Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Diarhebion 26:1-28

15 Mai 2017 | gan Gwyn Davies | Diarhebion 26

Diarhebion 26:1-28

Y FFŴL, Y DIOGYN, A’R RHAGRITHIWR

Ym mhennod 26 rhoddir sylw i dri dosbarth o bobl rydym wedi dod ar eu traws yn aml yn y llyfr hwn – ac yn ein bywydau bob dydd. Ein rhybuddio rhagddynt yw’r nod, ond mae’r darluniau yma hefyd yn ddrych i ni ein hunain: ai rhai felly ydym ni?

Y ffŵl

Y ffŵl yw’r cyntaf i ddod dan y chwyddwydr (1-12). Mae’n gwrthod Duw a’i safonau (1:7, 22, 29); tybia mai ef sy’n iawn, ac nid oes modd ei ddarbwyllo (12:15; 15:5). Gwelwn yma rai o’r goblygiadau. Yn gyntaf, mae anrhydeddu’r ffŵl yn siŵr o achosi helyntion blin (1, 8). Yn ail, gofyn am drafferth yw cynnig gwaith iddo (10). Yn drydydd, mae ei eiriau’n datgelu ei ffolineb: ni ellir ymddiried ynddo fel negesydd (6), a bydd yn gwneud hyd yn oed wirioneddau pwysig yn ddiwerth drwy eu camddeall neu eu gwyrdroi’n llwyr (7, 9). Yn bedwerydd, er y gall ymddangos ar adegau fel petai wedi dysgu ei wers, heb wir newid ysbrydol bydd yn mynd yn ôl at ei ffolineb yn hwyr neu’n hwyrach (11; cymharer rhybudd 2 Ped. 2:20-22). Eto i gyd, drwy ras Duw fe all y ffŵl gael ei newid; ond mae cyflwr y sawl ‘sy’n ddoeth yn ei olwg ei hun’, sy’n gwrthod gwrando a dysgu gwers, yn waeth fyth (12).

Y diogyn  

Yn adnodau 13-16 cyflwynir y diogyn unwaith eto. Mae ganddo bob math o esgus dros ei ddiogi (13). Ei gysur ei hun yw ei brif nod (14), ond weithiau mae hyd yn oed ei les ei hun yn ormod o drafferth iddo (15). Ac mae’n fedrus iawn wrth ei gyfiawnhau ei hun, gan ei fod yn sicr mai ei ffordd ef sydd orau (16).

Y rhagrithiwr

Yn niwedd y bennod deuwn wyneb yn wyneb â’r rhagrithiwr – y sawl sy’n mwynhau twyllo er mwyn cael hwyl (18-19), neu sydd wrth ei fodd yn creu cynnen (20-21) ac yn defnyddio geiriau i guddio’i wir gymhellion a pheri diflastod o bob math (22-25, 28). Tybia’r rhagrithiwr ei fod yn llwyddo i gelu ei dwyll rhag eraill, ond yn ddi-ffael bydd yn rhaid iddo wynebu’r canlyniadau (26-27; Salm 7:12-17).

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF