Diarhebion 23:1-18
‘OFNI’R ARGLWYDD BOB AMSER’
Twyll
Mae ‘dod ymlaen yn y byd’ yn nodweddu pobl ym mhob oes. Fe’n hatgoffir yn yr adran hon, fodd bynnag, fod elfen o dwyll – a hunan-dwyll – yn cyd-fynd yn aml ag uchelgais personol a chwant am statws a sylw.
Yn gyntaf, mae ‘eistedd i fwyta gyda llywodraethwr’ (1) yn arwydd o lwyddiant cymdeithasol. Serch hynny, o’r braidd y gellir ymlacio i fwynhau’r wledd. Yn wir, ‘bwyd sy’n twyllo ydyw’ (3): gall y llywodraethwr ddefnyddio’r achlysur i estyn ei ddylanwad ar y gwahoddedigion, neu ddisgwyl ffafr yn ôl ganddynt. Rhaid bod yn hunanddisgybledig mewn sefyllfa o’r fath, felly (2), rhag gwneud ffŵl ohonom ein hunain neu – yn waeth fyth – ein rhoi ein hunain yng ngafael y llywodraethwr.
Yn ail, mae pobl yn ymroi ‘i ennill cyfoeth’ (4) fel arwydd o lwyddiant daearol. Hunan-dwyll yw’r perygl yma, gan fod cyfoeth yn gallu diflannu’n fuan (5). Yn wir, yn wyneb angau mae’n gwbl ddiwerth inni. Gweler 1 Timotheus 6:7-10.
Yn drydydd, mae pobl yn hoffi derbyn gwahoddiadau i’r hyn a’r llall – arwydd arall eu bod wedi ‘cyrraedd’. Ond gall gwahoddiad cybydd fod yn gyfle iddo ddwyn pwysau arnom neu sicrhau rhyw gymwynas gennym (6-8). Er ei groeso cynnes, ‘ni fydd yn meddwl hynny’ (7), gan ei fod wrthi’n cynllunio ar hyd yr amser.
Yn olaf, mae rhai’n barod i dwyllo a gormesu eraill, yn enwedig yr anghenus, er mwyn sicrhau llwyddiant (10). Tybiant na fydd neb yn eu rhwystro; ond nid dyna’r gwir (11).
Pwyll
Mae’n bwysig dirnad y twyll sydd yn y galon ddynol, felly – ac mae angen cymryd pwyll o’r herwydd.
Yn gyntaf, mae angen bod yn bwyllog ein geiriau (9; Math. 7:6).
Yn ail, bydd person pwyllog bob amser yn barod i ddysgu (12) a ‘llefaru’n uniawn’ (16), fel un sy’n myfyrio’n gyson yng Ngair Duw (Salm 1:2-3).
Yn drydydd, mae pwyll yn cydnabod fod angen mesur priodol o ddisgyblaeth ar blentyn er mwyn iddo dyfu’n iach ei agwedd a’i ymddygiad (13-16).
Yn olaf, mae angen ymbwyllo rhag cenfigennu wrth yr annuwiol a’u ‘llwyddiant’ dros dro. Llawer gwell ym mhob ffordd yw ‘ofni’r Arglwydd bob amser’ (17-18).