Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Diarhebion 25:1-14

15 Mai 2017 | gan Gwyn Davies | Diarhebion 25

Diarhebion 25:1-14

‘GAIR … YN EI BRYD’

Priodolir y diarhebion ym mhenodau 25–29 i Solomon, er mai gweision y Brenin Heseceia a fu’n eu casglu a’u trefnu (1). Nid ydynt mor gwta â’r rheini yn yr adran o bennod 10 ymlaen, ac nid yw’r cyferbynnu rhwng da a drwg o fewn yr un ddihareb mor amlwg. Serch hynny, mae’r gwersi’n aros yr un mor werthfawr.

Ymchwilio

Ni ellir byth ymchwilio i fawredd meddwl a bwriad Duw (Deut. 29:29; Rhuf. 11:33-36), ond mae gan frenin gyfrifoldeb i ymchwilio i’r hyn sy’n digwydd o fewn ei deyrnas (2). Ni fydd brenin doeth yn datgelu pob agwedd ar ei gynlluniau (3), ond bydd yn siŵr o ymchwilio’n ddyfal er mwyn cael gwared ag unrhyw ddrygioni a all wneud niwed i’w bobl – ac iddo’i hun (4-5).

Ymddyrchafu

Ceir rhybudd arall rhag balchder, y tro hwn yng nghyd-destun y llys brenhinol (6-7; cymharer Luc 14:7-11). Yn y bôn, yr un yw ergyd adnod 14: dylid gwylio rhag y sawl sy’n ‘brolio rhodd heb ei rhoi’ – hynny yw, un sy’n rhagrithio ynghylch ei haelioni, neu un sy’n brolio am ei ddoniau a’i gampau er bod y rhain yn affwysol o brin. I’r dosbarth hwn y mae gau athrawon yn perthyn (cymharer Jwd. 12).

Ymbwyllo

Ceir rhybudd gwahanol yn adnodau 8-10. O gael ein tramgwyddo gan rywun arall, yn lle ‘brysio’ i ymateb (8) dylid ymbwyllo a ffrwyno’n tymer. Mae’n bosibl mai camddeall a wnaethom, a phrofwn gywilydd pan gawn ein goleuo ynghylch y ffeithiau (8). Dylem ddilyn cyngor rhan gyntaf adnod 9, felly, sef trafod y mater yn agored ond yn bwyllog cyn i bethau fynd o ddrwg i waeth; cymharer Mathew 5:25; 18:15. Mae’n bwysig iawn peidio â gwylltio’r person arall drwy sôn am yr achos yn gyhoeddus, ac ymbwyllo rhag datgelu cyfrinachau’n gyffredinol (9b-10).

Ymlawenhau

Yn adnodau 11-13 dangosir gwerth ‘gair … yn ei bryd’ (11) – hyd yn oed os cerydd fydd hwnnw (12). Mae’r gwir, wedi ei lefaru’n ffyddlon, yn peri i bobl ymlawenhau. Mynnwn ‘ddilyn [neu lefaru] y gwir mewn cariad’, felly (Eff. 4:15).

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF