbyn (32). Yn wir, dyma rybudd rhag pob math o ymddygiad bostfawr a chynhennus (cymharer 6:14-15; 16:27-30). Yn union fel y daw ymenyn drwy gorddi llaeth ac y ceir gwaed o wasgu’r trwyn, gwrthdaro ac anghydfod yw canlyniad sicr yr ymddygiad hwn, nid yn unig i bobl eraill ond i’r unigolyn sy’n gyfrifol amdano (33). Nid oes yma waharddiad rhag protest gyfreithlon a phriodol, ond dylid ymatal rhag ‘cynllwynio drwg’. Cydia’r rhybudd hwn yn yr un a gafwyd eisoes yn adnodau 21-22a. Rhwng popeth, mae gan greaduriaid bach y ddaear (24-28) lawer i’w ddysgu i’r hil ddynol yn y materion hyn.