Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Diarhebion 27:15-27

15 Mai 2017 | gan Gwyn Davies | Diarhebion 27

Diarhebion 27:15-27

‘Y MAE’R GALON YN DDRYCH O’R UNIGOLYN’

Hunan-les

Un o themâu sylfaenol y llyfr hwn yw bod bywyd sy’n anrhydeddu Duw yn siŵr o wneud lles i’r unigolyn a’r gymdeithas o’i amgylch (gweler, e.e., 3:5-10). Mae ceisio lles i’r hunan ar wahân i Dduw, ar y llaw arall, yn esgor ar bob math o drybini (gweler, e.e., 1:10-19). O ganlyniad, rhaid anelu at ddilyn canllawiau Duw ar gyfer ein bywyd, e.e. parchu rhybudd adnodau 15-16 ynghylch dewis gwraig (neu ŵr o ran hynny) ac anogaeth adnod 17 ynghylch ceisio cyfaill da – rhywun sy’n gwneud lles inni wrth inni rannu ein meddyliau, ein breuddwydion, a’n gofidiau ag ef. A daw lles hefyd o fod yn ffyddlon yn ein gwaith: ceir mesur o hunanfoddhad, ond bydd y ffyddlondeb hwnnw’n debygol o gael ei gydnabod gan ein cyflogwr yn ogystal (18).

Hunanadnabyddiaeth

Agwedd arall ar hunan-les yw adnabod ein hunain. Beth yw cyflwr ein calon? Beth yw ei dyheadau a’i chymhellion? Y galon sy’n datgelu inni ein gwir natur (19), a dylid sylwi’n fanwl ar ei gweithrediadau. Yn aml ceir ynddi ryw anfodlonrwydd, ryw ysfa am arian neu bethau neu brofiadau newydd (20) – yn wahanol iawn i agwedd Paul (Phil. 4:11). Mae’r galon yn siŵr o ymateb yn frwd i glod a chanmoliaeth, ond mae’r rhain mewn gwirionedd yn brawf llym ar ostyngeiddrwydd, didwylledd, a duwioldeb (21). Drwy’r prawf hwn mae cyfle i gadarnhau a gloywi cymeriad; ond nid oes modd newid y sawl sy’n mynnu bod yn gaeth i ffolineb naturiol ei galon, er pob ymgais (22).

Hunangynhaliaeth

Yn rhan olaf y bennod cyflwynir darlun hyfryd o’r modd y dylid cynnal bywyd materol a theuluol. Nid arian fel y cyfryw sy’n bwysig (24), ond gofal cydwybodol (23) a deall yr hyn sy’n mynd i fod er lles (26-27), heb geisio’r hyn sydd ymhell tu hwnt i bob cyrraedd. Tu ôl i’r cyfan mae’r Cristion yn cydnabod trefn a rhagluniaeth Duw, sy’n darparu’n ddigonol ar gyfer pob angen (Gen. 8:21-22; 9:1-3; Math. 6:25-34). Yn y Duw hwn y mae ein lles pennaf.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF