Diarhebion 25:15-28
‘FE DÂL YR ARGLWYDD ITI’
Mae pwysigrwydd ein hymwneud â ni ein hunain a phwysigrwydd y modd yr ydym yn ymwneud â phobl eraill yn themâu amlwg yn y llyfr hwn. Cawn yn yr adnodau hyn enghreifftiau gwerthfawr o’r naill a’r llall.
Ymwneud â ni ein hunain
Mae ‘rheoli ei dymer’ yn fater o bwys i bob un (28). Dyma un wedd ar hunanddisgyblaeth, sef rhan o ffrwyth yr Ysbryd Glân ym mywyd y Cristion (Gal. 5:22). Mae hunanddisgyblaeth hefyd yn cynnwys ein hagwedd at fwyd. ‘Bwyta fêl, oherwydd y mae’n dda,’ medd 24:13; ond o fwyta gormod ohono, daw canlyniadau amhleserus (16). Yr un neges a geir yn nechrau adnod 27, ond mae ail hanner yr adnod hefyd yn bwysig: nid da canmol a llongyfarch ein hunain. Adnabod ein hunain, cydnabod ein gwendidau, mynd ati i ffrwyno’r gwendidau hyn – dyma’r allwedd i ddatrys llawer o’n hanawsterau personol.
Ymwneud ag eraill
Cyflwynir yma ddwy wedd ar ymwneud ag eraill:
- Yn gyntaf, mae gwedd negyddol, sef pethau y dylem wylio rhagddynt. Peth braf yw galw heibio i berthynas neu gyfaill – ond rhaid peidio â bod yn faich arnynt drwy fynd yn rhy aml neu aros yn rhy hir (17). Peth braf yw bod yn llawn bywyd a hwyl – ond rhaid ystyried cyflwr ac amgylchiadau pobl eraill (20). Peth braf wedyn yw priodi – ond heb wneud y dewis iawn, creu problemau i ni ein hunain a wnawn (24). Ceir rhybuddion eraill sydd yr un mor bwysig: rhybudd rhag camdystiolaeth a thwyll (18); rhybudd rhag ymddiried mewn twyllwr neu rywun anffyddlon (19); rhybudd rhag gwrando ar glecs a sïon (23); a rhybudd rhag cyfaddawdu neu ildio tir ‘o flaen y drygionus’ (26).
- Yn ail, mae gwedd gadarnhaol, sef pethau y dylid ymroi’n wresog iddynt. Yn eu plith mae meithrin amynedd a llefaru geiriau tyner (15). Agwedd iawn at ein gelynion yw un arall (21-22; cymharer 24:17-18; Rhuf. 12:20-21). Ac yna, cofiwn mor werthfawr yw ‘newydd da o wlad bell’ (25). Braint y Cristion yw dwyn ‘newydd da am lawenydd mawr’ (Luc 2:10), sef newyddion da am Iesu Grist, i enaid ‘sychedig’ (25).