Diarhebion 29:15-27
‘LLE NA CHEIR GWELEDIGAETH’
Wrth i’r adran hon ddod i ben, ailgyflwynir nifer o themâu pwysig:
Gwialen
Mae’r llyfr hwn wedi cyfeirio droeon at bwysigrwydd disgyblu plant, gan gynnwys cosb gorfforol petai angen (e.e. 13:24; 22:15; 23:13-14). Ni ddylid cymryd yr adnodau hyn fel unrhyw fath o esgus dros guro plentyn yn ddidrugaredd; serch hynny, mae’r ffaith i’r cyngor hwn gael ei ailadrodd eto yn adnodau 15 a 17, gyda phwyslais amlwg ar ei ganlyniadau llesol, yn awgrymu fod unrhyw ymgyrch i wahardd pob cosb gorfforol yn dilyn trywydd anghywir. O gynnwys gweision gyda phlant, tystia adnod 19 nad yw geiriau ynddynt eu hunain bob amser yn ddigonol. Yn wir, bydd ‘maldodi’ gwas – a phlentyn – heb ddisgyblaeth a chosb briodol yn ôl yr amgylchiadau yn arwain at ganlyniadau annifyr, a dweud y lleiaf (21).
Geiriau
Unwaith eto pwysleisir bod yn rhaid gwylio ein geiriau. Doethach ymatal yn llwyr rhag llefaru na bod yn ‘eiddgar i siarad’ (20; cymharer 10:19; 15:28). Drwy eiriau cas a dicllon codir cynnen o bob math, yn fwriadol neu’n anfwriadol (22). Mae geiriau Salm 39:1 yn briodol iawn yn y cyswllt hwn: ‘Dywedais, “Gwyliaf fy ffyrdd, rhag imi bechu â’m tafod; rhof ffrwyn ar fy ngenau, pan fo’r drygionus yn f’ymyl.”’
Gelyniaeth
Yn ôl adnod 24, ‘Gelyn iddo’i hun’ yw’r sawl sy’n cyfeillachu â throseddwyr. Yn wir, dengys adnod 27 fod gelyniaeth sylfaenol rhwng y ‘cyfiawn’ a’r ‘drygionus’ (cymharer Iag. 4:4). Wedi’r cyfan, gwasanaethant wahanol feistri, sef Duw a Satan.
Gweledigaeth
Swm a sylwedd yr adran hon, a’r llyfr cyfan, yw bod yn rhaid byw yng ngoleuni Gair Duw. Datguddiad o wirionedd Duw drwy ei broffwydi yn yr Hen Destament yw ystyr ‘gweledigaeth’ yn adnod 18. Yn lle ymfalchïo yn ei ‘ddoethineb’ ei hun, bydd y person duwiol yn ymostwng i ddoethineb Gair Duw (23). Yn hytrach nag ofni pobl eraill neu ddilyn eu syniadau ofer, bydd yn mynnu ymddiried yn Nuw (25). Mewn geiriau eraill, bydd yn cymryd cyngor 3:5-8 o ddifrif ym mhob rhan o’i fywyd.