Diarhebion 30:1-9
‘Y MAE POB UN O EIRIAU DUW WEDI EI BROFI’
Ni wyddom pwy oedd Agur ac nid oes sicrwydd ynghylch lleoliad Massa, ond yn ôl 1 Brenhinoedd 4:30-31 roedd eraill heblaw Solomon yn nodedig am eu doethineb. Nid dysgu gwersi ysbrydol newydd yw prif nod Agur; yn hytrach, cynigia sylwadau craff arno’i hun ac ar y byd y mae’n byw ynddo.
Gwybodaeth
Cychwynna Agur drwy gyfaddef ei ddiffygion mewn gwybodaeth a doethineb (2-4). Ceir rhyw wendid a methiant yn y meddwl gorau, ac mae llawer o bethau ymhell tu hwnt i’n deall a’i allu. (Am esboniadau grymus ar y thema hon, gweler Job 38–41; Es. 40:12-17.) Hyd yn oed o lwyddo i gasglu llawer o wybodaeth am y byd a’i bethau, ni fedr y dyn anianol ohono’i hun ddeall ‘yr Un Sanctaidd’ (3) oni bai i’r Ysbryd Glân ei oleuo ac agor ystyr yr Ysgrythurau iddo (1 Cor. 2:9-16).
Gair
Oherwydd diffygion gwybodaeth ddynol, rhaid wrth ddatguddiad o’r tu allan, sef Gair Duw (5-6). Mae’r Gair hwn wedi ei ‘brofi’ ac felly’n bur, heb ei lygru gan gelwyddau a chyfeiliornadau: ‘Dy air di yw’r gwirionedd,’ medd Crist (Ioan 17:17). Gellir ymddiried yn y Gair, felly, ac yn yr Un a’i rhoddodd: bydd yn darian i’n hamddiffyn rhag ein ffolineb ein hunain a ffolineb pobl eraill (5). Am fod y Gair yn bur, nid oes angen ychwanegu dim ato (6). Yn wir, o ystyried ein cyfyngiadau deallusol ac ysbrydol (2-4), sarhad ar Dduw yw meiddio ‘gwella’ ei Air. Gweler Datguddiad 22:18-19.
Gofyn
Mae goleuni’r Gair i lywio ein hagwedd at bob rhan o’n bywyd, a gwelwn rai o’r canlyniadau yn adnodau 7-9. Yn gyntaf, gofynna Agur i Dduw am fywyd sanctaidd – am ‘galon lân, yn llawn daioni’ (8a). Mae’n ymwybodol o’r tueddiadau sydd ynddo at y drwg, ac yn ymbil am gymorth dwyfol i’w warchod. Yn ail, cyflwyna gais ynghylch ei amgylchiadau materol am ei fod yn ofni y gall y rhain fod yn fagl iddo (8b-9). Yn fwy na dim, dymuna fyw bywyd sy’n anrhydeddu Duw, ac felly mae am gael ei gadw rhag pob peth sy’n bygwth ei berthynas â’r Duw grasol hwn (9).