Diarhebion 29:1-14
‘Y MAE’R CYFIAWN YN CANU’N LLAWEN’
Y cyfiawn a chyfiawnder
Unwaith eto mae’r rhai cyfiawn yn cael eu canmol, a chyfiawnder yn cael ei gyflwyno fel peth llesol a buddiol. Mae llywodraeth, neu gynnydd, y cyfiawn yn peri llawenydd i bobl (2), ac yn dwyn bendith i’r wlad (4). Gwelir ffrwyth ei fywyd cyfiawn yn llawenydd ei rieni (3) a’i lawenydd ei hun (6). Dymuna gwrdd ag anghenion y tlodion, ac ymdrecha i ddiogelu eu hawliau yn wyneb pob gormes (7, 14). Sylweddola fod cyffro gwleidyddol a chymdeithasol yn aml yn cael ei ddefnyddio i ddibenion drwg neu’n arwain at anhrefn, ac felly mae ei fryd ar sicrhau heddwch hyd y mae hynny’n bosibl (8) a diogelu’r rhai ‘cywir’ sydd dan fygythiad (10; am enghraifft drawiadol, gweler Jer. 26:7-19, 24). Er teimlo pethau i’r byw, llwydda i reoli ei dymer (11). Dyma ganllawiau pwysig a gwerthfawr i bobl Dduw wrth iddynt geisio byw er clod iddo mewn byd syrthiedig.
Camwedd
Yn y byd syrthiedig hwn bydd y cyfiawn yn dod ar draws llawer o rai ‘drygionus’ sy’n gaeth i’w ‘camwedd’ (6). Yn eu plith ceir pobl sy’n ymateb i gerydd nid drwy ddiwygio eu bywyd ond drwy ystyfnigo (1), pobl sy’n gormesu eraill (2), a phobl sy’n gwastraffu eu heiddo – a’u holl fywyd – drwy fod yn gaeth i’w chwantau rhywiol (3). Nodir camweddau eraill: codi trethi’n ormodol (4; cymharer 1 Bren. 12:1-20), gwenieithio (5), ‘creu cyffro’ diangen, gan herio’r awdurdodau priodol (8), bod yn ‘waedlyd’, gan gasáu’r rhai cywir (10), methu â rheoli tymer (11), a llywodraethwr yn gwrando ar gelwydd (12). Dyma’r bobl sy’n byw yn y byd sydd ohoni, a rhaid wynebu’r her o wybod sut i ymddwyn yn eu plith.
Creawdwr
Anogaeth werthfawr i bobl Dduw wrth ymaflyd yn yr her hon yw cofio fod Duw yn goruwchlywodraethu ar bob un. Ef yw’r Creawdwr mawr, yr Un sy’n ‘goleuo llygaid’ y ‘tlawd a’r gormeswr’ fel ei gilydd (13; cymharer Math. 5:45). Tybia’r ‘gormeswr’ a’r rhai sy’n ymroi i gamwedd o bob math fod ganddynt rwydd hynt i bechu, ond ryw ddydd bydd yn rhaid i bawb roi cyfrif i’w Creawdwr.