Diarhebion 24:1-22
‘Y MAE’R DOETH YN FWY GRYMUS NA’R CRYF’
Pwysigrwydd persbectif cywir yw prif ergyd yr adnodau hyn. Yn lle sylwi ar bethau fel yr ymddangosant ar yr wyneb, bydd gweld popeth yng ngoleuni Gair Duw yn ein cadw rhag llu o ofidiau di-sail a’n hatal rhag gwneud pob math o gamgymeriadau.
Drygioni
Temtasiwn cyffredin yw cenfigennu wrth y rhai sydd fel petaent yn llwyddo er gwaethaf – neu oherwydd, efallai – eu drygioni. Dyna gefndir adnodau 1-2 a 19. Ond mae angen cadw dau beth mewn golwg. Yn gyntaf, mae eu bwriadau a’u gweithredoedd yn ddrwg ynddynt eu hunain (2, 8-9), ac felly’n wrthun i blentyn Duw cyfiawn. Yn ail, llwyddiant dros dro’n unig sydd i’r annuwiol. Yn hwyr neu’n hwyrach, daw’r dydd o gyfrif a ‘diffoddir goleuni’r drygionus’ (20; cymharer 16, 21-22). Rydym wedi cyfeirio at Salm 73 o’r blaen, ond mae’n werth troi’n ôl ati am oleuni pellach.
Doethineb
O’u cymharu â’r rhai drwg a’u tynged, mor ddymunol yw cyflwr a dyfodol y rhai doeth. Nid felly y mae’n ymddangos ar yr olwg gyntaf yn aml, mae’n wir; ond o bersbectif Gair Duw profant gadernid (3), gwir foddhad (4), nerth ysbrydol a moesol (5), a goleuni ar wynebu pob her a bygythiad (6). Nid ydynt yn barod iawn i roi’r ffidil yn y to (10). Nid ydynt yn anystyriol o bobl eraill – hyd yn oed y rhai sydd ar eu ffordd i gael eu dienyddio (11), na’u gelynion chwaith (17; Ex. 23:4-5). Nid ydynt yn fodlon defnyddio anwybodaeth fel esgus tila (12). Yn hytrach, maent yn gwrthsefyll pob ergyd ac yn mynnu codi i’r lan eto (16). Gofalant am eu cyrff (13), ond yn fewnol y mae eu gwir gryfder (14).
Duw
Sylfaen cryfder y rhai doeth yw ofn Duw (21). Wrth ofni Duw gwelant bopeth o’r persbectif cywir, a syrthia’r darnau i gyd i’w lle. Gwyddant fod yn rhaid iddynt roi cyfrif i Dduw (18), yr Un ‘sy’n pwyso’r galon’ (12), ac mae hyn yn llywio eu hagwedd at bob rhan o fywyd, gan gynnwys eu perthynas â’r awdurdodau seciwlar (21; 1 Ped. 2:17). O gael Duw yn y canol, ceir persbectif iach ar bopeth arall.