Chwilio'r safle

Rhowch y geiriau allweddol yn y blwch isod:

Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni ac rydym felly wedi adnweyddu ein polisi preifatrwydd i fod yn gymwys a deddfwriaeth GDPR newydd. Gellir gweld y polisi drwy glicio yma.

Polisi preifatrwydd

Bara’r Bywyd Diarhebion 23:19-35

15 Mai 2017 | gan Gwyn Davies | Diarhebion 23

Diarhebion 23:19-35

‘PRYN WIRIONEDD, A PHAID Â’I WERTHU’

Rhagoriaethau

‘Bydd ddoeth,’ medd adnod 19, a cheir yn y darn hwn gipolwg ar y rhagoriaethau sydd ynghlwm wrth wir ddoethineb.

Yn gyntaf, mae doethineb yn gysylltiedig â gwirionedd, cyfarwyddyd (neu addysg), a deall (23), pob un ohonynt yn werthfawr ar gyfer byw gerbron Duw a phobl eraill. Wrth feddwl yn arbennig am wirionedd, ni ellir gwneud yn well na dyfynnu emyn Thomas William, gan gofio hefyd Ioan 14:6; 17:17 ac Effesiaid 6:14:

O! pryn y gwir, fy enaid, pryn,
Na werth ar un amodau;
O holl drysorau môr a thir,
Y gwir yw’r trysor gorau.

Y gwir fel gwregys, ar bob cam,
Yn dynn fo am ein lwynau;
Y gwir ei hun a geidw’n bron
Yn llon mewn gorthrymderau.

Rhy’r gwir im gysur dan y loes
Pan ddelo f’oes i fyny:
Daw hwn â’m henaid i’r pryd hyn
Trwy’r glyn dan orfoleddu.

Yn ail, mae doethineb hefyd yn cyfoethogi bywyd teuluol. Gwelsom eisoes sut mae diffyg doethineb yn esgor ar gywilydd a gofid o fewn y teulu (e.e. 17:21, 25; 19:13, 26), ond yn adnodau 25-26 cawn enghraifft ragorol o’r berthynas deuluol fel y dylai hi fod. Mae anogaeth adnod 22, felly, yn bwysig iawn. Ac os yw perthynas agos, gynnes, serchus yn allweddol yn yr ymwneud rhwng plentyn a rhiant (26), felly hefyd rhwng y Cristion a Duw.

Rhybuddion

Ond ceir neges arall hefyd yn yr adnodau hyn. Rhybuddion sydd yma rhag rhai o’r temtasiynau mwyaf cyffredin, a mwyaf grymus, sy’n ceisio baglu pobl heddiw.

  • Yn gyntaf, mae rhybudd rhag meddwdod – a hefyd rhag bwyta gormod (21). Rhoddir sylw arbennig i beryglon a chanlyniadau meddwdod yn adnodau 29-35. Yn waeth na’r cwbl mae’r meddwyn yn gwrthod cydnabod yr hyn sy’n digwydd, ac yn ysu am ragor (35).
  • Yn ail, ceir rhybudd rhag ‘putain’ (27-28). Mae ysbryd yr oes yn ceisio twyllo pobl i roi rhwydd hynt i chwantau rhywiol, ond y gwir yw mai caethiwed yw’r ‘rhyddid’ hwn (27). Dyna pam y mae cyngor adnod 23 mor bwysig: ‘Pryn wirionedd.’

Ffeiliau i lawrlwytho

Lawrlwytho PDF