Diarhebion 28:19-28
‘CAIFF Y FFYDDLON LAWER O FENDITHION’
Ymddiried yn yr Arglwydd
Yn yr adnodau hyn cyflwynir portread hyfryd ond heriol o’r sawl sy’n ‘ymddiried yn yr Arglwydd’ (25). Nodir nifer o agweddau pwysig ar ei gymeriad a’i fywyd ymarferol, er addysg i bob un ohonom:
- Mae’n gweithio’n galed ac yn gyson, gan gymryd ei alwedigaeth o ddifrif a cheisio darparu ar gyfer anghenion ei deulu (19).
- Mae’n ffyddlon: hynny yw, mae’n ffyddlon i Dduw, ond mae hefyd yn rhywun y gall pobl eraill ddibynnu arno ym mhob sefyllfa (20).
- Nid yw’n dangos ffafriaeth yn ei ymwneud â phobl (21).
- Hyd yn oed pan fydd mewn eisiau difrifol, nid yw’n barod i droseddu (21); yn hytrach, mae’n ymddiried yn yr Arglwydd sy’n medru cwrdd â’r eisiau hwnnw (Salm 23:1; 37:25; Heb. 13:5).
- Os bydd angen, mae’n barod i geryddu eraill am eu ffolineb annuwiol (23).
- Ym mhob peth mae’n ceisio dilyn doethineb (26), sef y duwioldeb ymarferol a eglurir yn y llyfr hwn.
- Mae’n rhoi’n hael er mwyn gofalu am y tlawd (27).
- Mae’n llawenhau pan gaiff drygioni ei drechu (28).
Pwysleisia’r adnodau hyn y bydd y cyfryw un yn profi bendithion helaeth (19, 20, 23, 25, 26, 27, 28). Nid yw Duw yn ddyledwr i neb: ‘y rhai sy’n fy anrhydeddu a anrhydeddaf’ (1 Sam. 2:30).
Ymddiried ynom ein hunain
Ond cyflwynir yma hefyd ddarlun o’r sawl sy’n ‘ymddiried ynddo’i hun’ (26), gan roi rhwydd hynt i’w chwantau hunanol:
- Mae’n dilyn oferedd (19).
- Yn ei drachwant, mae ar frys i ymgyfoethogi (20, 22, 25), hyd yn oed os bydd hyn yn golygu lladrata oddi wrth ei rieni (24).
- Mae’n barod iawn i wenieithio er mwyn dod ymlaen yn y byd (23).
- Mae’n anwybyddu anghenion pobl eraill (27).
- O’i osod mewn awdurdod dros eraill, mae’n eu gormesu (28).
Tybia’r cyfryw un y caiff les personol drwy ymddiried ynddo’i hun. Dengys yr adnodau hyn yn glir, fodd bynnag, mai ei dwyllo’i hun a wna.