Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Diarhebion 28:13-18

15 Mai 2017 | gan Gwyn Davies | Diarhebion 28

Diarhebion 28:13-18

‘GWYN EI FYD Y SAWL SY’N OFNI’R ARGLWYDD’

Adran fer yw hon, ond mae ynddi wersi eithriadol o bwysig.

Cuddio, cyffesu, cefnu, caledu

Yn y cyfeiriadau at Dduw yn Llyfr y Diarhebion, ei arglwyddiaeth dros bob rhan o fywyd a’r angen i’w anrhydeddu’n ymarferol o ddydd i ddydd sy’n cael y sylw pennaf. Yn adnodau 13 a 14, fodd bynnag, caiff nodyn gwahanol ei daro, sef ein hymwneud personol â’r Duw hwn:

  • Yn gyntaf, ofer ceisio cuddio pechodau, gan fod Duw yn gweld y cyfan (13). Am enghreifftiau trawiadol o’r gwirionedd hwn yn yr Hen Destament a’r Testament Newydd, gweler 2 Sam. 11:1—12:14; Act. 5:1-11.
  • Yn ail, yn lle ceisio cuddio pechodau rhag Duw – a rhag pobl eraill – dylid eu cyffesu’n agored (13). Am gyffes hynod Dafydd wedi iddo bechu’n enbyd, gweler Salm 32:1-5; 51:1-12; cymharer addewid 1 Ioan 1:8-9.
  • Yn drydydd, nid digon cyffesu: rhaid hefyd gefnu ar bechod (13), gan ymroi o hyn allan i ofni’r Arglwydd yn wastad (14).
  • Yn bedwerydd, dylid gwylio’n ofalus iawn rhag caledu calon yn erbyn galwadau Duw i gyffesu pechodau a chefnu arnynt (14). Dyna union gamgymeriad Pharo wrth ymateb yn ystyfnig i orchymyn Duw (e.e. Ex. 9:34-35).

Llywodraethu, llwgrwobrwyo, lladd

Mae adnodau 15-18 yn troi’n ôl at themâu cyfarwydd yn y llyfr hwn:

  • Yn gyntaf, ceir rhybuddion rhag llywodraethwyr ‘drygionus’ neu ‘heb ddeall’, a’r niwed a achosant i’r rhai sy’n gorfod byw dan eu hawdurdod (15-16). Gwae bobl y wlad honno – yn enwedig y tlodion a’r difreintiedig – sydd â llywodraethwyr felly.
  • Yn ail, mae llywodraethwyr anonest yn barod i dderbyn cil-dwrn er mwyn elwa ar eu hanghyfiawnder. Mae’r rhai sy’n ofni Duw, ar y llaw arall, yn ‘casáu llwgrwobr’ a phopeth sy’n gysylltiedig â hi (16).
  • Yn olaf, ym mhob cymdeithas – ond yn enwedig lle mae’r llywodraethwyr yn llygredig – ceir rhai sy’n euog o ladd eraill. Mae’r rhain yn haeddu’r dinistr a ddygant arnynt eu hunain (17); ond yr un fydd diwedd y sawl sy’n ‘droellog ei ffyrdd’ hefyd (18). Gall llywodraethwyr y ddaear hon fod yn annigonol iawn, a dweud y lleiaf, ond bydd y Brenin dwyfol yn mynnu cyfiawnder.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF