Diarhebion 28:1-12
‘SAIF Y CYFIAWN YN GADARN’
Cyfiawnder
Mae yn yr adnodau hyn wirioneddau gwerthfawr ynghylch y ‘cyfiawn’ a ‘cyfiawnder’. Mae rhyw gadernid hynod yn perthyn i’r ‘cyfiawn’ (1); gellir dibynnu arno ym mhob sefyllfa. O geisio’r Arglwydd mae’n gweld popeth o bersbectif Duw, ac felly’n deall ystyr a gwerth ‘cyfiawnder’, ynghyd â llawer o bethau eraill hefyd (5). O ganlyniad, daw lles iddo’i hun a hefyd i gymdeithas yn gyffredinol (12).
Tystia’r Beibl yn eglur nad oes neb yn gyfiawn ynddo’i hun. I’r gwrthwyneb: pechaduriaid ydym, wrth natur ac yn ymarferol. Rhaid wrth gyfiawnder gan Dduw, felly, i fod yn gyfiawn o’i flaen. Mae’r cyfiawnder hwn i’w gael drwy ffydd yn Iesu Grist (Rhuf. 3:9-26), ac mae’r sawl sydd wedi ei gyfiawnhau yng Nghrist i dystio i ras Duw drwy fyw’n gyfiawn.
Cyfraith
Rhoddir cryn sylw yma hefyd i bwysigrwydd cyfraith. Gwerth cyfraith a threfn o fewn cenedl yw testun adnod 2. Rhan o bwrpas cyfraith a threfn yw dileu gormes, gan gynnwys atal y tlawd rhag gorthrymu tlodion eraill (3). Mae’n bosibl mai cyfraith gwlad sydd dan sylw yn adnod 4 hefyd, ond mwy naturiol yw gweld yma, ynghyd ag adnodau 7 a 9, gyfeiriad at gyfraith Moses, sef gorchmynion Duw. Nid drwy ufudd-dod i’r gyfraith y mae bod yn gyfiawn gerbron Duw; fel y nodwyd uchod, dim ond drwy ffydd yng Nghrist y gall pechadur gael ei gyfiawnhau. Er hynny, cadw gorchmynion Duw yw ymateb priodol y credadun i’r iachawdwriaeth a sicrhaodd Duw (gweler y rhagarweiniad i’r Deg Gorchymyn yn Exodus 20:1-2, a hefyd Effesiaid 2:8-10).
Cyfoeth
I gloi, ceir rhybuddion i’r rhai sydd â’u bryd ar arian ac eiddo. Gofyn am helynt yw ceisio ennill arian drwy unrhyw fath o dwyll (6) neu ormes (8). (Nid gwahardd pob llog a wna adnod 8, ond rhybuddio pobl Dduw rhag manteisio’n ariannol ar ei gilydd, ar draul dangos cariad a chymorth ymarferol; cymharer Lefiticus 25:35-38.) Mae cyfoeth yn gallu arwain at agwedd falch a thrahaus (11); mwy gwerthfawr o lawer yw bod yn ‘ddeallus’ (11), ac ni fydd y ‘cywir’ byth ar ei golled (10).