Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Diarhebion 24:23-34

15 Mai 2017 | gan Gwyn Davies | Diarhebion 24

Diarhebion 24:23-34

‘SYLWAIS A DYSGU GWERS’

Dyma adran fach ychwanegol sy’n cynnwys rhagor o ‘eiriau’r doethion’ (23). Rydym wedi dod ar draws nifer o’r gwersi eisoes, ond mae’r ffaith iddynt gael eu hailadrodd yma’n tanlinellu eu pwysigrwydd i bawb ohonom.

Derbyn wyneb

Mae adnod 23 yn seinio rhybudd clir: ‘Nid yw’n iawn dangos ffafr mewn barn.’ Yn adnod 24 wedyn cyhoeddir canlyniadau difrifol gwyro barn. Rhaid i lys barn, a phob man arall sydd i fod i weinyddu cyfiawnder, fod mor deg ag y bo modd, heb dderbyn wyneb neb. Yn y pen draw daw gwerth llefaru a gweithredu ‘gonest’ yn amlwg (25-26). Gweler y modd y disgrifir geiriau ‘Doethineb’ yn 8:6-9.

Darbod

Pwysigrwydd ystyried yn bwyllog ymlaen llaw yw ergyd adnod 27. Mae angen darbod yn ofalus, gan osod seiliau ariannol ac economaidd diogel, cyn codi ‘tŷ’ – cyfeiriad syml at adeilad, o bosibl, neu at briodi a chychwyn teulu, neu at unrhyw fenter arall o bwys. Mae lle gwerthfawr i ramant a breuddwydion, ond rhaid bod yn siŵr yn ogystal fod y gynhaliaeth sylfaenol yn ddiogel cyn ystyried ymrwymiad tymor hir, gan gynnwys ymrwymiad priodasol. Gweler Luc 14:28-30.

Dial

Yn adnodau 28-29 ceir rhybudd arall rhag dial, ac yn enwedig rhag ildio i dwyll er mwyn talu’r pwyth yn ôl. ‘Talaf iddo yn ôl ei weithred’ (29) yw ffordd y byd o feddwl ac ymddwyn; mae’r Cristion, ar y llaw arall, yn dilyn ffordd hollol wahanol (20:22; Luc 6:27-36).

Diogi

Darlun trawiadol o ganlyniadau diogi sydd yn adnodau 30-34. Gall y rhybudd ymddangos yn amherthnasol mewn byd lle mae’r workaholic yn cael sylw amlwg. Am bob un felly, fodd bynnag, mae digon o rai diog sy’n ceisio osgoi pob llafur neu’n ymagweddu’n ffwrdd â hi at eu dyletswyddau. Ar ben hynny, mae’n bosibl i bobl fod yn ddiwyd iawn yn eu swyddi – a’u hamdden – ond yn eithriadol o ddiog ac esgeulus yn eu hagwedd at eu heneidiau. Gweler yr enghraifft drist yn Luc 12:16-21.

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF