Diarhebion 22:17-29
‘LLAWN CYNGOR A DEALL’
Mae newid cywair yma. O 22:17 i 24:22 ceir eto ddiarhebion craff ac ergydiol, ond maent ychydig yn fwy estynedig na’r rhai cwta rhwng 10:1 a 22:16. Mae peth tebygrwydd rhyngddynt a chasgliad o ddiarhebion o’r Aifft, sef Dysgeidiaeth Amenemope, ond un o’r pethau sy’n gosod yr adran hon ar wahân yw’r cyfeiriadau penodol at Dduw fel yr Un sydd ag awdurdod dros bawb. Byd Duw yw hwn, medd y llyfr yma, ac i gael bywyd cyflawn rhaid bod mewn perthynas iach ag ef.
Gobaith
Rhan o nod y ‘doethion’ (17), felly, yw arwain y darllenwyr i gael gobaith a hyder yn y Duw hwn (19). Mae’r llyfr yn gwbl onest ynghylch y natur ddynol, a’r holl ofid a helynt a ddaw yn ei sgil. Nid oes lle i obeithio mewn pobl, mae’n amlwg, ond mae’r gobaith a’r hyder sy’n ganlyniad i ymddiried yn Nuw yn rhoi gwedd wahanol ar fywyd. Yn wir, pwysleisia’r llyfr mai dyma’r unig ffordd ddiogel i wynebu bywyd ar y ddaear a pharatoi ar gyfer bywyd yn y nefoedd. Gweler 3:5-8.
Gwirionedd
Nid gobaith disylwedd sydd yma – nid ‘gobeithio’r gorau’ a fawr ddim mwy. Sail y gobaith, a sail bywyd y Cristion yn y byd hwn yn gyffredinol, yw ‘gwirionedd geiriau cywir’ (21). Ble mae cael y gwirionedd hollbwysig hwn? Cawn yr ateb yn Ioan 17:17. A sut mae gweithredu’r gwirionedd?
Cyflwynir cyngor ymarferol yn yr adnodau sydd dan sylw:
- Yn gyntaf, dylid parchu a gofalu am y tlodion, yn enwedig o gofio consýrn Duw ei hun amdanynt (22-23).
- Yn ail, mae’n bwysig ystyried pwy yw ein cyfeillion, gan wneud ymdrech fwriadol i osgoi dylanwadau drwg (24-25).
- Yn drydydd, rhaid gwylio rhag ymrwymo i gytundebau ffôl ac anghyfrifol (26-27).
- Yn bedwerydd, mae angen ymwrthod â’r math o drachwant sy’n barod i dwyllo er mwyn ennill mantais dros eraill (28; cymharer 23:10-11). Ceir yma hefyd rybudd rhag wfftio’n ddifeddwl hen draddodiadau, yn enwedig y rhai a ordeiniwyd gan Dduw.
- Ac yn olaf, dylid anelu at weithio’n galed a chydwybodol, er mwyn i’n gwaith fod yn dystiolaeth i’n gobaith ac i’r gwirionedd sy’n sail iddo (29).