Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Diarhebion 27:1-14

15 Mai 2017 | gan Gwyn Davies | Diarhebion 27

Diarhebion 27:1-14

‘FY MAB, BYDD DDOETH’

Ymffrostio

Ceir tuedd ym mhob un i ymffrostio am yr hyn y mae’n mynd i’w wneud (1) neu am yr hyn y mae wedi ei gyflawni (2). Ond mae Duw’n ein gweld fel yr ydym – yn wan, yn fethedig, yn bechadurus. O’i flaen ef, felly, nid oes lle i ymffrostio (1 Cor. 1:29; Eff. 2:9). Hyd yn oed ar y lefel ddynol, y gwir yw nad yw’r gallu gennym i wneud fel y mynnom (Iag. 4:13-16).

Ymochel

Nid ydym chwaith yn medru rheoli pobl eraill. Peth call yw cadw draw oddi wrth y ffŵl, yn enwedig pan fydd yn llawn casineb (3). Mae cenfigen yn waeth fyth (4): yn lle gwrando ar ddadleuon rhesymol, mae hi’n benderfynol o wneud niwed i rywun arall. Rhaid bod yn effro i’r perygl, felly, er mwyn osgoi sefyllfa annymunol (12).

Ymgyfeillachu

Mor wahanol yw cyfaill da. Nid rhyw sioe wag a geir ganddo (14), ond cymorth a chefnogaeth. Bydd yn barod i roi gair o gerydd os bydd angen (5-6; yn niwedd adnod 6 ceir adlais o Jwdas, Math. 26:48-49), gan anelu at ‘gyfarwyddo’r enaid’ (9). Drwy ei gwmni a’i gyngor gall cyfaill – hen gyfaill i’r teulu, e.e. – fod yn fwy gwerthfawr hyd yn oed na brawd (10; 18:24). Mae’n hollol wahanol i’r person yn adnod 8 – un sy’n hoffi crwydro, gan gefnu ar ei gyfrifoldebau, ei deulu, a’i gyfeillion. Mae rhywbeth rhamantus – ond rhywbeth hynod o drist – am y math hwnnw o fywyd.

Ymrwymo

Mae ymrwymo’n rhan hanfodol o gyfeillgarwch, ond peth ffôl yw ymrwymo ‘dros ddyn dieithr’ heb sicrwydd fod gan hwnnw fodd i ad-dalu pan fydd angen (13; 6:1-5; 20:16). Mae Solomon yn canmol haelioni a thosturi (e.e. 22:9), ond hefyd yn ein rhybuddio rhag bod yn naïf.

Ymagweddu

‘Bydd ddoeth’ yw cyngor iachus adnod 11. Mae hyn yn golygu agwedd iawn at Dduw yn bennaf oll (9:10); o ganlyniad ceir agwedd iawn at bob rhan o’n bywyd, gan gynnwys ein hanghenion (7).

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF