Diarhebion 22:1-16
‘GWOBR … OFN YR ARGLWYDD’
Cyfoeth
Mae arian a chyfoeth – neu eu habsenoldeb – yn rhan annatod o fywyd dynol. Gan fod caru arian yn achosi pob math o ddrygioni (1 Tim. 6:10), fodd bynnag, mae’n bwysig cael yr agwedd gywir ato. Dyna ergyd nifer o’r damhegion yma.
Gosodiad cyffredinol sydd yn adnod 7: ar y cyfan, mae’n wir fod y ‘cyfoethog yn rheoli’r tlawd’. Ond y temtasiwn wedyn yw gormesu’r tlawd er mwyn ychwanegu at y cyfoeth; ac yn y pen draw bydd canlyniadau difrifol i’r ymagweddu sarhaus hwn (16). Gwell o lawer yw meithrin agwedd iach at gyfoeth. Mae lle priodol i arian ac aur – ond mae pethau pwysicach i’w cadw mewn golwg (1). Bydd Duw yn siŵr o wobrwyo ei bobl (4). Bydd eu gwobr yn gyflawn yn y nefoedd (Math. 19:28-29; 1 Ped. 1:4); ond os daw cyfoeth i’w rhan ar y ddaear maent i’w ddefnyddio’n hael i gynorthwyo’r anghenus (9). Yn y diwedd daw’r tlawd a’r cyfoethog i’r un man, sef o flaen Duw eu Creawdwr i roi cyfrif iddo am eu bywydau (2). Nid oes lle i ymffrostio mewn cyfoeth, felly; yn hytrach, rydym yn atebol i Dduw am ein defnydd ohono.
Canfod
Yn ogystal â chanfod gwir werth cyfoeth, rhaid canfod peryglon drygioni, er mwyn dianc mewn pryd (3). Rhwydd iawn mynd gyda’r dorf, heb ganfod fod y ffordd – er yn llydan braf – yn arwain i ddistryw (Math. 7:13). Ceir enghraifft benodol o bwysigrwydd y canfod hwn yn adnod 14, er rhybudd i ni. Ar yr un pryd mae Duw yn canfod y peryglon i ddoethineb a deall, gan eu gwarchod a’u diogelu er mwyn dangos eu gwerth (12).
Cyfarwyddo
Os yw dysgu trin arian yn ddoeth yn bwysig, felly hefyd ddysgu trin plant. Mae angen rhoi cyfarwyddyd doeth, cytbwys, a sensitif i blentyn o’r cychwyn (6). Ond rhaid wrth rywbeth mwy na chyfarwyddyd cyffredinol, gan mai pechaduriaid ydym ni a phechaduriaid yw ein plant. ‘Y mae ffolineb ynghlwm wrth feddwl [neu galon] plentyn’, a rhaid cymryd camau priodol i ddelio â’r broblem (15). Nid creulondeb sydd yma, ond canfod y gwir am y natur ddynol, hyd yn oed mewn plentyn.